Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

The Correspondence of Charles Darwin. Volume 1 1821- 1836 gan F. Burkhardt a S. Smith; Cambridge University Press. Pris: £ 30. Dyma'r gyfrol gyntaf o'r casgliad cyflawn cyntaf o lythyrau Darwin. Mae'n cynnwys dros 300 0 lythyrau a sgrifennwyd gan Darwin neu a dderbyniwyd ganddo yn ystod y saith mlynedd ar hugain gyntaf o'i fywyd. Mae'n gyfrol sy'n anhepgor i'r neb sydd am ddeall galluoedd, amgylchiadau, tueddiadau agweith- gareddau'r Darwin ifanc. Prin iawn yw'r deunydd o ddiddor- deb Cymreig heblaw am y cyfeiriadau at ymweliadau Darwin â Gogledd Cymru a llythyrau gan J. M. Herbert (cyfaill Darwin yng Nghaer-grawnt) a chan John Price (1803-1887) — 'Hen Price'. Defnyddia Price y gair cwrw ddwywaith yn un o'i lythyrau ac y mae'n amlwg ei fod yn derbyn fod Darwin yn deall ei ystyr. Nutrition Education gol. gan Beti Llywelyn; School of Home Economics, Cardiff. 43tt. Pris: £ 2.50. Diben y llyfryn hwn yw cryfhau'r elfen ymborthegol yn yr astudiaethau hynny a gamenwir yn 'Wyddor Tÿ' yn Gymraeg (ac yn llai addas fyth, yn 'Home Economics' yn Saesneg). Ysbrydol- wyd y cwbl, mae'n ymddangos, gan argymhellion diweddar y pwyllgorau COMA a NACNE a'u tebyg sydd â'u prif bwyslais ar ostwng y braster yn ein lluniaeth ac ar godi'r ffibr. Neges y llyfryn yw mai'r ffordd orau o gyrraedd y nod hon yw trwy lunio diet amrywiol ac fe gynhwysir nifer o rysáits priodol i'r perwyl hwn. Gellid amau'r priodoldeb seicolegol o ddefnyddio beic hen- ffasiwn dwy-olwyn i gynrychioli'r berthynas rhwng bwyd ac iechyd. Heblaw am hyn, ac ambell i frawddeg neu gymal amwys ei hystyr, mae'r awduron wedi llwyddo i grynhoi han- fodion y sefyllfa gyfoes mewn ymbortheg mewn dull dealladwy a chywir. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru gol. gan Meic Stephens; Gwasg Prifysgol Cymru. 662tt. Pris: £ 17.50. Byddai pawb yn ddigon parod i gydnabod fod cynnig diff- iniad boddhaol o 'lenyddiaeth Cymru' yn gryn broblem. Ond prin fod y diffiniad mwyaf eang posibl yn cyfiawnhau rhai o'r enghreifftiau a gynhwysir yn y gyfrol hon pobl megis Richard Wilson a Thomas Wogan. Tanlinellir yr eclectiaeth ddisynnwyr hon gan absenoldeb lwyr unrhyw drafodaeth ar ysgrifennu gwyddonol. I'r Cydymaith y mae'n amlwg nad oes y fath beth â rhyddiaith wyddonol Gymraeg yn bod; nid oes yr un gair am Dafydd Lewys na Hugh Davies nac R. Alun Roberts nac Eirwen Gwynn na hyd yn oed am O. E. Roberts er iddo ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith. Sut y gellir cyfiawnhau cynnwys cofnod ar Sidney Gilchrist Thomas (na chynhyrchodd ddim byd heblaw am nifer o bapurau technegol Saesneg ar agweddau ar feteleg) 'wn i ddim. Mae'r hyn a sgrifennir am A. R. Wallace yn llwyr gamarweiniol ac y mae'r erthygl am Thomas Pennant yn wallau drwyddi draw. Mae'r cwbl yn anhygoel. The History of Scurvy and Vitamin C gan K. J. Carpenter; Cambridge University Press. Pris: £ 27.50. Heblaw am newyn y mae'n debyg mai'r sgyrfi (y llwg) yw'r clefyd ymborthegol sydd wedi creu'r llanastr mwyaf yn holl hanes y byd. Ceir gan Carpenter hanes geni a marw'r clefyd rhyfedd hwn. Delia'n gytbwys ac yn ddeheuig â'r gwahanol ddamcaniaethau a gynigiwyd o dro i dro i egluro'r cyflwr. Bellach, gwyddys mai diffyg fitamin C (asid ascorbig) yw achos y sgyrfi. Ond nid yw hyn wedi gostwng dim ar ddiddordeb gwyddonwyr (ac anwyddonwyr) yn y cyflwr ac mewn fitamin C yn gyffredinol fel y tystia'r 2,000 o bapurau ymchwil a gyhoeddir yn flynyddol yn y maes. R.E.H. R.E.H. R.E.H. Mae hwn yn llyfr darllenadwy a diddorol ac y mae ei ysgolheictod yn amlwg. Tuedd Carpenter yw pwysleisio pwysigrwydd y cyfnod 01-1800; nid oes yma unrhyw sôn am Gwilym Puw o'r Creuddyn, yr oedd ei Treatise on the Scorbute (y sgyrfi) yn un o'r pedwar cyntaf i gael eu sgrifennu yn Saesneg. R.E.H. GCSE Biology gan D. G. Mackean; John Murray. Pris: £ 6.50. Mae enw D. G. Mackean eisoes yn ddigon adnabyddus i athrawon Bioleg. Ond y mae hwn, ei lyfr diweddaraf, yn sicr o ychwanegu cryn gufydd at ei faintioli fel awdur llyfrau ysgol. O ran ei ddiwyg a'i gynnwys y mae'n haeddu canmoliaeth uchel. Mae'n gynhwysfawr, yn hawdd ei ddarllen, ac yn gywir ei ffeithiau, ymhlith y llyfrau ysgol mwyaf deniadol a welais erioed. Mae'r doreth o luniau lliw ynghyd a'rdull o ddefnyddio dau fath o argraffwaith i wahanu'r deunydd creiddiol oddi wrth weddill y llyfr, yn gaffaeliad arbennig. Sut y llwyddir i gyn- hyrchu a marchnata llyfr o'r safon hon am £ 6.50 yn unig sy'n gryn ddirgelwch. R.E.H. One World gan John Polkinghorne; SPCK. Pris: £ 4.50. Mae'n debyg mai John Polkinghorne yw'r unig berson byw heddiw sy'n Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (cyn-Athro mewn Ffiseg Mathemategol yng Nghaer-grawnt) a hefyd yn Ficer yn Eglwys Loegr. Mae felly mewn safle arbennig i drafod y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd. Roedd y diweddar Charles Coulson FRS yn Athro mewn Mathemateg yn Rhyd- ychen a hefyd yn bregethwr cyson gyda'r Wesleaid. Wrth fynd drwy'r llyfr bach newydd hwn ni allwn osgoi cymharu agwedd y ddau at y meysydd hyn. Deuant i'r un casgliadau yn union. nid oes dim sydd yn anghyson rhwng gwyddoniaeth a chrefydd. Nid delio mewn 'ffeithiau pendant' mae gwyddoniaeth heddiw, fel y tybiodd Newton, ond yn cydnabod a chaniatáu mesur helaeth o ansicrwydd. Mae deuoliaeth a diffyg pendantrwydd yn un o bileri'r Ddamcaniaeth Cwantwm, er enghraifft. O edrych ar y llun, gellir ei ddychmygu'n wningen o un saf- bwynt a hwyaden ffordd arall, os gwelir y clustiau yn newid i fod yn enau. Sut fynydd yw'r Wyddfa? gofynnodd Coulson. I rai, gwastad a thirion; i eraill hyll a chreulon, yn ôl y cyfeiriad yr edrychwch arno. Nid oes modd penderfynu pa un o'r dau ddarlun sy'n gywir, yn ôl Karl Popper. Y gorau allwn ei wneud yw chwalu'r llun (v model) ac adeiladu un arall, sy'n medru derbyn y wybodaeth newydd. Neges y ddau yw bod llawer mwy sy'n gyffredin nag sy'n wahanol rhwng y ddau faes. Ymchwilio mae'r ddau i agweddau o'r un gwirionedd, sef creadigaethau Duw. Hyn sy'n eu cyfuno. G.O.P.