Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CAT yn gwneud mesuriadau parhaol mewn un sector. Defnyddiwyd y cyfuniad i fesur yr effeithiau o ran amser a gofod. Roedd y cytundeb yn dda yn yr ardal gorgyffwrdd ond yr oedd y patrwm cyffredinol yn gymhleth iawn ac yn cadarnhau ein bod yn ymwneud â chylched gymhleth. Yr astudiaeth hon o'r gylched yw prif faes ymchwil y grwp EISCAT yng Ngholeg Prif- ysgol Cymru yn awr. Goleuadau Bendigedig Wrth gwrs, yr awrora yw problem wyddonol fwyaf dyrys y gylchfa awroraidd. Mae'r awrora borealis wedi ennyn chwilfrydedd, syndod, ofn a rhyfeddod ar hyd yr oesoedd. Mae seintiau a gwyddonwyr, beirdd ac arlunwyr o11 wedi ceisio ei esbonio. Arferai pobl yr esgimo feddwl fod eneidiau'r meirw yn chwarae pêl droed, a hyd yn ddiweddar yr oedd y ddamcaniaeth honno yr un mor gredadwy ag unrhyw un arall. Gwyddom y dyddiau hyn y caiff awrorau eu hachosi gan electronau wedi'u cyflymu i tua 10 kilofolt, yn teithio ar hyd linellau maes magnetaidd ac yn goleuo'r atmosffer rhywbeth yn debyg i'r modd mae paladr elec- tron yn goleuo sgrin deledu. Ond ble mae'r gwn elec- tron? Mae'r mecanwaith cywir i gyflymu'r electronau yn fater o ddadlau brwd. Mae gan ddamcaniaethau meysydd cyferbyniol, haenau-dwbl, a rhyngweithiad ton-gronyn oll eu cefnogwyr. Fel gydag ailgysylltiad magnetaidd, mae cyflymiad gronynau yn broblem ym mhob cangen o seryddiaeth, ac unwaith eto mae gan geoffiseg y gofod gyfle unigryw i astudio'r ffenomen yn ei briod le. Mae cyfuniad EIS- CAT gyda llongau gofod a rocedi yn hanfodol unwaith eto. Gall llongau gofod fesur dylif gronynau egnïol ar wahanol bwyntiau ar hyd linell maes magnetaidd a chanfod y gwahanol donnau yn y magnetosffer; gall EISCAT gadw golwg ar waddodiad y gronynau a meys- ydd trydan dros ardal ddaearyddol eang yn y gylchfa awroraidd. Ymgymerwyd yn llwyddiannus â holl ran- GENETIC AND POPULATION STUDIES IN WALES Golygwyd gan Peter S. Harper ac Eric Sunderland tt. vii 433 clawr caled £ 27.00 ISBN 0-7083-0867-8 Ceir yn y gyfrol hon 23 pennod (yn Saesneg) a rydd ddarlun cynhwysfawr o wreiddiau a nodweddion pobl Cymru o'u cymharu â chenhedloedd cyfagos. Yn rhan gyntaf y gyfrol arolygir y prif astudiaethau daearyddol, archaeolegol ac ieithyddol yn y maes. Yna ceir nifer o astudiaethau anthropolegol a genetegol sy'n bwrw goleuni ar yr amrywiaeth biolegol eang a geir o fewn poblogaeth Cymru. GWASG PRIFYSGOL CYMRU 6 Stryd Gwennyth, Cathays, Caerdydd CF2 4YD Ffôn: (0222) 31919 (24 awr) nau gwahanol yr arbrawf fawreddog hon ond nid yr un pryd nes i'r Viking, y lloeren Swedaidd, gael ei lansio i fynd i'r afael â'r broblem hon mewn cysylltiad agos ag EISCAT. Mae'n sicr y bydd ysgrifenwyr y dyfodol yn cysylltu dealltwriaeth lawn o'r awrora ag EISCAT. Geoffiseg neu Blasmaffiseg? Dim ond is-adran fechan o'r cant neu fwy o arbro- fion geoffisegol a wnaeth EISCAT hyd yn hyn a ddis- grifir yma, yn cynnwys astudiaethau o'r mesosffer a'r atmosffer. Eisoes mae'r tîm yng Ngholeg Prifysgol Cymru wedi defnyddio data EISCAT i astudio'r llanw atmosfferaidd sy'n lledaenu ar i fyny yn y stratosffer a bydd y gwaith hwn yn arbennig o arwyddocaol pan fydd radar atmosfferaidd pwysig yn dechrau gweith- redu yn Aberystwyth. Ym maes plasmaffiseg mae'r posibiliadau mwyaf cyffrous i EISCAT fodd bynnag. Mae'r atmosffer uchaf fel labordy enfawr ble gellir astudio'r plasma mewn gwactod bron heb broblemau muriau i'w gynnal. Dan ddylanwad meysydd trydan cryf ceir ansefydlogrwydd yn y plasma a gellir eu hastudio drwy'r fflachennau a achosant mewn signalau lloerennau neu gan yr adeleisiau cryf a roddant yn yr hyn a elwir yn radar cysylltus. Yn bwysicach hyd yn oed mae'r arbrofion a wneir mewn cysylltiad â'r arbrawf twymo Yonosfferaidd a ddodwyd yn Tromsø gan Sefydliad Max-Planck o Lindau. Daw'r gwaith hwn yn bwysicach hyd yn oed gyda chyomisiynu'r system amledd-wltra-uchel ac efallai y bydd yn symud i safle canolog ymchwil EISCAT. Mae un peth yn sicr. Bydd EISCATyn rhoi cyfle uni- gryw i ffisegwyr plasma'r gofod yn Ewrop ddef- nyddio'r cyfleuster gorau yn y byd am y deng mlynedd nesaf o leiaf.