Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Afiechydon o'r Gofod SYR FRED HOYLE a CHANDRA WICKRAMASINGHE MAE'R ATHRO WICKRAMASINGHE, PENNAETH ADRAN MATHEMATEG A SERYDDIAETH YNG NGHOLEG PRIFYSGOL CAERDYDD, WEDI CYDWEITHIO Â'R ENWOG FRED HOYLE ERS RHAI BLYNYDDOEDD. MAE YR ERTHYGL HON YN DEBYG O GREU YR UN MATH O ANGHYDWELD A DDEILLIODD O'U SYNIADAU CHWYLDROADOL ERAILL. YN YR ERTHYGL HON CYFLWYNIR SYNIADAU CWBL ARLOESOL. Sut y gall comedau wenwyno'r ddaear CYFEIRIWYD at gomedau gan amryw o hen ddiwyll- iannau'r byd gyda pheth dychryn ac ofn. Gwelwyd hwy bron yn ddieithriad fel arwyddion drwg oedd yn cario haint a marwolaeth. Yn yr erthygl hon, dadleuwn y gallai gwrthdrawiad comedol ar y Ddaear fod wedi rhoi dechrau i fywyd ar y ddaear. Hyd yn oed heddiw, gall y dylifiad cyfnodol o rwbel comedol mewn ffurf gron- ynnau mân fod yn gyfrifol am donnau o afiechyd sy'n chwipio dros ein planed. Llun 1. Ai Comed Halley ddaeth â phla Ewrop yn y seithfed ganrif? Ymddangosodd llun yn y Nürnberg Chronicle ym 1493 oedd yn dangos y comed fel y'i gwelwyd yn 684. Brawychwyd pobl dros y byd yn gyfan. Yn ôl y Chronicle, cafwyd glaw, mellt a tharannau, haint ar y grawn yn y caeau a phla ymhlith y bobl. Damcaniaeth A. I. Oparin a J. B. S. Haldane a dder- bynnir heddiw pan drafodir dechreuad bywyd, sef bod fflach o fellt wedi creu molecylau sylfaenol bywyd o'r nwy cyntefig. Yn y ddamcaniaeth hon ceir llawer tybiaeth ansicr ynglyn â chyflwr y Ddaear gyntefig. Mae cyfnewidiad molecylau bychain e.e. dwr, methan, ac amonia, i 'gawl eyntefig' o 'folecylau eyn-fiotig', yn ddibynnol ar donfedd uchel o ddig- wyddiadau ynioledig e.e. mellt a tharannau. Ac mae sefydlogrwydd molecylau cyn-fiotig a ffurfir yn rhagdybied presenoldeb awyrgylch sydd yn mynd yn llai, yn hytrach nag yn troi'n ocsid hynny yw, rhaid iddo wneud i ffwrdd ag ocsigen ac nid ychwanegu ato fel sydd yn digwydd heddiw. Ar y dechrau, bydd- ai'r dybiaeth arferol yn creu llawer gormod o hyd- rogen molecwlar heb fod yna sylfaen seryddol neu ddaearegol i gyfrif am hyn. Yn wir, mae'n fwy tebygol y byddai awyrgylch ocsideiddiedig gwreidd- iol yn ymddangos, ac os felly, ni all fod 'cawl cyn- tefig' wedi datblygu. Mae arbrofion labordai, yn arbennig rhai Stanley Miller, Cyril Ponnamperuma a'u cydweithwyr, wedi dangos y gall molecylau megis hidrogen, dwr, methan ac amonia gael eu trawsnewid i fod yn asidau amino, seiliau asid niwcleig, a siwgwr, o dan amodau wedi eu rheoli. Er hynny, nid yw'r canlyniadau hyn yn profi damcaniaeth Oparin-Haldane, fel yr honnir fel arfer. Yn gyntaf, fe allai fod cyflwr cyntefig y Ddaear yn hollol wahanol i'r hyn a ddefnyddiwyd yn yr arbrofion. Yn ail, hyd yn oed os ydy molecylau cyn-fiotig yn ffyr- fio yn y dull hwn, byddai eu crynodiad mewn llyn- noedd a moroedd cyntefig wedi bod yn rhy isel mae'n fwy na thebyg i arwain at ddechreuad bywyd. Hefyd, rhaid pryderu am ddiffyg tystiolaeth am bresenoldeb helaeth o ddyddodion carbonaidd nitrogenaidd yn y creigiau gwaddodol hynaf. Disgwylid yn wir i ddydd- odion o'r math ymddangos pe byddai'r 'cawl' cyntefig yn bodoli am amser digon hir; ac fe fyddai eu habsen- oldeb mewn cyfnod daearegol yn cael ei ddehongli efallai fel tystiolaeth yn erbyn y cawl. Elfennau bywyd yn cael eu creu yn y gofod Yn ddiweddar, 'rydym wedi dod i'r casgliad bod blociau angenrheidiol bywyd fel asidau amino a'r molecylau heteroseiclig sy'n cario hydrogen, yn cael eu ffurfio yn y gofod. Mae'r cemegau hyn yn ymddangos mewn crynodiad sylweddol drwy'r Galaeth. Gall molecylau cyn-fiotig o'r math hwn gael eu casglu gan wrthrychau neu folecylau, a'u chwistrellu i mewn i blanedau megis y Ddaear. Ymddengys mai arwynebedd niwclei comedol yw'r mannau mwyaf tebygol i fywyd ddechrau. Fel arfer, ychydig gilomedrau o faint mewn radiws yw niwclei comedol. Mae'n ffynhonnell holl ffenomenau com- edol, gan gynnwys comas molecwlar, plasma, a chyn- ffonnau llwch. Er bod y gomed hir-dymor ddiweddar Kohoutek yn siom weledol, yr oedd yr ymddan- gosiadau pwysig yma yn cynnwys molecylau organig, megis seianaid hydrogen (HCN) a seianaid methyl (CH3CN). Gall radical folecylau llai (megis CO+, C02+, N2+, C2, C3, OH, CH, CH2, NH, NH2 CN a H20+), sydd yn bresennol mewn comas comedol a chynffonnau, fod yn gynnyrch dirywiad o fiocemegau cymhleth a dwr (H20). Hefyd mewn cynffonnau llwch ceir amsugnad is-goch ar donfedd o 10 micromedr, mae'n debyg oherwydd presenoldeb y polyformaldehyd, y polysacaridau, neu'r cyfuniad o'r ddau fiocemegyn yma.