Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae ymddangosiad sydyn mewn llenyddiaeth o gyfeiriadau at afiechydon arbennig hefyd yn arwydd- ocaol oherwydd eu bod mae'n debyg yn nodi amser- oedd o oresgyniadau penodol. O'r herwydd, yn yr ail ganrif ar bymtheg yr ymddangosodd y disgrifiad eglur cyntaf o afiechyd sy'n ymdebygu i'r ffliw, tra ymddan- gosodd y cyfeiriad cynharaf at yr annwyd cyffredin oddeutu'r bymthegfed ganrif. Hefyd, mae'n arwydd- ocaol nad ydy heintiau cynharach, megis yr un yn Athen, â chymheiriaid modern penodedig. Heintiau pan fo'r ddaear yn croesi malurion comedau Gall prif epidemegau pellach o heintiau gael eu hachosi pan fo'r Ddaear yn croesi malurion comedau newydd hir-dymor. Mae'n bosib i amrywiadau bychain o'r 'un afiechyd' er enghraifft, annwyd cyffredin ddigwydd fel canlyniad i deithiau mwy cyson a rheol- aidd o'r Ddaear drwy falurion o gomedau byrrach eu parhad. YSGOLORIAETHAU I IS-RADDEDIGION Astudiaethau Morwrol 4 Bioleg Gymwysedig 3 Cemeg Gymwysedig 3 Mathemateg/Ystadegaeth 2 Bancio a Chyllid Economeg Cyfrifeg 6 Gweinyddiaeth Busnes Saesneg 2 Y Gyfraith 5 Cynigir Ysgoloriaethau gan UWIST yn y pynciau a'r niferoedd a nodir uchod ar sail canlyniadau Lefel A. Ymholiadau i'r Swyddog Derbyniadau, UWIST, Swyddfa'r Post Rhif Blwch 68, Caerdydd CFI 3XA. Gall y ffactorau sy'n rheoli patrwm y digwyddiad hollfydol ei hun am unrhyw oresgyniad allfydol ar- bennig fod yn gymhleth. Os yw bacteria neu firysau yn cael eu gwasgaru mewn cwmwl tryledol o ronynnau bychain, mae'n hawdd i drawiant yr afiechyd fod yn hollfydol. Ar y llaw arall, gall cyfanswm datgyfannol llai o dalpiau o rawn wedi eu heintu, sy'n disgyn dros arwynebedd cyfyngedig o'r ddaear, beri fod goresgyn- iad mwy lleol o ran daearyddiaeth yn digwydd. Gall effeithiau cyfundrefnol megis y llifogydd o aer dros arwynebedd y Ddaear hefyd fod yn berthnasol wrth reoli cludiant a gwasgariad y gronynnau. Gall fod rhai cylchoedd lledred yn arbennig wedi ennill mwy o ffaf- riaeth nag eraill o safbwynt naill ai croniant a sefydlog- rwydd y gronynnau hyn, neu ynteu eu gocheliad. Byddai gan ein hawgrym ni, os yw'n gywir, oblyg- iadau biolegol, meddygol a chymdeithasegol dwfn. Efallai y bydd angen gwyliadwraeth ficrobiolegol par- haus o'r statosffer er mwyn dileu y llanast a fydd yn dilyn oddi wrth oresgyniadau allfydol yn y dyfodol. Prifysgol Cymru Heb Dreth £ 900 Peirianneg Drydan a Pheirianneg Electroneg 6 Electroneg/Ffiseg Peirianneg Fecanyddol Peirianneg Gynhyrchu Peirianneg Sifil 3 Cynllunio Dinesig 3 Pensaerniaeth 4 Fferylleg 6 Opteg Ophthalmig 3 Seicoleg 3 MYNEDIAD 1988 £ 100 y tymor am naw tymor Heb Brawf Moddion