Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

di-derfyn yn Lloegr ynghylch nature a nurture, ac yn nes at ein dyddiau ni. waith Penrose a'r cysylltiad rhwng ewgeneg glasurol a geneteg feddygol gyfoes. Llai llwyddiannus efallai yw'r ymdrech i egluro ambell i baradocs ymddangosiadol megis sut (a phaham) y daeth cynifer o wyddonwyr y Chwith (megis Haldane a Hogben a Huxley) i gofleidio'r hyn a oedd, yn ei hanfod, yn agwedd ar Gymdeithaseg yr Adain Dde. Ym mhenodau cloi'r llyfr delir ag agweddau cyfoes perthnasol megis y peryglon (a'r posibiliadau) sydd ynghlwm wrth dechnegau DNA adgyfunol, bendithion amniocentesis, a bodolaeth y Banc Sbermau yn y Taleithiau Unedig sydd â'i gyfalaf o gametau 'gwyddonol' yn cynnwys deunydd a roddwyd, mewn pwl o wylder, gan nifer o enillwyr Gwobr Nobel. Fel y tlodion, y mae syniadau ewgenaidd, os nad Ewgeneg ei hun, wedi'u tynghedu i aros gyda ni am byth. Wedi'r cwbl, y mae'n anodd ymwrthod ar dir rhesymeg ag athrawiaeth sy'n cyfaddef ar y naill law fod dyn yn gynhenid amherffaith wrth dderbyn, ar y llall, fod modd iddo er hyn, ei wella ei hun hyd at berffeithrwydd. Pa un ai trwy dechnegau peirianneg enetegol neu o ganlyniad i ddulliau mwy llechwraidd ein Torïaeth gyfoes y cyflawnir amcanion ein crypto-ewgenegwyr cyfoes, nid yw o bwys. Yr un fydd terfyn y daith. R.E.H. How to Live Longer and Feel Better gan Linus Pauling; W. H. Freeman & Co., 1986; tt.322. Pris: £ 15.95 (clawr caled), £ 5.95 (clawr meddal). Cyhoeddwyd toreth o lyfrau'n ddiweddar i'n cynghori sut i fyw yn iach. Gwnaeth rhai unigolion geiniog neu ddwy ar gorn y ffasiwn hon hefyd. Un sydd wedi bod yn dadlau ei achos yn gyson dros nifer dda o flynyddoedd yw Linus Paul- ing, ac nid rhywun sydd yn ceisio gwneud ceiniog ychwan- egol ar frys. Llyfr a ysgrifennwyd o argyhoeddiad dwfn yw'r gyfrol hon, ac os y medraf i baratoi achos mor glir a chryno yn chwech a phedwar ugain oed byddaf yn ddiolchgar iawn. Nid yw syniadau Pauling yn barchus yng ngwydd llawer o bar- chusion y sefydliad meddygol, ond nid yw hynny yn poeni dim arno. Mae'n dadlau ei achos, gan ddisgrifio'r dystiolaeth yn llawn, heb flewyn ar ei dafod. Craidd ei ddadl, sef yr hyn y mae wedi bod yn ei ddadlau ers blynyddoedd, yw nad yw'r lefelau o asid ascorbig neu fitamin C a awgrymir yn swyddogol yn hanner digon uchel. Awgryma rhywbeth tebyg am fitamin E yn ogystal. Gwna hyn ar sail sawl dadl. Fel rhyw dipyn o fiolegydd mae ei ddadl esblygiadol yn un ddiddorol iawn. Wedi sefydlu mai'r rheswm pam y daeth yn angenrheidiol i'r ddynolryw, ynghyd a'i berthnasau agosaf, ofalu bwyta digon o asid ascorbig yn eu porthiant yw oher- wydd bod eu cyn-deidiau wedi bod yn derbyn digonedd ohono yn eu bwyd. Digwyddodd mutantiad ac fe gollodd y creadur hwnnw y gallu i gynhyrchu'r cemegyn. Gan ei fod yn derbyn digon ohono yn ei fwyd nid oedd hyn o anfantais iddo. Yn hytrach yr oedd yn fantais oherwydd nad oedd yn rhaid iddo bellach wastraffu ynni gwerthfawr yn ei gynhyrchu. Byddai hynny o fantais iddo dros ei gyfoedion yn y pen draw ac felly goroesodd a diflanasant hwythau. Rhaid felly, yn ôl Pauling, edrych faint o asid ascorbig sydd mewn gwaed anifeiliaid sy'n ei gynhyrchu. Rhaid hefyd dadansoddi beth fyddai cynnwys asid ascorbig digon o fwyd amrwd nat- uriol i gadw dyn cyntefig i fynd am ddiwrnod. Mae pob un o'r dulliau yma yn rhoi ffigwr o rhwng 2 a 10 gram y person y dydd. Pitw iawn yw'r 60mg a awgrymir gan yr awdurdodau Americanaidd mewn cymhariaeth. Gwnaed llawer o ymchwil i effaith asid ascorbig ar batrwm effaith heintiau ar y corff dynol. Yr enwocafyw ei effaith ar yr annwyd. Mae Pauling yn dadlau nad oes amheuaeth fod lef- elau uchel o'r cemegyn hwn yn allweddol i' corff fedru ymladd yr haint. Ei ateb i'w wrthwynebwyr yw nad ydynt wedi defnyddio lefelau digon uchel ohono yn eu profion. Dyfynna gyhoeddiadau i gefnogi ei achos. Daw rhywun i'r casgliad erbyn rhoi'r llyfr i lawr fod llawer o gyflyrau medd- ygol megis cansr a'r tueddiad i rai afiechydon yn deillio'n uniongyrchol o ddiffyg asid ascorbig yn ein porthiant. Mewn rhai mannau mae pwysau'r ddadl yn mynd mor gryf nes bod rhywun yn dechrau amau fod y gwyddonydd arbennig hwn wedi colli ei wrthrychedd. Ond i fod yn deg iddo y mae hefyd yn dyfynnu ei wrthwynebwyr tra'r un pryd, wrth reswm, yn taro eu dadleuon hwy ar eu talcen. Nid ar asid ascorbig yn unig y canolbwyntia Pauling eithr dadansodda borthiant dynol yn gyffredinol gan roi cynghor- ion manwl a gwerthfawr yng nghyd-destun faint o'r gwa- hanol fitaminiau sydd eu hangen, faint o brotein sydd yn ddigon a hefyd pwysigrwydd natur y braster a'r carbohyd- radau a fwytewn. Daw'r hen ffefryn, erbyn hyn, sef ffibr i mewn hefyd. Yna mae'n canolbwyntio ar gynghorion cyff- redinol ar y cyd-bwysedd o'r holl elfennau hyn a'r ffordd y gall pob unigolyn amrywio yn eu hangen amdanynt. Er hynny mae cynnwys y llyfr hwn wedi ei anelu nid yn unig tuag atom ni fel cyhoedd, er mwyn i ni addasu ein ffordd o fyw, ond hefyd tuag at y sefydliad meddygol sydd yn ymddangos yn geidwadol iawn yn y cyd-destun hwn. Er hynny, mae tystiolaeth fod y corff hwnnw hefyd yn dechrau symud i'r cyfeiriad hwn o feddwl. Anodd yw peidio â theimlo ar ddiwedd y llyfr darllenadwy hwn fod gan yr awdur ddadleuon cryf iawn dros ei achos. Wedi'r cyfan y mae ef ei hunan yn gweithredu V hyn y mae'n ei bregethu. Ai o ganlyniad i hyn y mae rhywun sy'n wyth deg a chwech oed yn medru bod mor iach a heini? Dim ond amser a ddengys. Un peth sy'n sicr y mae wedi rhoi digon i mi feddwl amdano. IQLO AP GWYNN The Roving Mind gan Isaac Azimov; Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987; tt.ix + 350. Clawr Meddal. Pris: £ 5.95. Dyma gasgliad o 62 o erthyglau a ymddangosodd eisoes mewn amrywiol gylchgronau Americanaidd gan mwyaf o 1974 i 1982. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Prometheus, Efrog Newydd ym 1983 ac mewn clawr papur gan Wasg Prifysgol Rhydychen ym 1987. Rhennir yr erthyglau yn saith dosbarth er bod ambell ddosbarth yn anghydryw iawn ei gynnwys amrywiol. Mae Azimov yn bencampwr amddiffynnydd rhesymol- iaeth a gwyddoniaeth ac yn Rhan I (Y Radicaliaid Crefyddol (30 tt.)) ceir ymosodiad deifiol ar gau-wyddor y 'creadigaeth- wyr' a'u dadleuon ffwndamentalaidd sy'n dylanwadu cym- aint yn erbyn dysgu gwyddoniaeth effeithiol yn ysgolion UDA. Ymesyd hefyd ar garfan y 'mwyafrif moesol' ac ar sen- soriaeth. Yn Rhan II (Egwyriannau Eraill (23 tt.)) ceir chwe phen- nod dreiddgar yn cynnwys swyddogaeth yr heretig yn nat- blygiad gwyddoniaeth a rhai o'r ffenomenau 'paranormal' megis telepathi. Y bennod orau yw'r un ar 'Cynhaeaf Deall- usrwydd' sef y banciau sberm a sefydlwyd yn yr UD i gadw hâd dynion o athrylith (e.e. enillwyr Gwobrau Nobel) at fridio plant i ferched athrylithgar i'r diben o fagu deallus- rwydd uwch fyth. Ymresymir yn ofalus nad oes sail gadarn i'r syniad ewgenig yma. Prif neges genhadol Rhan III (Poblogaeth (16 tt.)) yw pwys- leisio perygl cynyddol, ac agos, orboblogi'r ddaear a'r angen enbyd am gyfyngu buan ar lygru'r amgylchedd, gwastraff ynni a gwastraff adnoddau ac am bolisi brys byd-eang i ostwng genedigaethau os yw dynolryw i oroesi mewn dull gwâr urddasol. Yn Rhan IV (Gwyddoníaeth Barn (56 tt.)) ceir tameidiau blasus ar geisio cyfathrebu â gwareiddiadau eraill y bydys- awd, gwyddoniaeth a thlysni, gwyddoniaeth a chelfyddyd etc. Maentumir yn gadarn na ellir 'rheoli' ymchwil na dargan- fyddiadau, dim ond ceisio cyfeirio'u defnydd er budd dynol- iaeth. Erfynir am ragor o addysg wyddonol gyffredinol er mwyn hybu dealltwriaeth dda rhwng y cyhoedd a'r gwyddon- wyr ac osgoi creu rhyw 'offeiriadaeth' newydd o arbenigwyr a amheuir ac a ofnir gan leygwyr.