Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

academaidd? Drwy'r Grwp Technegol Prydeinig mae'r llyw- odraeth yma wedi gosod canllawiau sydd yn cydnabod hawl- iau'r unigolyn a'r wladwriaeth. Cyn cytuno i unrhyw dref- niant fe ddylai ymchwilwyr ddarllen y llyfr hwn, oherwydd ei fod yn rhoi persbectif ehangach ar yr holl oblygiadau. Nid yw yn ceisio ateb yr holl broblemau, ond mae'n gosod y pwnc o fewn cyswllt academaidd. Gan fod pob coleg yng Nghymru mewn rhyw ffordd bellach yn 'gwerthu' eu doniau, cystal iddynt ddarllen y llyfr hwn a sylweddoli nad mater o gytun- deb ar bapur yn unig yw perchnogaeth syniadau newydd. G.O.P. Gan fod cymaint o arbenigrwydd ym Mhrifysgol Cymru mewn amaethyddiaeth, ac yn ddiweddar, mewn amaethydd- iaeth drofannol yn arbennig, mae YGwyddonydd wedi casglu gwybodaeth am lyfrau diweddar yn y maes. Gweler hefyd Ceres Rhif 114 (Cyf.19, Rhif 6). Economics of Agricultural Development in Tropical Africa gan Seth La-Anyane; John Wiley, Chichester, 1985; tt.153. Ysgrifennwyd y llyfr gan gyn-Ddeon Amaethyddiaeth Prif- ysgol Ghana ac ynddo ceir golwg ar gyfraniad y ffermwyr bychain i ddatblygiad economaidd Affrica. Food Policy: Frameworks for Analysis and Action, gol. Charles K. Mann a Barbara Huddleston; Indiana University Press, Bloomington, 1986; 77.243. Dyma gasgliad o gyfraniadau wedi deillio o gynhadledd a gynhaliwyd yn Bellagio yn yr Eidal ym 1982. Ceir dadl rhwng dadansoddwyr polisi bwyd ac ymarferwyr o'r cymdeithasau diwydiannol blaenllaw a'r Trydydd Byd. The International Grain Trade gan Nick Butler. Croom Helm, Llundain, 1986; tt.176. Ceir trafodaeth yma ar gyflwr y gwledydd cyflenwi grawn mwyaf a'u problemau arbennig hwy. Mae'n cofnodi'r newid- At y darllenydd Croesewir cyfraniadau ar bynciau gwyddonol o bob math i dudalennau'r Gwyddonydd. Danfoner unrhyw erthyglau neu bigion o ddiddordeb i'r ysgolion a'r colegau, yr arbenigwr a'r darllenydd cyffredin at: Yr Athro Glyn O. Phillips, Golygydd Y Gwyddonydd, Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru, Glannau Dyfrdwy, Clwyd CH5 4BR. iadau yn y farchnad yn ystod y degawdau diwethaf, yn trafod pynciau cyfoes sydd o bwys rhyngwladol ynghyd â cheisio darogan dyfodol y farchnad rawn. The End of the Third World gan Nigel Harris; I. B. Tauris, Llundain, 1986; tt.232. Llyfr sy'n darlunio'r newid a fu mewn rhai o wledydd Asia a Lladin America. Gwelir y cymdeithasau gwerinol yn dat- blygu'n economaidd yn gyflym iawn — proses a gymerodd ddegawdau os nad canrifoedd yn y Gorllewin. The Economics of Environmental Quality gan Edwin S. Mills a Philip E. Graves; W. W. Norton, New York, 1986; tt.368. Rhennir y llyfr yn dair rhan; y rhan gyntaf yn sôn am ollwng llygredd i'r awyr; yr ail ran yn rhoi gwybodaeth dech- negol am ryddhau dwr, aer a gwastraff solid, a'r rhan olafyn cyfeirio at raglenni rheoli llygredd a'r argymhellion am bolisïau newydd. Emerging from Poverty: The Economics that Really Matters gan Gerald M. Meier; Oxford University Press, 1984; tt.260. Llyfr sy'n astudio beth ddigwyddodd yn y Trydydd Byd a sut mae ysgolheigion wedi dadansoddi'r digwyddiadau a'r polisïau. The Economics of Forestry and Natural Resources gan Per- Olov Johansson a Karl-Gustav Löfgren; Basil Blackwell, Oxford, 1985; tt.294. Astudiaeth ar reolaeth fforestydd ydyw ac ynddo ceir hanes amaethwr fforest hunan-gyflogedig sy'n rhannu ei amser rhwng coedwigaeth, amaethyddiaeth a diwydiant. Sheep Production in the Tropics and Sub-Tropics gan Ruth M. Gatenby; Longman, Llundain, 1986; tt.352. Cydnabyddir pwysigrwydd defaid yn y gwledydd tro- fannol. Yn y llyfr ceir cyflwyniad i'r bridiau defaid sydd yn y trofannau a sonnir am bynciau fel rheolaeth, iechyd, maeth- iad, bwydo ac atgynhyrchu.