Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Teledu o'r Gofod Brodor o Borthmadog yw Geraint Curig ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Efìonydd a Choleg y Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddioddmewn hanes. Wedi gadael Coleg bu 'n gweithio gyda Sulyn y papur Sul yng Ngwynedd, ac wedi i Sulyn ddirwyn i ben bu 'n Swyddog Hysbysrwydd gyda Chyngor Croeso'r Canolbarth. Cychwynodd ar ei ddyletswyddau fel Swyddog Cynorthwyol yr Awdur- dod Darlledu Annibynnol (IBA) ym Mis Medi y lIynedd ar ôl treu/io cyfnod fel Pennaeth y Wasg gyda Chyngor Chwaraeon Cymru. YM 1990 gellir disgwyl y bydd hi'n bosibl derbyn tair sianel deledu newydd yn ein cartrefi. Bydd dyfodiad gwasanaeth Syth o Loeren yn dynodi cam arall yn Oes y Gofod, ond beth fydd y gwasanaeth yn ei gynnig a beth fydd ei Ie ym mhatrwm datblygu defnydd loer- ennol? 'Early Bird' Lansiwyd y lloeren gyfathrebu ddaearol lonydd gyn- taf ym 1962, ac 'roedd Early Bird yn dynodi cychwyn y system gyfathrebu gyntaf, Intelsat, sydd yn awr ag aelodaeth 110 o wledydd a chyda 16 0 loerennau gweithredol. Llun 1. Ariane y roced lansio Ewropeaidd ar ei thaith. GERAINT CURIG YR AWDUR. 'Roedd y lloerennau cynnar yn y sustem yn trosglwy- ddo pwer o ddau i dri watt wedi ei ledaenu dros yr holl fyd ac ni ellid ond eu derbyn gan orsafoedd daearol sylweddol iawn. Dim hyd nes y daeth hi'n bosibl i lan- sio cerbyd gofod mwy a allai greu pwer uwch, ynghyd â'r gallu i grynhoi paladr (beam), y gellid defnyddio gorsafoedd daear llai. Dyma oedd cychwyn defnyddio cyfathrebu lloerennol ar gyfer dosbarthu signal. Y cyntaf i fanteisio ar y dosbarthiad ar gyfer teledu oedd sustem Canada Auk gyda gwasanaeth Public Broadcasting Services (PBS) yn Washington yn dynn ar ei sawdl. Daeth mantais y math hwn o ddosbarthu o'i gymharu â chysylltiad meicro don yn amlwg wrth ddosbarthu dros bellteroedd eang ac yn gyflym fe addasodd rhwydweithiau Americanaidd a chebl lloer- ennau ar gyfer dosbarthu eu rhaglenni. Yn y 1970au fel y datblygodd offer derbyn daeth yn bosibl yn yr Unol Daleithiau i dderbyn y mwyafrif o loerennau dosbarthu teledu gydag antena o dair i bedair medr mewn diamedr. Tra gallai hyn gynrychioli ychwanegiad annerbyniol i gartrefi yn Ewrop 'roedd gerddi cefn ar hyd a lled yr Unol Daleithiau yn ddigon mawr i dderbyn yr antenau yma. O ganlyniad fe ddat- blygodd marchnad annisgwyl mewn offer derbyn teledu yn unig. Bu datblygiadau cyffelyb yn Ewrop gyda'r IBA yn dechrau arbrofi ym 1978 gyda'r 'European Space Agency's Orbital Test Satellite' (OTS). 'Roedd gan y lloeren yma baladr sbot a ganolbwyntiai y pwer lloer- ennol ar gylchfa llai na'r hyn oedd yn arferol gyda'r mwyafrif o sustemau Americanaidd. Drwy bwerau lloerennol o tua 20 watt a'r pelydrau sbot gellid cael derbyniad teledu cebl er mwyn creu rhwydweithiau ffeibr optig. Mewn fawr o dro fe ddaeth yn amlwg y gallai'r sustemau cebl cenedlaethol ddarparu march- nad rhyngwladol ar gyfer rhaglenni drwy ddefnydd o loerennau. Gallai rhaglenni Saesneg, cerddoriaeth a chwaraeon groesi ffiniau cenedlaethol. Ym mhen byr amser 'roedd y lloerennau Ewrop- eaidd a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer ffôn wedi eu gor-danysgrifio gan ofynion teledu. Fel yr ychwaneg- wyd lloerennau eraill i gwrdd â'r galw 'roedd angen mwy o antenau ar y sustemau cebl ac roeddynt yn dymuno cynnig yr ystod llawn o rhaglenni.