Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSilffLyfrau Betrayers of the Truth gan W. Broad ac N. Wade; Oxford University Press. Pris: £ 3.95. Argraffiad Gwasg Prifysgol Rhydychen yw hwn o lyfr Americanaidd a gyhoeddwyd gyntaf ym 1982. Dyma lyfr sy'n chwalu am byth y myth fod gwyddonwyr, oherwydd gofynion eu disgyblaeth, yn debyg o fod yn fwy onest ac yn gywirach eu meddwl na'r rhelyw o'u cyd-ddynion. Chwarter canrif yn ôl lleisiodd Szent-Gyorgi, biocemegydd o fri, ei farn fod gwydd- oniaeth, oherwydd ei gwrthrychedd, ei hymlyniad wrth y gwirionedd, ei chymhellion niwtral a dilychwin, yn rhagori ar bob cyfundrefn foesol arall, boed yn 'ddynol' neu yn oruwch- naturiol ei tharddiad. Ond wele'r dadrithiad mawr; sylwedd- olir bellach nad wrth lenwi eu ffurflenni treth incwm yn unig y mae gwyddonwyr yn gwyro oddi wrth y gwirionedd. Prin bod yr un gwyddonydd ymchwil heddiw nad yw'n gwybod am rywun ymhlith ei fyfyrwyr ymchwil neu ei gydweithwyr sydd yn euog o ffugio canlyniadau. Perthyn elfen o dawtoleg felly i lyfr Broad a Wade, sydd â'i amcan i ddadlennu pa mor gyffredin yw twyll o'r fath mewn gwyddoniaeth gyfoes. Ac nid cyw-wyddonwyr yn chwilio am gydnabyddiaeth gan eu cydwyddonwyr mo'r twyllwyr o bell ffordd. Atgoffir ni gan yr awduron fod Newton a Bernoulli a Mendel — ac yn nes at ein dvddiau ni, Kammerer a Lysenko a Burt a Millikan — i gyd yn euog o droi eu cefn ar y gwirionedd rywbryd neu'i gilydd. Ac a oes gwahaniaeth yn y bôn rhwng ymarfer twyll bwriadol a'r diffyg gwrthrychedd a amlygir yn llawer rhy aml pan fydd gwyddonwyr wrthi'n asesu gwaith eu cyd-wyddonwyr. Y mae cryn dystiolaeth fod personoliaeth ac adnabyddiaeth bersonol yn cyfrif llawn cymaint â rhinweddau gwyddonol pan fydd haenau ucha'r sefydliad gwyddonol yn cloriannu ceisiadau am grantiau ymchwil neu am gydnabyddiaeth broffesiynol neu hyd yn oed ambell waith wrth asesu teilyngdod gwyddonol papurau ar gyfer y cylchgronau. 'Roedd T. H. Huxley yn llwyr ymwybodol o hyn ganrif a mwy yn ôl 'Merit alone is very little good Iknow that (my)paper is very original and of some importance, and I am eguaüy sure that ifit is referred to the judgement of my 'particular friend'that it will not be published so I must manoeunre a little to get (it) kept out of his hands.' Mae rhai o'r hanesion a adroddir gan yr awduron yn anhygoel. Ym 1978 cyflwynodd Helena Rodbard bapur i'w gyhoeddi yn y New England Journal of Medicine; fe'i hanfonwyd gan y golygydd i'w asesu at weithwyr yn Yale a'u barn hwy oedd na ddylid ei gyhoeddi. Yn fuan wedyn cyflwynodd gweithwyr Yale bapur ar yr un testun yn union (derbynyddion inswlin mewn anorecsia) i'w gyhoeddi yn yr Americanjournal ofMedicine ac yn ddigon naturiol (am nad oedd cynifer â hynny yn gweithio yn y maes) fe'i hanfonwyd i'w asesu at un o gydweithwyr Rodbard yn y Sefydliad Iechyd. Gwelodd Rodbard y deipysgrif ac yn syth fe adnabu ei gwaith a hyd yn oed ei brawddegau hi ei hunan a'r cwbl wedi'i godi o'i phapur a wrthodwyd (ar gyngor pobl Yale) gan y NEJMl A dyna gychwyn ar un o'r ymrafaelion rhyfeddaf yn hanes gwyddoniaeth gyfoes America. Paham y mae hyn o11 yn digwydd? Un awgrym a geir gan yr awduron yw fod y duedd gyfoes i ystyried gwyddoniaeth yn alwedigaeth yn hytrach nag yn 'genhadaeth' yn golygu mai dyrchafiad ac uchelgais sy'n symbylu'r rhan fwyaf o wyddon- wyr bellach. A chydymaith gwael i foesoldeb yw uchelgais. Gellid mynd ymhellach na hyn a gofyn i ba raddau y mae twyllo a ffugio a diffyg gwrthrychedd i'w hystyried yn agweddau derbyniol bellach ar y broses wyddonol? Wedi'r cwbl, ond Feverabend a ddywedodd, wrth drafod 'cynnydd' mewn gwyddoniaeth, 'anything goes'? R.E.H. A Victorian World of Science gan Alan Sutton; Hilger. Pris: £ 12.50; Health or Hoax? The Truth about Health Foods and Diets gan Arnold E. Bender; Elvendon. Pris: £ 8.50. Mae canrif o wyddoniaeth a thair cenhedlaeth o wyddonwyr yn gwahanu deunydd y ddau gyhoeddiad hwn. Er hyn, yr un yn y bôn yw eu natur ymateb anuniongred carfannau o gym- deithas i amgylchfyd technolegol eu cyfnod. Casgliad o ddeunydd o'r cylchgrawn Fictoraidd The English Mechanic a geir yn llyfr Alan Sutton (o'r Adran Addysg, Coleg y Brifysgol, Caer- dydd) a'r cwbl yn tanlinellu cred ddiysgog y cyfnod ym mhosibiliadau diderfyn gwyddoniaeth fel dull o esmwytháu taith dyn trwy'r byd. Yn rhyfedd iawn, ac yn groes i'r hyn a awgrymir gan y teid, ychydig iawn o wyddoniaeth fel y cyfryw sydd yn y llyfr; yr hyn a geir yw casgliad o ddyfeisiadau neu syniadau ar gyfer dyfeisiadau, sydd, er eu hapêl arwynebol, yn aml iawn yn brin o unrhyw wir ruddin gwyddonol. O ganlyn- iad, dyfeisiadau a dynghedwyd i fethiant neu syniadau hollol ddi-sail, yw mwyafrif y disgrifiadau sydd yn y llyfr. Gwir fod yma ambell i gyffyrddiad reit gyfoes megis yr awgrym fod cysylltiad rhwng ysmygu a chlefyd y galon ond at ei gilydd dyfeisiadau hollol anymarferol a geir yng nghorff y llyfr. Dyfeis- wyr yn hytrach na gwyddonwyr yw ei brif gynheiliaid a rhai ohonynt, mae arnaf ofn, yn gyfarwydd â gwyddoniaeth o hyd braich yn unig. Ystyriwch ddwy enghraifft o'r anymarferoldeb hwn. Awgrymodd Newton Harrieson tua diwedd y ganrif y gellid gwregysu'r ddaear â chebl enfawr a defnyddio rhaeadrau Niagra i weithio dynamo mawr a fyddai'n gyrru cerrynt trwy'r cebl i greu electromagnet mawr yn y ddaear. Gellid wedyn ddefnyddio hwn i ddiddymu'r maes magnetig presennol ac i sefydlu perthynas newydd rhwng yr haul a'r ddaear. Trwy reoli'r cerrynt trwy'r cebl gellid newid gogwydd y ddaear tuag at yr haul ac yn y modd hwn newid o'r gaeaf i'r haf ar wasgiad botwm! Yr un mor syfrdanol oedd cynllun Thomas Bennett ym 1897 ar gyfer beisic1 16 olwyn. Dadleuai Bennett fod cyplysu'r rhain trwy gêr a chranc mawr yn galluogi'r marchog i gyrraedd trigain milltir yr awr yn rhwydd; sawl marchog fyddai â choesau digon hir a thelesgopig i ymgodymu â hyn ni ddywedir. Gwyrdroi gwyddoniaeth i'r cyfeiriad arall y mae llu cynyddol o bobl heddiw yn ôl Bender. Dianc rhag technoleg yw prif amcan yr ymgyrchwyr 'bwydydd iechyd'; achub cam y gwneuthurwyr bwyd yw bwriad Bender a'i lach yn drwm ar siopau 'bwydydd iechyd'. Cyflwyna ei ddadleuon yn ddeheuig ac yn rhesymegol. Deil fod cyfeirio at 'luniaeth naturiol' yn wyddonol anystyrlon am fod arferion bwyta dyn wedi newid cymaint yng nghwrs ei esblygiad a'i ymwareiddio. Dengys hefyd nad oes unrhyw dystiolaeth wyddonol o blaid nifer o gredoau mwyaf cysegredig y garfan bwydydd iechyd megis fod grawnffrwyth yn cynorthwyo dyn i golli pwysau neu bod llysiau'r cwlwm (cwmffri) yn cynnwys fitamin B12 neu bod heli'r môr yn iachach na dwr tap neu bod llyncu dognau mawr o fitaminau'n llesol i'r corff ('rhaid mai gan yr Americanwyr y mae'r wrin mwyaf drutfawr yn y byd') ac felly ymlaen. Mae'n crynhoi holl ddadl ei lyfr mewn dull epigramaidd sy'n nodweddiadol o'i arddull drwyddi draw. 'Does mo'r fath beth â bwydydd iechyd, dim ond diwydiant bwydydd iechyd' a 'Does y fath beth á bwydydd afiach dim ond lluniaeth (diet) wael'. Cofleidio gwyddoniaeth a thechnoleg a'u gorweithio oedd tuedd y Fictoriaid. Bellach, a sglein eu newydd-deb wedi hen ddiflannu, y duedd yw ymgroesi rhagddynt a hyd yn oed eu gwrthwynebu er na wneir hyn yn llwyr agored wrth reswm. Ac y mae'n amlwg mai un o'r dulliau mwyaf effeithiol o leisio'r gwrthwynebiad seicolegol hwn yw trwy gyfrwng ein harferion bwyta. R.E.H.