Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llun 2. Golau trydan. Gwerth diwydiannol Gosodir lled-ddargludydd yn y canol rhwng metel (dargludydd uchel) ac ynysydd (nad yw'n dargludo) wrth drafod defnyddiau sy'n wrthiant i gerrynt trydanol. Rhain ydy sylfaen transistor a dyfeisiadau eraill 'solid state' a ddefnyddir yn helaeth yn y diwydiant electroneg. Yn ôl Dr Bard, yn ystod y pedair mlynedd ar ddeg diwethaf, mae'r rhain wedi cael eu harbrofi ar gyfer eu defnyddio mewn celloedd photoelectrocemegol, ac yn cynhyrchu trydan neu adweithiau cemegol pan ddisgyn yr haul arnynt. Mae'r defnyddiau yn rhai drud, ond un ffordd o leihau'r gost ym marn Dr Bard yw eu defnyddio ar ffurf ffilm denau neu gylchoedd bychain. Cyfeiriodd at un system lle rhoddwyd cylchoedd bychain o silicon mewn matrics gwydr a'i ollwng i doddiant hydrogen bromid. Pan adlewyrcha goleuni'r haul ar y system, cynhyrchir hydrogen a bromid, ac yna caiff y rhain eu storio ac yn nes ymlaen cant eu hatgyfuno mewn cell danwydd i gyn- hyrchu trydan. Adroddodd Dr A Despic o Adran Feteleg Dechnegol Prifysgol Belgrade, Yugoslavia, fod electrocemeg wedi agor maes diwydiannol newydd o bwys. Gelwir ef yn 'ddiorseddiad electrophoretig' ac mae'n peri gwell ymlyniad mewn paent a gorchuddion plastig, a mwy o fanteision technegol yn hytrach na dulliau chwistrellu clasurol. Mae prosesau electrocemegol yn addas iawn ar gyfer dadansoddiad mesurol o gemegau, yn ôl Dr Despic, gan fod yr arwyddion a gynhyrchir yn hawdd i'w bwydo i offerynnau electronig a'u prosesu gan gyfrifiadur. Enill- odd Jan Hayrovsky Wobr Nobel ym 1964 am ddatblygu system o'r fath. Wrth ddatblygu'r system gellir mesur un rhan o gant o un haeniad o atomau o un metel ar wyneb un arall, a dangos, yr un pryd, sut mae metelau yn adweithio â'i gilydd. Cyfeiriodd Dr Despic at un o'r batris electrocemegol mwyaf modern ac at efallai un o'r rhai cyntaf a wnaeth- pwyd, flynyddoedd cyn batri Volta hyd yn oed. Gelwir y batri modern yn 'saline-electrolyte aluminium-air bat- tery' ac yn ôl Dr Despic 'mae'n cynrychioli ffynhonnell pwer trydanol mwyaf cydnaws a derbyniol i'r amgylch- fyd a wnaethpwyd erioed'. Mae'r batri yn defnyddio alwminiwm fel anod, sy'n cael ei dreulio'n araf wrth ddod i gysylltiad ag electrolyt, gan greu trydan. Sudda'r- anod i'r gell wrth gael ei dreulio, ac yn ei le daw platiau tanwydd newydd o gronfa arall. Yna mae cynnyrch alwminiwm ocsid yn cronni ac yn edrych fel tywod a chaiff ei ddadlwytho bob hyn a hyn. Mae cost y tanwydd metel a gaiff ei dreulio yn uwch na batris metel-awyr tebyg, ond gellir ei ddefnyddio lle na ellir defnyddio prif gebl trydan. Felly mae'n ddefnyddiol ar gyfer cychod hwylio, teledu ar ben y mynydd, bwi ysgafn ar y môr, ac efallai fel ffynhonnell drydan i dai mewn gwledydd sy'n datblygu lle nad oes ffynhonnell drydanol arall. Darganfuwyd hen 'fatri' ym Mesopotamia, yng ngweddillion pentrefParthiaidd ac mae'n 2,200 mlwydd oed. Yn ôl Dr Despic, ffynhonnell pwer cemegol dull cell elfennol ydyw: ynddo roedd darn haearn a siten copr wedi ei phlygu i wneud silindr o'i amgylch. Gosodwyd y ddau yma mewn jar seramig a allai fod yn llawn o sudd grawnwin. Yn ôl Dr Despic, cael ei ddefnyddio fel ffyn- honnell pwer rhyfedd er mwyn rhoi aur ac arian ar wrthrychau metel y mae. Afiechydon yr ymennydd Soniodd Dr R. M. Wightman, o adran gemeg Prifysgol Indiana, UDA, am ddefnydd estronol electrocemeg. Mae Dr Wightman wedi bod yn mesur cemegion ymenn- ydd llygod mawr drwy ddefnyddio electrodau cemegol. O ganlyniad i'r gwaith ymchwil yma, gwelwyd pa mor bwysig yw'r cemegion yn swyddogaeth yr ymennydd. Gallai hyn arwain at ffyrdd newydd o atal neu arafu rhai afiechydon yr ymennydd. Er enghraifft, diffyg dopamin yn yr ymennydd sy'n achosi Afiechyd Parkinson. Trosglwyddydd niwral yw'r dopamin — cemegolyn sy'n cael ei guddio gan gelloedd nerf ac sy'n trosglwyddo negeseuon o'r ymennydd. Dywed Dr Wightman ei bod bellach, wedi llawer o flyn- yddoedd o arbrofi, yn bosibl mesur trosglwyddyddion niwral trwy ddulliau electrocemegol. Gallai hyn arwain at driniaeth llwyddiannus i'r Afiechyd Parkinson trwy ychwanegu dopamin lle mae ei angen. Cynhaliwyd fforwm UNESCO i edrych ar ogwydd ymchwil i'r dyfodol ym myd electrocemeg ac i sefydlu deialog rhwng electrocemeg ac arbenigwyr eraill mewn disgyblaethau a allai ddefnyddio electrocemeg. Y rheswm am ei gynnal hefyd oedd cyflwyno'r maes arbennig i'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd ag ef fel bod y rhai sy'n gwneud polisi gwyddonol yn gwybod am boten- sial y pwnc ar gyfer anghenion y dyfodol. Barn llawer o arbenigwyr yn y fforwm oedd bod elec- trocemeg yn argoeli'n dda er budd gwledydd sy'n dat- blygu a hynny gan fod y prosesau yn gymharol rhad ac yn hawdd a hefyd yn bosibl eu haddasu ar gyfer defnyddiau a sefyllfaoedd byd sy'n datblygu.