Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG PRIFYSGOL CYMRU ABERYSTWYTH CYRSIAU GRADD yn · Y CELFYDDYDAU в Y GYFRAITH в Y GWYDDORAU · ASTUDIAETHAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL CYFLEUSTERAU YMCHWIL o'r radd flaenaf, yn seiliedig ar draddodiad hir o ysgolheictod CYNIGIR YSGOLORIAETHAU EVAN MORGAN bob blwyddyn i fyfyrwyr o Gymru ar sail arholiad a gynhelir ym mis lonawr. Manylion pellach i'w cael gan y Swyddfa Dderbyn, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ASTUDIAETH UWCH-RADD YM MANGOR Ceir cyfleusterau ym mhob adran i fyfyrwyr wneud ymchwil yn arwain at radd Meistr neu Ph.D. Prifysgol Cymru. Yn ogystal, dysgir y cyrsiau uwch canlynol: M.A. (cwrs 12 mis fel arfer, oni nodir yn wahanol): Hanes a Ffurfiant yr Iaith Almaeneg, Cerddoriaeth, Y Clasuron, Cymraeg, Economeg Ariannol, Efrydiau Beiblaidd, Gwaith Cymdeithasol (12 mis amser-llawn a 12 mis rhan-amser), Ieithyddiaeth Theoretig a Chymhwysol, Saesneg fel Ail-Iaith, Llywodraeth y Tuduriaid. M.Sc. (cwrs 12 mis fel arfer): Amddiffyn Cnydau, Bioleg Môr, Bioleg a Rheolaeth Pysgodfeydd, Coedwigaeth Amgylchedd, Cynnyrch Anifeiliaid y Byd, Ecoleg, Eigioneg Ffisegol, Electroneg Eigion, Geoffiseg Adnoddau Dwr Geotechneg Môr, Mathemateg Bur, Mathemateg Gymhwysol, Parasitoleg Anifeiliaid. Cynigir hefyd gyrsiau uwch mewn Addysg, Cerddoriaeth a Diwinyddiaeth sy'n arwain at raddau M.Ed., M.Mus. ac M.Th. Trefnir cwrs ar y cyd ar ddyslecsia gan yr Ysgol Addysg a'r Adran Seicoleg. Bydd y cwrs hwn yn golygu astudio'n rhan- amser am gyfnod o ddwy flynedd. Yn ddiweddar cyflwynodd yr YGPE gwrs pedair blynedd i is-raddedigion yn arwain at radd M.Eng. Diploma Uwch-Radd (tri thymor fel arfer). Cynigir y cwrs hwn yn y mwyafrif o'r pynciau a restrwyd uchod, ac yn ogystal Coedwigaeth, Gweinyddiaeth Archifau, Gwaith Cymdeíthasol (Diploma TCGC), Gwyddor Amaethyddiaeth, Gwyddor Amaethyddiaeth (cwrs dewis Gwyddor Pridd), Gwyddor Coed. Tystysgrif: Addysg, Addysg (gyda sylw arbennig i ddysgu Saesneg fel ail Iaith). Hefyd cynigir Diploma Uwch-radd mewn Technoleg Gwybodaeth ar gyfer graddedigion mewn unrhyw faes arbenigol sy'n dymuno cymhwyso ar gyfer y maes hwn. Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, ysgrifennwch at y Cofrestrydd Academaidd, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2DG. Ffôn (0248) 351151.