Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Seryddiaeth yw testun pum erthygl yn Rhan V (Gwyddon- iaeth Eglurhad (54 tt.)); ceir un sylweddol iawn ar serydd- iaeth yr haul; un arall yn disgrifio'n rhamantus y ffurfafen a welid (pe gellid) o bob un o loerennau Jupiter a thri adrodd- iad arall cryno ar ddarganfod Pluto; darganfod seren niw- tron (pwlsar) yn Nifwl y Cimwch a darganfod y 'twll du' cyntaf. Cygnus X-1, yng nghytsêr Cygnus. Dyfalu'n broff- wydol ar addewid dyfodol oes y gwyddorau biolegol a wna'r bennod olaf. Yn Rhan VI (Y Dyfodol (137 tt.)) cymer Azimov yn gan- iataol y bydd hunan-les (os nad daioni cynhenid) wedi sym- bylu dyn i oroesi argyfwng y degawd nesaf a bod ynni'r haul o'r gofod (os nad toddiant niwcliar hefyd) yn sicrhau gofyn- ion ynni'r ddaear. Ar y sail yma rhydd ffrwyn rydd i'w ddych- ymyg garlamu i'r dyfodol. Nodir rhai o'i syniadau. Gwêl y laser yn disodli tonfeddi radio i fantais chwyldroadol cyfath- rebu. Bydd cyfuniad o hyn â chyfrifiaduriaeth a roboteg gwell yn symud gwaith clerigol a rheolaeth gwaith ffatrïoedd i gar- trefi'r gweithwyr gan ostwng trafnidiaeth 'mynd i'r gwaith' yn syfrdanol a chynyddu oriau hamdden. Wedi lleihad genedigaethau fe gwyd y cyfartaledd oedran ac fe newidir y system addysg i ateb gofynion pob oed. Bydd llyfrgelloedd ar gof cyfrifiadurol canolog yn rhoi cyfle i'r unigolyn addysgu ei hun a darganfod ei ddoniau arbennig. Rhagwêl ddatblygu elfen o 'ddeallusrwydd' yn y cyfrifiadur a gall cyfuniad o'r 'deall' anorganig yma â'r deall dynol ddat- rys problemau gwyddonol mwy cymhleth. Er enghraifft. gall osod y gwyddorau cymdeithasol, gyda'u ffactorau amrywiol niferus. ar sail 'arbrofof sicrach. Rhagwelir sefydlu trefedigaethau hunan-gynhaliol o bobl yn y gofod a hefyd ar y lleuad gyda moddion hwylus i deithio rhyngddynt dan fantais disgyrchiant isel neu sero. Yng nghyswllt peirianyddiaeth fiolegol gwêl Azimov ddyf- odol pan fydd gwybodaeth am DNA ac etifeddeg yn gyfryw fel y gellir disgyblu cell ddynol unigol i ddatblygu'n aren neu galon yn hytrach nag yn berson cyfan a dyna symud un o brif rwystrau trawsblannu organau! Rhagwêl hefyd y gall tech- noleg fiolegol yfory gyflymu esblygiad rhywogaethau (gan gynnwys dyn) a gostwng ei ddibyniad ar newidiadau hap a damwain etifeddol a'r dethol naturiol Darwinaidd dros gen- edlaethau fil. Hon yw ei broffwydoliaeth mwyaf ysgubol. Yn Rhan VII (Personol (18 tt.)) ceir disgrifiad digri o'i bren- tisiaeth ar y prosesydd-geiriau ynghyd ag apêl am ddiwygio sillafu i system ffonetig mwy rhesymol. Mae dylanwad ei ddychymyg byw. dyfeisgar. annisgwyl yn amlwg trwy'r gyfrol. Y mae ei agwedd ryng-blanedol at y dyfodol a'i chwilfrydedd am y bydysawd yn heintus. Hawdd deall ei lwyddiant yn awdur nofelau niferus ar ffuglen wyddonol. Mae'r gyfrol hon yn werth pob dimau o'i phris. JOHN BOWEN Discrete Thoughts gan Mark Kac, Gian-Carlo Rota a Jacob T. Schwarz; Birkhauser. Boston, 1986; tt.xii + 264. ISBN 0-8176-3285-9 a M. C. Escher: Art and Science, golygydd- ion — H. S. M. Coxeter ac eraill; North-Holland, Amster- dam, 1986; tt.xiv + 402. ISBN 0-444-70011-0. Er bod y ddau lyfr yma yn ymwneud â Mathemateg, maent yn bur wahanol i'w gilydd. Mae'r cyntaf yn cynnwys casgliad o ysgrifau. 7 gan Kac,13 gan Rota a 6 gan Schwarz ar wahanol agweddau o Fathemateg. Nid oes unrhyw batrwm arbennig ar y llyfr, a gellir dweud bod yr ysgrifau, sy'n hynod o ddeall- adwy, yn dangos y pleser a gaiff mathemategwyr wrth drafod eu hoff bwnc. Mae'n debyg mai'r ysgrifau sy'n sefyll allan yw'r ddwy hir tua chwarter hyd y llyfr rhyngddynt y naill gan Kac ar y tueddiadau presennol mewn Mathemateg lle yr awgrymir y meysydd lle mae datblygiadau yn fwyaf tebygol o ddigwydd yn y dyfodol, a'r llall gan Schwarz ar y drefn y gall Mathemateg roddi ar Economeg. Ysgrifau eraill, o ddiddor- deb arbennig yw'r un ar ddeallusrwydd artiffisial, a'r un ar hanes ystadegaeth. Mae'r llyfr hwn yn rhoi cnawd ar esgyrn sychion Mathemateg haniaethol. Mae'r ail lyfr yn cynnwys trafodion cynhadledd a gynha iwyd yn Rhufain ar waith Escher. Yr oedd Escher yn arlur- ydd o'r Iseldiroedd a fu'n gyfrifol am dri math arbennig ) luniau, sef rhai yn portreadu sefyllfaoedd amhosibl trwy y ffugio persbectif (fel yn Llun 1), y rhai amwys y gellir ej dehongli mewn dwy ffordd, a'r rhai sy'n ailadrodd yr u i patrwm yn ddiderfyn. Yr ailadrodd hyn, sy'n gysylltiedig î damcaniaeth grwpiau, sydd o ddiddordeb i fathemategwy Dangosir yma, yn un o'r papurau. sut yr arweiniodd astud- iaeth o'r lluniau (a grewyd gan ddyn nad oedd yn fathemateg- ydd) at fathemategcyfangwbl newydd. Hefyd, mewn papurau eraill, awgrymir sut mae syniadau mathemategol, er enghraifft y syniad o gymesuredd sy'n glwm wrth amryw o luniau Escher yn dod o astudiaethau o brotinau a bioleg y gell. Mewn papur arall, trafodir y 'maze', 'Llwybr Caersalem' yn Eglwys Gadeiriol Chartres a'i sylfeini mathemategol. Bydd y llyfr hwn o ddiddordeb arbennig i'r sawl sydd â didd- ordeb yn y celfyddydau cain. Ll.G.C. Science as Intellectual Property: who controls scientific research, gan Dorothy Nelkin, Macmillan (Efrog Newydd). Pris$15.95 (clawr caled),$7.97 (clawr papur). Bellach y mae wedi mynd yn ffasiynol i wyddonwyr edrych yn fanwl ar eu hymchwil ac ystyried a oes rhyw werth mas- nachol ynddo. Yr un modd, mae'r llywodraeth yn pwysleisio cymaint yw dyled ymchwilwyr academaidd i'r cyhoedd, a bod cyfrifoldeb arnynt i dalu'n ôl ar fuddsoddiad y wlad drwy roi gwerth economaidd i'w gwaith. Bu fel hyn yn America ers 25 mlynedd neu fwy ac yno bellach dysgodd yr unigolyn fod ganddo hawliau cynhenid, waeth bynnag bwysleisia'r llyw- odraeth. Mae Dorothy Nelkin yn athro ym Mhrifysgol Cornell, a yn arbenigo yn y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chym- deithas. Yn ei llyfr gwerthfawr, mae hi'n ehangu'r ddadl ynglyn â nawdd masnachol i ymchwil a'r problemau sydd yn codi mewn coleg pan mae ymgais i ddiogelu'r canlyniadau Onid yw hyn yn groes i bob egwyddor ynglyn ag ymchwi^