Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Athro a'i Ddisgybl: Niels Bohr ac Evan James Williams YR OEDD Niels Bohr yn un o ffisegwyr mwya'r byd; gellir ei restru ochr yn ochr â Galileo, Newton, Maxwell ac Einstein. Yn fwy nag un o'r gwyddonwyr eraill, roedd ynghlwm wrth broblemau dynol ei wyddoniaeth, a'i heffaith ar y gymdeithas a gwleidyddiaeth. Ganed Niels Bohr yn yr Almaen ym 1885. Hanoedd o deulu talentog iawn, gyda'i dad yn athro mewn ffisioleg ym Mhrifysgol Copenhagen a'i frawd Harald yn fathemategwr enwog. Cafodd Niels ei hun ei wobrwyo â Medal Aur gan yr Academi Frenhinol Gemegol yn Denmarc pan yn 20 oed am ei ymchwil- iadau i fesuriadau tensiwn arwyneb hylifoedd. Ond un o brif ddiddordebau Bohr oedd pêl-droed ac yr oedd yn golgeidwad wrth law i dîm cenedlaethol Denmarc. Astudiodd Bohr ym myd theori electron metalau ac enillodd radd meistr a doethuriaeth, ac ym 1912 cyfarfu â'r ffisegwr Ernest Rutherford ym Mhrydain, y gŵr a oedd newydd ddarganfod y niwclews atomig. Cyd- weithiodd y ddau rhwng 1914 a 1916, Bohr fel cynorth- wydd i Rutherford. Bu'r ddau yn ffrindiau hyd farwolaeth Rutherford. (Gweler YGwyddonydd, Cyf.22, Rhifyn 3, 'Dau o Gewri'r Ffydd: Rutherford a Flem- ing'). Llun 1. Niels Bohr. Dychwelodd Bohr i Brifysgol Copenhagen ym 1916 i Gadair Ffiseg Theoretigol a grewyd yn arbennig ar ei gyfer. Ond nid oedd bywyd caeëdig y Brifysgol wrth ei fodd ac agorwyd y Sefydliad Ffiseg Theoretigol a alwyd yn Sefydliad Bohr ym 1921. Daeth yn ganolfan i ffisegwyr ieuainc byd-enwog. Ymhlith y rhain yr oedd Max Born, Heisenberg, Erwin Schrodinger a'r Cymro enwog Evan James Williams. Perffeithydd geiriau Roedd Bohr yn berffeithydd gyda geiriau ac wrth ysgrifennu byddai'n cywiro o hyd ac o hyd nes cael y ffurf derfynol. Nodweddai hyn ei gymeriad. Credai fod dynion yn hollol ddibynnol ar eiriau. 'Ein gwaith,' meddai, 'yw dweud wrth eraill am ein profiad a'n syn- iadau.' I Bohr, problemau athroniaeth oedd diffyg cyfathrebu. Tra ym Mhrydain, ceisiodd Bohr ddylanwadu ar arweinyddion y gwledydd i osod rheolau pendant ynglyn â gwneuthuriad y bom atomig a'r ffordd orau o wneud hyn fyddai osgoi cadw cyfrinachau a rhoi'r wybodaeth i bawb. Ni wrandawyd arno ond daliai ati i geisio dylanwadu ar arweinyddion y gwledydd. Ym 1950, ysgrifennodd Lythyr Agored at y Cenhedloedd Unedig yn dangos ei ofnau am ddyfodol y byd. Ym 1957, ym mhresenoldeb yr Arlywydd Eisen- hower, derbyniodd Bohr wobr 'Atoms for Peace'. Rhwng hynny a'i farwolaeth ym 1962 gwelodd ei Sefydliad yn tyfu. Dros y blynyddoedd croesawyd 500 o ffisegwyr tramor yno a lledodd ei enwogrwydd. Mae'n bleser nodi fod y Cymro Evan James Williams yn un o ddisgyblion disgleiriaf y ffisegydd mawr hwn ac wedi bod dan ei ddylanwad. Evan James Williams Cymro a wnaeth gyfraniadau nodedig i'n gwybod- aeth am gnewyllyn atomau oedd Evan James Williams. Ganed ef ym 1903 yn fab i saer maen o Lanwenog, ger Llanybydder, Sir Aberteifi. Pwtyn byr, pryd tywyll ydoedd, ac oherwydd ei fod mor fach y galwodd ei gym- deithion yn Ysgol Sir Llandysul efyn Decimal pan oedd yn nosbarth 2, a 'Desi' fu ei enw wedyn i bawb o'r to hwnnw yn yr ysgol. Gwelodd y bachgen hysbysiad am arholiad ysgoloriaeth i Goleg Technegol Abertawe (a ddaeth yn rhan o Brifysgol Cymru yn y flwyddyn 1920) yn y papur newydd ryw noson a chyrchodd ei frawd ef i'r dref honno ar ei feic modur dros nos, er mwyn iddo sefyll yr arholiad. Enillodd yr ysgoloriaeth (1919). Graddiodd mewn gwyddoniaeth, gan ennill cymrodor- iaeth, ym Mhrifysgol Cymru. Aeth i Fanceinion, o dan yr Athro W. L. Bragg, lie y gwnaeth ei arbrofion cyntaf o bwys mewn ffiseg arbrofol, yn astudio ffawd pelydrau- X mewn nwyon, yno y cafodd radd Ph.D. Cafodd ysgol- oriaeth i Gaer-grawnt, i weithio yn un 0 labordai