Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ffisegol enwocaf y byd, y Cavendish, o dan yr Arglwydd Rutherford, prif awdurdod ei ddydd ar yr atom. Gron- ynnau atomig a'u gwrthdrawiadau, a'r hyn a ddigwydd i'r ynni a gynhyrchid yr adeg honno, oedd ei faes yno, a chafodd radd Ph.D. Caer-grawnt a D.Sc. Cymru am ei waith. Llun 2. Evan James Williams.. Damcaniaethwr Ym 1933 roedd yn Copenhagen am flwyddyn yn gweithio gyda'r enwog Niels Bohr. Yno y gwnaeth beth o'i waith gorau ac yno y sylwyd ar ei allu arbennig fel GWYBODAETH A GWYDDONIAETH Peredur Powell Ceir yr erthygl hon yn rhifyn cyfredol Efrydiau Athronyddol, sef cyfrol 50, 1 987. Trafod statws rhesymegol damcaniaethau gwyddonol wna Peredur Powell yn ei erthygl ef. Clawr papur, £ 1.50 yn unig. Cludiant: 50c. Dim ond nifer cyfyngedig a argreffir felly i sicrhau eich copi, dylid defnyddio ein gwasanaeth archebu hwylus a hylaw sef ffoniwch 0222-31919 (gwasanaeth 24 awr), rhowch eich archeb, enw, cyfeiriad, rhif cerdyn credyd (Visa neu Access yn unig) a dyddiad darfod y cerdyn. Prosesir eich archeb yn brydlon wedyn. GWASG PRIFYSGOL CYMRU damcaniaethwr. Mae datblygiad y drefn Williams- Weiszacher o'r paramedrau gwrthdrawiad i drin a gwrthdrawiadau atomig yn werthfawr i ddatguddio'u mecaniaeth ffisegol ac yn cael ei ddefnyddio'n fwyfwy i ddatrys problemau gwrthdrawiad niwtronau, protonau a mesonau cyflym. Bu'n bennaeth ymchwil gweithredol y Coastal Corn- mand o 1940 hyd 1943, lIe y gweithiodd ar broblemau oedd yn gysylltiedig ag ymosod o'r awyr ar longau tan- for, ac wedyn dychwelodd E. J. Williams i Aberystwyth oherwydd afiechyd. Yna dechreuodd ailymddiddori yn ei hoff destun, sef y ddamcaniaeth cwantum o'r pro- sesau gwrthdrawiad atomig o fomio llongau i fomio gronynnau anfeidrol bach. Yn ôl tystiolaetn un o'i gyd- weithwyr roedd ganddo allu rhyfeddol i esbonio fel athro, oedd yn tarddu o'i allu i dreiddio ar unwaith i sylfaen unrhyw bwnc. Ynghyd â hyn roedd ganddo frwdfrydedd amlwg at ei destun. Roedd yn gymeriad angerddol, dynol a chanddo ysbryd haelionus. Etholwyd ef yn FRS yn 36 mlwydd oed, heb fanteisio dim ar ei gyfoeswyr na'i gydweithwyr. Colled difesur Bu farw yn Llanwenog Medi 1945 yn ddim ond 42 oed, cyn gorffen ei waith. Roedd hyn yn golled difesur i Aberystwyth ac i wyddoniaeth yn gyffredinol. Roedd E. J. Williams yn ddyn yn byw megis mewn gweithred- iadau ac nid blynyddoedd, mewn meddyliau ac nid anadliadau, ac mewn teimladau ac nid ffigurau ar wyneb cloc. Fel y dywedodd un o'i gydweithwyr. symboleiddiwyd ei fywyd efallai yn ei angladd yn y capel pentrefol syml yng nghanol ardal wledig Gym- raeg ac ym mhresenoldeb ei deulu, un o enillwyr Gwobr Nobel, cynrychiolwyr y Cymdeithasau dys- gedig, swyddogion o reng uchaf y gwasanaethau milwrol, ei gydweithwyr a'r pentrefwyr. (Trefnwyd y ysgrif uchod o ddwy ysgrif gan O. E. Roberts a W. IdrisJones o 'r llyfryn YrAthro Evan James Williams Gol. J. Tysul Jones), gan Elwen Mai Owen.