Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sylwadau cloi yn rhoi'r argraff ei fod yntau am ddianc i'r un pwll diwaelod wrth awgrymu mai da o beth fydd- ai inni ymarfer gofal a gostyngeiddrwydd wrth ymwneud â phwnc lle mae gweddau ar wyddoniaeth, athroniaeth a chrefydd wedi eu cyfrodeddu mor dyn yn ei gilydd. Mae yn ein gadael ni â sylw i'r perwyl fod Duw a gwyddoniaeth, ill dau, ar adegau yn symud ar hyd llwybrau pur astrus a throellog. Cyfeiriadaeth 1 William Derham, Astro-theology, London, 1715, t.xlix. 2 J. Addison, The Evidences ofthe Christian Religion, 2il, argraffiad 1733, 1. 119. Eiscat: Ar Ffiniau'r Gofod MaePhil Wiliamsyn wyddonydd y gofod ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'n Llywydd Cymdeithas Wyddonol Cymru; ef oedd Cyfarwyddwr Eiscat 1980-82. YM MIS Awst 1982 dringodd Brenin Sweden ar lwyfan 200 kilomedr i'r gogledd o'r Cylch Artig a phwyso botwm. Sganiodd tri thelescop radio enfawr yn Tromsø yn Norwy, Kiruna yn Sweden a Sodankylä yn y Ffindir i fyny ar unwaith a dechrau derbyn adleisiau radar o'r ïonosffer awroraidd ar amleddau-wltra-uchel. Roedd yna un nodwedd anarferol i agoriad brenhinol: roedd yn hollol ddìdwyll. Yr ennyd y pwysodd Carl Gustav y botwm oedd y tro cyntaf i system EISCAT weithio fel un. Gwireddu Breuddwyd Bedair blynedd i'r diwrnod yn ddiweddarach der- byniodd ail radar EISCAT, yn gweithio ar amleddau- uchel-iawn, ei adleisiau 'glan' cyntaf o'r ïonosffer. Mae'r holl gyfleuster bellach bron yn gyfan. a breu- ddwyd wedi ei gwireddu. I'r gwyddonwyr hynny o'r chwe gwlad sydd ynglyn ag EISCAT ('European Incoherent SCATter Radar'), mae'n achos o'r dechneg iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Ar ôl buddsoddi mwy na £ 12 miliwn, mae'r ddau radar ïonosfferaidd mwyaf datblygedig yn y byd yn gweithio yn y gylchfa awroraidd yng Ngogledd Llychlyn, yr ardal honno lle gellir gweld goleuadau'r gogledd yn rheolaidd. Rhy Dda i fod yn Wir? Mae techneg gwasgaru anghysylltus yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, ac mae'n well na hynny hyd yn oed. 3 D. Lewys, Golwg ar y Byd, 1725 (argraffiad Jones, Llanrwst 1825), t.155. 4 William Williams, Gweithiau (gol. G. M. Roberts), cyfrol 1, Caer- dydd, 1964, tt.45-6. 5 T.E. Yr Eurgrawn Wesleyaidd 6, 1814, t.123, gw. hefyd R. E. Hughes, Y Gwyddonydd 22, 1984. 44-6. 6 J. W. Thomas, Darlith ar Seryddiaeth, Caernarfon, d.d., tt.12-13. 7 A R. Wallace, Man s Place in the Unh'erse (1903) a Is Mars Habit- able? (1907). 8 gw. e.e. F. Hoyle & C. Wickramasinghe, Evolution from Space, 1981. 9 F. J. Tipler, Q.J1 R.astr.Soc. 21, 1980, 267-81. 10 Ibid. 11 G. D. Brin, Q.J1 R.astr.Soc. 24, 1983, 283-309. PHIL WILLIAMS YR AWDUR. Llun 1. Safle EISCAT ger Tromso (Norwy) gydag antena UHF ar y chwith ac VHFarydde. Mae derbyn unrhyw signal o gwbl yn wyrth dechnegol. Os edrychwn ar gyfaint o 100 kilomedr ciwbig ar ben- llanw'r ïonosffer, dim ond lcm2 yw holl arwynebedd y gwasgariad radar. Yr ydym yn edrych am geiniog o