Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Termau Meddygol; Gwasg Prifysgol Cymru. Pris: £ 2.50. Fis Mehefin 1980 cyflwynodd y Gymdeithas Feddygol restr hir o dermau meddygol, ynghyd â throsiadau ohonynt i'r Gym- raeg i'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Nid oedd yr un ffyn- honnell awdurdodol yn bod cyn hyn. Penderfynwyd ethol is-bwyllgor yn cynnwys arbenigwyr ieithyddol a meddygol, i ystyried yr holl restr yn fanwl ac i ddwyn adroddiad arno. Un o olygyddion Y Gwyddonydd, y Dr R. Elwyn Hughes fu'n Ysgrif- ennydd Mygedol y Pwyllgor a mawr fu ei gyfraniad tuag at gwblhau'r gwaith gorffenedig. Yn ei gyflwynhad, mae'r Athro Ceri W. Lewis, Cadeirydd y Pwyllgor yn trafod rhai o'r problemau y bu'n rhaid eu hwynebu. A ddylid, er enghraifft, dderbyn y term meddygol yr oedd iddo gylchrediad cydwladol, neu a ddylid rhoi trosiad Cymraeg ohono, yn enwedig os oedd y trosiad hwnnw'n gymorth gwerthfawr i ddeall ystyr y term Saesneg gwreiddiol? Penderfynwyd, mai'r peth doethaf fyddai cynnwys y ddau. Er enghraifft, wrth drosi'r term haematuria rhoddir troethwaed a haematwria. Sut hefyd ddylid Cymreigeiddio'r termau Saesneg gwreiddiol, ac adlewyrchu 'diwyg' y termau hynny? Mae hyn yn gyffredin bellach gyda thermau gwyddonol e.e. proses, seicograff, silindr etc. Trosir cholecalciferol yn colecalsifJerol. Eto ni lynwyd at yr egwyddor yma'n haearnaidd, oblegid pwysig iawn weithiau, ydoedd peri i'r trosiad adlewyrchu ffurf y term gwreiddiol. Dyma i chwi rai enghreifftiau i gael blas ar y campwaith yma. Y galw'n awr fydd i feddygon ifanc eu defnyddio. abrasion crafiad, -au (eg) ysgythriad, -au (eg) acidity suredd (eg) asidedd (eg) adhesion adlyniad, -au (eg) amaurosis dallineb biceps cyhyryn deuben (eg) bile duct dwyhell y busd (eg) cancer canser, -au (eg) chiropody gwyddor trin traed (eb) circumcise enwaedu (be) dysuria troethgur (eg) excoriate ysgythru (be) forceps gefail gastritis llid y cylla (eg) gangrene madredd (eg) hymen pilen y wain (eb) infertility amhlantadrwydd (eg) anffrwythlonedd (eg) diepiledd (eg) occlusion tagiad (eg) rhwystriad (eg) puberty glasoed (eg) tuberculosis darfodedigaeth (eb) tiwbercwlosis (eg) y pla gwyn (eg) vasectomy fasdoriad, -au (eg) Byrfoddau be berf enw eb enw benywaidd eg enw gwrywaidd G.O.P. An Idiot's Fugitive Essays on Science gan C. Truesdell; Spring er-Verlag, Berlin. 654tt. Pris: 158 Deutch Mark. Mae'r llyfr hwn yn ffrwyth profiad oes Yr Athro Truesdell o Brifysgol Johns Hopkins, Baltimore. Mae ynddo gymysgedd anhygoel o hanes a datblygiad mecaneg, adolygiadau ar lyfrau safonol ynglyn â'r pwnc yma, sylwadau ar gryn ddwsin a hanner o lyfrau yn ymdrin â hanes ffiseg clasurol a modem ac eraill ar gyfraniad rhai o gewri'r maes, megis Newton, Euler a Ber- nonlli. Er ei fod yn gwadu mai athronydd gwyddoniaeth ydyw, daw ei syniadau athronyddol a hanesyddol i'r amlwg yn llawer mwy na manylion hanes mecaneg a hydrodynameg. Llyfr i bori ynddo a chyfeirio ato ydyw, yn hytrach nag un y gellir ei ddarllen yn hamddenol. Nid gwaith 'Idiot' sydd yma yn sicr, ond meistr ar syniadaeth datblygiad ffiseg. Rhoi sylwadau ac adolygiadau ar waith gwreiddiol pobl eraill wnaiff, gan fwyaf, ond wrth wneud hyn, yn taflu goleuni deallus arnynt i ni'r lleygwyr. Er enghraifft, wrth drafod casgliad Y Gymdeithas Frenhinol o lythyrau Newton (1960 a 1962) fe ddywed, 'No great mathemati- cian is so diffìcult to study as Newton.' Sail ei honiad yw fod Galileo, Kepler, Descartes a Huygens wedi eu dadansoddi'n fanwl mewn cyfrolau lu. Cyhoeddwyd yr unig gyfrol o waith Newton 200 mlynedd yn ôl, sydd heb fod yn gynhwysfawr na chredadwy. Nid rhyfedd felly fod bywgraffwyr oddi ar hynny wedi gorbwysleisio safle allweddol Newton a'i wneud yn arwr y 'chwyldro gwyddonol'. 'In the tribal folklore of physics, no saint has a bigger halo than Newton's.' Cred y llywodraeth bresennol fod anwybodaeth o'r cyfrifiadur yn gyfystyr â bod yn anllythrennog, nes iddynt wario £ 20 miliwn i osod offer a dysgu iaith y feddalwedd newydd, hyd yn oed, yn yr ysgol gynradd. Ochr yn ochr â'r pwyslais hwn fe ddylai hefyd fod yn orfodol darllen Pennod 41 The Computer: Ruin ofScience and a Threat to Mankind: 'Calculation must not be taken for mathematics. Calculation is a thoughttess routine, like tightening two counter-rotating nuts on an assembly line.' Â ymlaen i restru sut mae'r cyfrifiadur eisoes wedi gwneud niwed i wyddoniaeth, drwy osod y mecanyddol yn lle'r meddyliol. Cynigia wybodaeth yn lle dealltwriaeth. Fe ddylem i gyd fyfyrio ar ei eiriau olaf the computer is but one ofthe Satanic instruments bent on the destruction ofmind and man'ì Byddai'r llyfr yn gwneud maes llafur ffrwythlon i ddosbarth- iadau'r WEA a'r Adrannau Allanol, heb sôn am ddosbarth- iadau gwyddonol ein colegau. G.O.P. Termau Cyfrifiadureg; Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Pris: £ 1 Y llyfryn termau diweddaraf i'w gyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru yw Termau Cyfrifiadureg. Prif amcan y llyfryn yw sicrhau cysondeb termau ar gyfer arholiadau'r Cyd-bwyllgor. Fodd bynnag, bydd y llyfryn hwn, fel y rhai blaenorol yn y gyfres, yn cael ei ddefnyddio'n eang o'r dosbarth babanod i'r labordy prifysgol, yn ogystal ag mewn swyddfa a busnes. Buan y daw termau naturiol megis disgymur, cyrchwr, bylchwr a chyffyrddell yn rhan o'n geirfa. Gellir sicrhau copi o Termau cyfrifiadureg o swyddfa Cyd- bwyllgor Addysg Cymru, 245 Western Avenue, Caerdydd (pris £ 1 + 25c cludiad. ANN DILYS JONES Cyd-bwyllgor Addysg Cymru