Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mathemateg a'r Cyfrifiadur Onid yw addysg fathemategol yn debygol o gael ei chyfoethogi wrth i blant ymdrin â'r cyfrifiadur yn yr ystafell ddosbarth gynradd? Nid o angenrheidrwydd yw casgliad pro- siect yn Ne Morgannwg a noddwyd gan Bwyllgor Cymru PDCAY. Barn mwyafrif y priathrawon a holwyd oedd nad oedd y cyfrifiadur wedi newid dim ar ddysgu mathemateg yn yr ysgol; ategwyd hyn gan fwyafrif yr athrawon. Bu dau o athrawon De Morgannwg yn ymweld â rhyw ddeg ar hugain o ysgolion cynradd y sir i gasglu tystiolaeth. Lleiafrif ohonynt oedd wedi llwyddo i integreiddio'r cyfrifiadur i gwricwlwm mathemategol yr ysgol er iddynt i gyd gweld hyn fel y cam datblygol nesaf. Fodd bynnag, cafwyd rhai enghreifftiau o athrawon yn defnyddio'r cyfrifiadur i ysgogi diddordeb, i ehangu profiad, i ymestyn plant galluog a chymell trafodaethau staff. Rhaglenni dril ac ymarfer yn unig a ddefnyddiwyd gan athrawon eraill. Daw'r adroddiad i'r casgliad fod athrawon yn dymuno cael rhagor o gymorth a chyfle i gyd-drafod o fewn yr ysgol ei hun ac o fewn y sir fel y gellir gwneud defnydd ehangach o'r dechnoleg. Nodwyd hefyd y problemau trefniadol sy'n codi wrth geisio cyflawni gwaith cyfrifiadurol ymestynnol am gyf- nodau byr yn ystod y flwyddyn. Onid oes angen rhagor o beiriannau ym mhob ysgol? Gellir sicrhau copi llawn o'r adroddiad drwy anfon at y Ganolfan Athrawon, Mynachdy, Gabalfa, Caerdydd. HOWARD LLOYD Ymgynghorydd Mathemateg Awdurdod Addysg De Morgannwg Deunydd Hyfforddiant Cyfrwng Cymraeg O dan nawdd cynllun Hyfforddiant Mewn Swydd ADAG (TRIST) gwnaed cais i Gomisiwn Gwasanaethau'r Gweithlu am gyllid i alluogi siroedd Cymru i gynhyrchu deunydd hyffor- ddiant i athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd technegol a galwedigaethol. Bu'r cais yn llwyddiannus, ac yn ystod y cyfnod o Ionawr 1986 hyd Ionawr 1987 mae chwech o'r siroedd yn paratoi pecynnau. Dyma rai o'r canllawiau y cytunwyd arnynt ar gyfer y prosiect: I. Datblygir y deunydd gan athrawon/arweinwyr cwricwlwm sy'n ymwneud ag addysg ddwyieithog. 2. Bydd yn deillio o anghenion a nodwyd, ac yn canolbwyntio ar y gwastad dysgu. 3. Bydd yr hyn a gynhyrchir yn addas ar gyfer hyfforddi athrawon ac i'w ddefnyddio gyda disgyblion. 4. Treialir y deunydd mewn gwahanol siroedd a bydd yr hyn a gynhyrchir o fewn un sir ar gael i'r gweddill. Yn ystod blwyddyn y prosiect rhoddir pwyslais ar sicrhau fod yr hyn a gynhyrchir yn briodol fel deunydd hyfforddiant ac ar gyfer disgyblion. Wedi'r Pasg 1987 y gobaith yw y bydd pob sir yn ei gynnwys o fewn y rhaglen Hyfforddiant Mewn Swydd newydd sydd yn yr arfaeth. Dyma amlinelliad o'r gwaith sy'n cael ei wneud ym mhob maes a'r modd y trefnwyd i gyflwyno'r hyn a gynhyrchir ysgolion sy'n cymryd rhan yn y treialu: Astudiaethau Busnes — Clwyd Cynhyrchir nifer o fydylau hunangynhaliol a fydd yn addas ar gyfer TGAU, TAGA neu unrhyw gwrs sgiliau bywyd. Gellir integreiddio'r mydylau i ffurfio cwrs cyflawn drwy redeg menter mini ar y cyd â'r mydylau. Technoleg/Electroneg Gwynedd a De Morgannwg Pecyn 1 Cychwyn Microelectroneg. Cynlluniwyd y pecyn hyff- orddiant hwn fel y gall athrawon eu haddysgu eu hunain trwy gael profiad o drafod cydrannau electronig a'u defnyddio adeiladu cylchedau ar fwrdd cynllunio. Gellir cynnwys v deunydd i gyflwyno Microelectroneg i ddisgyblion o fewn cwrs Gwyddoniaeth blwyddyn 1 a 2, neu Ffiseg blwyddyn 3 ac mae'n addas i'r holl ystod gallu. Pecyn 2 Electroneg TGAU. Darperir nifer o fydylau yn dilyn meini prawf TGAU a gellir eu cynnwys fel rhan o gwrs Technoleg, Ffiseg, Gwyddoniaeth neu CDT. Gyda'i gilydd fe ffurfia'r mydylau gwrs cyflawn Systemau Electroneg a threfnwyd y pecyn fel y gall athro ei astudio'n annibynnol gyda chymorth tiwtor 11e bo angen. Gall disgybl ei ddefnyddio yn yr un modd o fewn y dosbarth yn y 4edd a'r 5ed flwyddyn neu fel ymestyniad i gwrs Safon Uwch neu TAGA yn y 6ed. Dyma'r unedau a baratoir: 1. Offer Prawf a Chydrannau (yn cynnwys adran ar Ddio gelwch) 2. Electroneg Digidol 3. Cyflwyno Systemau a Blociau Analog 4. Systemau Cyfathrebu 5. Micro-brosesyddion a Systemau Rheoli Crefft, Dylunio a Thechnoleg Dyfed Canolbwyntir ar baratoi briffiau y gellir eu defnyddio o fewn cyrsau CDT Defnyddiau, Technoleg neu Gyfathrebu Graíf igol yn y 4edd a'r 5ed flwyddyn. Byddai modd eu cynnwys hefyd yng nghyrsiau'r 3edd flwyddyn neu o fewn cyrsiau TAGA.