Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau Drych yr Oesoedd Canol, golygwyd gan Nesta Lloyd a Mor- fydd E. Owen; Gwasg Prifysgol Cymru, 1986; tt.lxiii + 276. Pris: £ 8.95 a Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 gan Enid Roberts; Gwasg Barddas, 1986. Pris: £ 3.50. Cyhoeddwyd dau lyfr Cymraeg ym 1986 sy'n debyg o fod o ddiddordeb i'r sawl sy'n ymddiddori yn hanes gwyddoniaeth yng Nghymru. Mae Drych yr Oesoedd Canol yn gasgliad cyn- hwysfawr a chynrychioladol o ysgrifennu 'anchwedlonol' (chwedl y golygyddion) Cymraeg yr Oesoedd Canol. Mae cryn gyfran o'r casgliad yn ddeunydd technegol neu hyff- orddiadol, wedi'i rhannu'n bum adran sef gwyddoniaeth, daearyddiaeth. meddygaeth, amaethyddiaeth a helwriaeth ynghyd â rhagymadrodd eglurhaol a chyfeiriadol i bob adran. Ceir yma felly enghreifftiau o'r ysgrifennu gwyddonol Cymraeg cynharaf o11. Defnyddio cynnyrch y beirdd i bortreadu datblygiadau penseirnïol yn nhai'r uchelwyr yng Nghymru a wna Enid Roberts yn ei Tai Uchelwyr y Beridd 1350-1650. Da fyddai gweld datblygu rhai o'r pynciau ymhellach megis, er enghraifft. sylwadau'r beirdd ar hanes gwydr yng Nghymru. Diddorol yw'r awgrym mai telesgôp oedd y 'drych a wyl beth o law o bell' a fu yng Nghynfal Fawr ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg. Rhaid bod telesgopau'n offer prin iawn yng Nghymru'r adeg honno fel yn Lloegr hithau. Gwyddys fod William Lower wedi derbyn un gan Thomas Harriot ar ddechrau'r ganrif a'i fod yn ei ddefnyddio yn ei dy yn ymyl Caerfyrddin ym 1610; byddai cael gwybod bod un ar arfer yn y gogledd hefyd tua'r un adeg yn wybodaeth dra diddorol. R.E.H. Clefyd Melys y Fwydlen a Chyffuriau, gan y Clinig Diabetes. Ysbyty Maelor, Wrecsam; tt.15. Pamffledyn 15 tudalen gan aelodau staff y Clinig Diabetes yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Noddwyd y cyhoeddi gan Gwmni Boehringer a'r Dr Gaenor Taffinder fu'n gyfrifol am y cyfieithiad Cymraeg. Mae hwn yn gynhyrchiad lliw- gar a darllenadwy sy'n llwyddo i drafod materion cymharol gymhleth mewn dull tra derbyniol a heb beri i'r ystyr wydd- onol fynd yn aberth i'r broses symleiddio. Mae nifer o fan-frychau a gwallau argraffu y dylid eu symud cyn mentro ar ail argraffiad. Physiology of Lactation gan T. B. Mepham; Open University Press, 1987. Bwyd sy'n llwyr 'annaturiol' i bawb ond babanod yw llaeth. Er hyn, y mae'n gyfrifol ar gyfartaledd am ryw 23% o'n cymer- iant protein a 60% o'n calsiwm. Hyd at yn gymharol ddiw- eddar bu'r broses laetha ei hun yn gryn ddirgelwch. Paratowyd y llyfr technegol ond darllenadwy hwn i oleuo myfyrwyr prifysgol a'u tebyg ynghylch rhai o ddirgelion y broses ac am natur a ffurfiad y cynnyrch ei hun llaeth. I'r biocemegydd y mae'n debyg mae'r peth mwyaf diddorol ynglyn â llaeth yw dull unigryw y corff o synthesu'r lactos sydd ynddo. Yn wir, y mae'r cwestiwn sylfaenol 'Paham lac- tos?' (yn hytrach na, dyweder, glwcos) heb ei ateb yn llwyr foddhaol gan neb hyd yn hyn; ac yn anffodus, y mae'n un nas trafodir gan Mepham ychwaith. Ond ni chyfyngir y diddor- deb cyfoes mewn llaeth i'r biocemegydd yn unig; fel y daw'n amlwg o'r llyfr dan sylw y mae o gryn arwyddocâd hefyd i'r ffisiolegydd ac i'r imwnolegydd, i'r epidemiolegydd fel ag i'r seicolegydd. Efallai bod ymdriniaeth Mepham ag ambell i bwnc megis anoddefedd ffisiolegol i lactos neu'rberthynas dybiedig rhwng mynychder clefydau a'r cymeriant llaeth R.E.H. braidd yn denau ond man-frychau yw'r rhain. I'r sawl sydd am ateb i gwestiynau megis 'A oes manteision mewn magu baban o'r fron?' neu 'A ellir llaeth o fenyw anfeichiog?' neu sydd am ddysgu mwy am y berthynas rhwng sugno'r fron a chansr neu am y posibilrwydd o ddefnyddio bacteria maes o law i gynhyrchu llaeth, hwn yn ddiau. yw'r llyfr. R.E.H. In the name of Eugenics gan D. J. Kevles; Pelican Books, 1986. Pris: £ 4.95. Mae'r llyfr darllenadwy hwn, gan hanesydd o'r Taleithiau Unedig, yn olrhain geni, twf a marwolaeth Ewgeneg y gred fod modd gwella ansawdd ein cymdeithas ddynol trwy fridio detholus. Francis Galton (cefnder i Charles Darwin ac awdur Hereditary Genius) oedd tad Ewgeneg ac Adolf Hitler (na fed- rai wahaniaethu rhwng hil-laddiad ac Ewgeneg) fu'n bennaf cyfrifol am ei marwolaeth. Os marwolaeth hefyd. Canys prif neges llyfr Kevles yw bod enaid Ewgeneg yn dal yn fyw iawn yn ein plith er bod corff y credoau traddodiadol wedi hen ddarfod o'r tir. Na chymered neb ei dwyllo gan deitl y llyfr y mae ei gwmpas yn llawer ehangach na ffiniau ewgeneg hanesyddo'. Ceir gan Kevles ymdriniaeth oleuedig â nifer o ddatblyt" iadau allweddol yn ei hanes megis cyfraniad y bio-ystadej wyr cynnar Pearson a Weldon i eni ewgeneg, y dadleuo