Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cemeg o'n Cwmpas; Gwasg Addysg Gwynedd. Pris: £ 7.85. Llyfr swmpus a ymddangosodd o'r wasg yn ddiweddar yw Cemeg o'n Cwmpas sef cyfieithiad o'r gyfrol boblogaidd Chemistry Matters gan Richard Hart a baratowyd gan grwp o athrawon cemeg Gwynedd. Nid gwerslyfr sych yn llawn o ddim ond ffeithiau moel yw hwn, ond ymdrech i gyflwyno gwybodaeth am Gemeg yn y gymdeithas sydd ohoni. Yn gymysg â fformiwlâu a manylion am arbrofion, ceir ysgrifau diddorol ar bynciau amrywiol megis ynni niwclear, concro Everest, damwain ffatri gemegau Seveso a bragu cwrw a phob ysgrif yn dangos, mewn ffordd ddifyr a darllenadwy, ^®WfŵnpMl Cyfrol XXIV Rhifyn 1 Haf 1987 I ddod Cyfrol 25 Rhifyn 1 Rhifyn arbennig ar y Gofod Erthyglau'n cynnwys: Eiscat: Ar ffiniau'r gofod: Phil Williams. Hertz a'r Haul. Afiechydon o'r Gofod: addasiad o erthygl yr Athro Wickramasinghe. Darlledu â lloerennau. Y Rhifyn hwn i'w gyhoeddi ddechrau'r haf. sut mae Cemeg yn cyffwrdd â'n bywyd-bob-dydd ni. Paratowyd y fersiwn Cymraeg yma mewn ateb i'r galw a fu am werslyfr yn yr iaith ar gyfer dosbarthiadau 4 a 5, ac mewn dosbarthiadau lle'r astudir y pwnc trwy gyfrwng y ddwy iaith, bydd cael yr un llyfr yn Gymraeg ac yn Saesneg yn fanteisiol iawn. Cyhoeddir Cemeg o'n Cwmpas gan Wasg Addysg Gwynedd, a'i bris yw £ 7.85. Gellir sicrhau copïau o Ganolfan Adnoddau Addysg Gwynedd, Maesincla, Caernarfon. H. GERAINT PARRY Awdurdod Addysg Gwynedd Haf 1987