Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oes 'na Bobl? MAE LLYFR cynhwysfawr Crowe* yn olrhain mewn dull darllenadwy iawn hanes pendilaidd y dybiaeth fod bywyd ar gael ar fydoedd heblaw'r ddaear hon. Cyfyngir yr ymdriniaeth i'r cyfnod rhwng 1750 a 1900, neu, a defnyddio dull eponymaidd yr awdur, rhwng Kant a Lovell. Rhaniad pur arbitraidd yw hwn am fod y ddadl 'lluosogrwydd bydoedd' bron cyn hyned â gwareiddiad ei hunan ac yn un sydd wedi rhannu'r byd deallusol o'r cychwyn cyntaf oll. 'Roedd Lwcretiws o blaid y cysyniad a Phlaton ac Aristoteles yn ei erbyn. Yn gyffredinol, y farn Aristotelaidd a orfu hyd at adeg y Chwyldro Copernicaidd. Ond o hynny ymlaen bu newid sylfaenol yn yr ymagwedd at y cysyniad lluosog- rwydd bydoedd a hyn am nifer o resymau. Yn un peth, dadlennwyd gan y telesgopau newydd fod y planedau eraill yn ein system ni yn rhyfeddol o debyg, o ran eu natur cyffredinol, i'r ddaear hon. Daeth yn amlwg hefyd fod y bydysawd yn llawer ehangach nag y tybiwyd gynt. Ac yn bwysicach oll efallai derbyniwyd nad y ddaear bellach oedd craidd a chanolbwynt y cysawd heulog. Effaith y tri digwyddiad hyn oedd gwanhau cred dyn yn ei arbenigrwydd a'i unigrwydd yn y bydysawd ac yn raddol, dechreuodd y cysyniad o luosogrwydd bydoedd ennill tir. Daeth dyn yn fwy ymwybodol o anferthedd y byd- ysawd ac mi ddaeth yn ddiwinyddol-dderbyniol i gredu mewn lluosogrwydd bydoedd fel arwydd o allu a hael- ioni a chyflawnder Duw (y plenitude argument' chwedl Crowe). Dadleuwyd mai gwastraff fuasai creu'r holl fydoedd hyn onibai fod Duw wedi amcanu gosod bywyd arnynt hefyd. Er hyn, nid rhywbeth a'i hamlygodd ei hun dros nos oedd y gred mewn lluosogrwydd bydoedd. Wedi'r cwbl, codai broblemau diwinyddol dyrys yn ei sgil megis cwestiwn unigrywedd Crist a'r croeshoelio. Claear oedd ymateb rhai gwyddonwyr hefyd i'r syn- iadaeth newydd; cyndyn iawn oedd Newton i ddan- gos ei ochr a bu i Galileo ei gwrthod yn llwyr. Mae'n debyg mai'r seryddwr a ymserchodd fwyafyn lluosogrwydd bydoedd yn y cyfnod hwnnw oedd Gior- dano Bruno (1548-1600) y cyhoeddwyd ei De l'infinito universo ym 1584. Prif nodweddion cyfundrefn gos- molegol Bruno oedd ei hanfeidredd a'i chyflawnder bywyd. Dienyddiwyd Bruno ym 1600 ar gyhuddiad o heresi ond myth, mae'n debyg, yw'r honiad mai ei ymroddiad i luosogrwydd bydoedd oedd yn gyfrifol am hyn. Ac er iddo gynnal ei ddadleuon cosmolegol â chyfeiriadau cymwys a lluosog at ffynonellau digon derbyniol, eto i gyd, ychydig oedd ei ddylanwad ar ei gyfoeswyr. Yng ngeiriau Crowe His sources seem to have been more numerous than his followers, at least until the eighteenth and nineteenth centuries *Crowe, M. J. The Extraterrestrial Life Debate, 1750-1900, Cambridge University Press, 1986. Pris: £ 40.00. R. ELWYN HUGHES Ond odid y pwysicaf o'i ddilynwyr yn y ddeunawfed ganrif oedd William Derham (1657-1735), diwinydd, gwyddonydd ('roedd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol), cofiannydd John Ray ac yn bennaf oll efallai awdur dau lyfr dylanwadol iawn yn nhra- ddodiad crefydd naturiol ei ddydd, Physico-theology ac Astro-theology 'System Newydd' Gymaint oedd edmygedd Derham o syniadaeth Bruno nes iddo drafod yn ei Astro-theology dair cyfun- drefn gosmolegol yn lle'r ddwy yr arferid eu harddel yr adeg honno. Ynghyd â'r systemau Ptolemaig a Choper- nicaidd cafwyd gan Derham ddisgrifiad hefyd o'r 'Sys- tem Newydd' (a defnyddio ei derminoleg ef) nad oedd mewn gwirionedd namyn addasiad o syniadaeth Bruno a'i phwyslais yn bennaf ar anfeidredd a lluosog- rwydd bydoedd. Nid nad oedd Derham yn ymwybodol o'r problemau fu'n ynglwm wrth ei 'System Newydd' the usual Question is what is the use of so many Planets as we see about the Suns, and so many as are imagined to be about the Fbct Stars' ysgrifennodd 'To which the answer is That they are Worlds or places of Habitation Gwelir yma weithredu'r 'egwyddor cyflawnder' gan Derham fel eglurhad i'r cwestiwn; yn ôl Crowe yr egwyddor hon oedd y cymhelliad pwysicaf o ddigon dros gredu mewn bywyd allddaearol. Daliai Addison tua'r un cyfnod nad oedd hyn ond yn gred ddigon rhesymol (as) every part of matter (h.y. y ddaear) is peopled (so) those great bodies which are at such a distance from us should be desart and unpeopled but rather that they should be furnished with Beings adapted to their respective situations a Ym marn Crowe 'roedd i Derham Ie allweddol yn natblygiad a lledaenu syniadau lluosogrwyddol. Yn hyn o beth ef oedd y ddolen-gyswllt rhwng y Chwyldro Copernicaidd a'r ddeunawfed ganrif. Yn sicr y mae hyn yn wir cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Pwys- odd Dafydd Lewys yn drwm ar lyfrau Derham wrth baratoi ei Olwg ar y Byd ym 1725. Mae yntau'n cynnwys adran ar 'Y System Newydd' sydd yn gyfieithiad lled agos o ddeunydd Derham; ond y mae Lewys yn ychwanegu sylwadau o'i eiddo ei hun hefyd a'r rhain eto yn adlewyrchu ysbryd ei oes: `. A oes cynnifer o fydoedd ag sydd o sêr? A ydyw yr holl fydoedd hyn yn cael eu trigfanu? Onid ydynt oll, wrth bob tebygoliaeth, wedi eu llenwi a chreaduriaid cymmwys iddynt, gan na wnaeth Duw ddim yn ofer?'3 Deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach cyhoeddodd William Williams ei gerdd hir 'Golwg ar Deyrnas Crist', yntau hefyd yn ei droed-nodiadau i'r gerdd yn benthyca'n helaeth oddi wrth Derham ac yn derbyn yn ddi-gwestiwn fod 'yr holl blanedau sydd yn perthyn i'r Haul a'r sêr gwibiog hefyd yn fydoedd