Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwyddoniaeth yn yr ysgolion Bioleg ERBYN HYN, cyhoeddwyd bron y cyfan o'r deunaw gwerslyfryn y gyfes Project Defnyddiau ac Adnoddau y Swyddfa Gymreig. Swyddog Bioleg y Project yw Melfyn R. Williams, Llanuwchllyn, sy'n bennaeth yr Adran Fioleg yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Er mai llyfrau Bioleg yw'r rhain yn bennaf, maent yn cynnwys llawer o ddeunydd sy'n pontio maes gwydd- oniaeth gyffredinol yn yr ysgol uwchradd. Ceir, er enghraifft, ddwy gyfrol ar ddefnyddio gwahanol gyfar- par yn y labordai gwyddoniaeth (Bioleg 7: Y Labordy a Bioleg 15: Defnyddio'r Microsgop); llyfr ar briodweddau solidau, hylifau a nwyon (Bioleg 10: Cyflyrau Mater); gwahanol nodweddion dwr yn y llyfr Bioleg 14: Dŵr a gwybodaeth am gemegion a thanwyddau yn y gyfrol olaf, Bioleg 18: Cramen y Ddaear. Mae Bioleg 17: Egni yn trin a thrafod egni gwres yn bennaf ond yn rhoi sylw hefyd i'r modd y trawsnewidir egni o un ffurf i'r llall gan ddwyn ynghyd nifer o'r pynciau a drafodwyd yn y llyfrau eraill ar newid cyflwr, tanwyddau ac ati. Llun 1. Rhai o'r llyfrau a gyhoeddwyd eisoes yn y gyfres. Paratowyd y llyfrau yn benodol at bwrpas disgyblion blynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd ac mae pob un yn cynnwys amryw o arbrofion ar gyfer ateb gofynion meysydd llafur y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwch- radd (TGAU) ynglyn ag asesu'r gwahanol sgiliau arbrofol, sef arsylwi a chofnodi; mesur; trefnu; medrus- rwydd; dyfeisio damcaniaethau a llunio arbrofion. Dyma restr gyflawn o deitlau'r gyfres. Oni nodir yn wahanol, Melfyn R. Williams yw awdur pob llyfr. 1: Adnabod Pryfed ac Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Eraill 2: Coed yn ystod yr Hydref a'r Gaeaf 3: Coed yn ystod y Gwanwyn a'r Haf 4: Bioleg Maes Chwarae'r Ysgol HUW ROBERTS 5: Casglu. Magu ac Arbrofi ag Anifeiliaid Di-asgwrn- cefn 6: Dosbarthu Pethau Byw 7: Y Labordy 8: Bwyd 9: Y Micro-organebau 10: Cyflyrau Mater 11: Astudio Adar 12: Adnabod eich Hunain 13: Byd y Planhigion (gan Austin Savage) 14: Dwr 15: Defnyddio'r Microsgop (gan Rhodri Lloyd) 16: Symud a Chludo 17: Egni 18: Cramen y Ddaear Cyhoeddir y gyfres dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau ac Adnoddau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a'r cyhoeddwyr yw Gwasg Gomer, Llandysul. Pris pob cyfrol yw £ 2.00. Darllen am Wyddoniaeth Addasiad Cymraeg o bum llyfr a gynhyrchwyd yn yr Alban ac a gyhoeddwyd yn y Saesneg fel ReadingAbout Science gan gwmni Heinemann yw'r gyfres hon. Mae'n darparu deunydd gwyddonol ar gyfer disgyb- lion blynyddoedd 1 a 2 yn yr ysgol uwchradd, pob llyfr yn cynnwys ugain erthygl 'tudalen ddwbl' ar amrywiol bynciau. Disgwylir dau lyfr cyntaf y gyfes o'r wasg yn fuan, sef Llyfr 1: Unedau, Pethau Byw, ac Egni Llyfr 2: Sylweddau, Toddiannau. Celloedd, a Hadau. Paratowyd yr addasiad Cymraeg gan Siân Gruffudd, Caerdydd, a chyhoeddir y gyfres dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau ac Adnoddau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Y cyhoeddwr yw D. Brown a'i Feibion, Y Bont- faen a phris y cyfrolau fydd £ 2.50. Dysgu Trwy Wyddoniaeth Ar y cyd ag Awdurdod Addysg Gwynedd, mae Cyd- bwyllgor Addysg Cymru hefyd yn noddi cyhoeddi unedau yn y gyfres Dysgu Trwy Wyddoniaeth ar gyfer dis- gyblion yr ysgolion cynradd. Deunydd a baratowyd gan y Cyngor Ysgolion yw hwn Learning Through Science ac a gyhoeddwyd yn y Saesneg gan gwmni MacDonald Educational. Mae pob uned yn cynnwys set o bedwar ar hugain cer- dyn gwaith lliwgar, pedwar 'tudalen', ar gyfer y dis- gyblion, ynghyd â llyfryn canllawiau i'r athro. Addaswyd y gwaith i'r Gymraeg gan Gwenno Hywyn, Caernarfon, ac fe'i hargreffir gan Wasg Gwyn- edd. Y ddau deitl cyntaf i ymddangos fydd Symud a Lliw a'r cyhoeddwyr yw Cyngor Sir Gwynedd.