Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr atmosffer ar uchder o tua 1 10km, gall yr 'Aurora Bor- ealis' ffurfio, gan ymddangos fel llen amryliw yn uchel yn yr awyr. (Gellir gweld hyn uwch gogledd yr Alban gan fod ardal awrora yn agos). Dengys mesuriadau mewn arsyllfeydd fod cyfeiriad maes magnetig y byd yn newid pan ddigwydd hyn tua phum eiliad o ongl efallai. Er mai creu problemau drwy amharu ar y don- fedd fer a wna awrora, fe all fod yn bosibl adlewyrchu signal VHF oddi arni. Felly, drwy anelu'r signal tua'r awrora, gallwn gysylltu â gwledydd Llychlyn o Gymru er enghraifft (Ffig.6). Ffig.6. Cysylltu rhwng Cymru a L½ych½yn drwy adlewyrchu tonnau VHF oddi ar ardal awrora. Oherwydd natur symudol yr awrora, nodweddir sig- nal a adlewyrchir oddi arni gan gryndod cyflym, tua 10- 15 gwaith yr eiliad, gan wneud i lais rhywun swnio fel pe tasai'r person yn 'garglo' wrth siarad! Dyma un sef- yllfa lle y gall côd yr hen Samuel Morse fod yn dipyn mwy dibynadwy na llais! Poenyn Penna' Rhif 34: CYFRIF TRENAU Aeth hi'n ddadl boeth ar drip blynyddol staff hufenfa Trepostyn. Roedd y cwmni wedi cychwyn ar daith trên i Lundain. taith bedair awr a hanner. Roedd yr amserlen yn dangos bod trên yn gadael Llundain am Drepostyn bob awr drwy'r dydd ac aethpwyd ati i ddyfalu sawl un o'r trenau hyn byddant yn cyfarfod yn ystod y daith. Pedwar oedd honiad Alun ac wyth oedd cynnig Anwen. Ni lwyddwyd i sicrhau cytundeb barn. Fedrwch chi dorri'r ddadl? (Ateb ar dudalen 28) Rydym wedi sôn am frychau haul eisoes; fel mae'n digwydd, storm ar ran o wyneb yr haul yw'r hyn sy'n ymddangos i ni fel smotiau tywyll. Gan mai yn ystod y stormydd yma y gollyngir y gronynnau gan yr haul, gwelwn fod cysylltiad rhwng nifer y smotiau a'r tebyg- rwydd o ganfod awrora. Hefyd, gallwn ddisgwyl i'r awrora ailymddangos pan ddaw y smotiau i'r golwg eto ymhen mis, wedi i'r haul droi ar ei echel; mae hyn yn rhywfaint o gymorth i ragweld y dyfodol. Gwaetha'r modd, dim ond am gyfnod byr y deil yr amgylchiadau yma, felly ni allwn eu defnyddio i sef- ydlu gwasanaeth barhaol. Er bod radio a theledu erbyn hyn yn chwarae rhan bwysig ym mywyd pob un ohonom, ac er yr holl dechnoleg gymhleth a ddefnyddir, sylwn mai yr haul sy'n cael y gair olaf bob tro. Er gwaethaf yr holl waith ymchwil sy'n cael ei wneud ar yr i'onosffer a'r troposffer, (e.e. gan y British Antarctic Survey), mae amryw o effeithiau nad ydym byth wedi dod i'w deall yn Ilwyr. Mae byd y donfedd fer, yn enwedig, yn arbennig o ddiddorol ac anodd i'w ragweld, ac yn fyd sy'n siwr o ennyn diddordeb am flynyddoedd i ddod. Llyfryddiaeth Radio Communication Handbook. Radio Society of Great Britain. ARRL Antenna Handbook. American Radio Relay League. VHF/MHF Manual RSGB. Radio Communication cylchgrawn misol yr RSGB. amryw erthyglau. Positron