Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Râs Arfau yn y Gofod HANFOD y ddadl ataliol yw'r athrawiaeth na fydd- ai Rwsia nac America yn dial ar ei gilydd pe bai'r naill ochr neu'r llall yn gyfartal yn eu gallu i ymosod gydag arfau niwclear balistig, sy'n teithio ar gyflymdra swn drwy'r gofod. Yn yr un modd, mae cyfartaledd o nifer saethynnau niwclear, a thaflegrau i'w tanio ar draws y byd, yn safle cych- wyn unrhyw drafodaeth ynglyn â chael cytundeb i gyfyngu ar nifer, neu i ddinistrio'r arfau presen- nol. Dyma'r man lle yr ail-agorwyd y trafodaethau yng Ngenefa eleni wedi cynigion newydd Gorbachev. Tra bo'r ddwy ochr yn sicr o'u gallu i ddinistrio'r naill a'r llall, yna credid bod eu diogelwch yn sicr. Os yw'r cydbwysedd dychrynllyd yma i fod yn weithredol, mae'n holl bwysig na all yr un o'r ddwy ochr ddinistrio saethynnau'r llall tra bydd- ant ar eu taith. Ni fyddai'r ochr arall wedyn yn medru 'atal'. Am y rheswm hwn arwyddodd America a Rwsia Gytundeb 1972 i ymatal rhag adeiladu amddiffynfeydd gwrth-saethynnol (Cyt- undeb Anti-Ballistic Missile, ABM, Mai, 1972). Yr honiad wedyn yw na all yr un ohonynt ddechrau rhyfel, gan y golygai hyn ddinistr sicr iddynt eu hunain. Fe gytunwyd ar y gallu yma i gyd-ddin- istrio ei gilydd, sef Mutually Assured Destruction (MAD). Ond beth pe bai un ochr neu'r llall yn cael blaenoriaeth mewn nifer a phwer gydag arfau'r gofod? Oni allent wedyn fygwth y llall? Byddai hyn yn ffordd i ennill blaenoriaeth heb dorri Cytundeb ABM 1972. Arweiniodd hyn at bentyrru taflegrau niwclear a'u cyfeirio, un am un, at y mannau lle 'roedd y wlad arall yn lleoli eu taflegrau trawsgyfandirol. Drwy archwiliadau cudd, gan ddefnyddio lloerennau yn y gofod, mae'r wybodaeth yma ar gael gan y ddwy ochr. Ni ellir cuddio'r silos enfawr. Dinistrio arfau'r llall cyn iddynt gychwyn yw'r nod cyfreithiol felly, oherwydd bod Cytundeb ABM 1972 yn gwahardd ymosod tra byddant yn yr awyr! Ond, wrth gwrs, ni all yr un saethyn anelu gyda'r fath fanylder a phe na bai ond un taflegryn yn unig heb ei ddinis- trio yna byddai ar ben, beth bynnag. I ddod dros yr anhawster yma datblygwyd y Multiple Indepen- dently-targeted Re-entry Yehicle (MIRV). Gydag un roced wedyn gellid anelu dwsin neu fwy o saeth- ynnau niwclear, ac anelu amryw at bob targed. Llwyddodd America yn hyn o beth ym 1970. Golygyddol Y Taflegrau Balistig a Mordeithiol Ø Gelwir un dosbarth yn daflegrau balis- tig oherwydd iddynt deithio rhan hel- aethaf y daith heb bŵer. Fel pel griced neu fwled wedi eu lansio, mae eu IIwyb- rau yn cael eu rheoli gan y gwthiad cyn- taf, nerth disgyrchiant a ffrithiant yr aer ar eu llwybr. Gallant deithio ar draws cyfandiroedd, 10,000 km neu fwy, sy'n egluro'r enw ICBM (Intercontinental ballistic missile). Yr un math o roced cychwynnol sydd ei hangen i lansio lloeren i'r gofod, ond gyda'r saethynnau niwclearyn llwyth, mae'n rhaid cynllun- io'r disgyniad yn ôl i'r amgylchedd yn ofalus gyda cherbyd arbennig. Ar orch- ymyn cyfrifydd, danfonir ffrwydryn niwclear i'w darged. · Mae taflegrau mordeithiol (cruise), ar y llaw arall, yn debycach i awyrennau di- beilot. Erys y rhain yn yr awyrgylch ar hyd eu taith, gan ddefnyddio ocsigen y ddaear i danio'u peiriannau turbo-jet. Nid yw'r rhain yn mynd yn gyflymach na swn fel y taflegrau balistig. · Am ragor o fanylion gweler y llyfr newydd Space Weapons: Deterrence or Delusion? Rip Bulkley a Graham Spinardi, Gwasg Polity, Caer-grawnt. 'Roedd yn rhaid mynd ati wedyn i ailfeddwl oblygiadau MAD. Mae Casper Weinberger wedi bod yn gyson iawn yn ei ddehongliad ef. Pe med- rai America gadw cymaint ar y blaen i Rwsia fel bod eu 'ymosodiad cyntaf nhwyn rhwystro Rwsia rhag 'ail ymosod', yna byddai America'n ddiogel. Cydbwysedd yn ei olwg ef oedd cael y sicrwydd y gallai America ddinistrio canolfannau taflegrau Rwsia i'r graddau nes bod Rwsia i bob pwrpas yn ddiarfog. Rhaid cael BLAENORIAETH Gyda'r ddadl afreal yma perswadiodd llywod- raeth America i adeiladu miloedd ar filoedd o saethynnau niwclear er mwyn gwarantu blaenor- iaeth. Er eu gallu dinistriol, o ran dadl, beth byn-