Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAEN bleser cyflwyno'r rhifyn arbennig hwn a hefyd gydnabod cyfraniad helaeth un o'n his- olygyddion, Dr Elwyn Hughes, yn ei baratoad. Daw yn amlwg o'r rhifyn fod gwyddoniaeth a thechnoleg yn chwarae rhan gynyddol bwysig yng nghyflwyniad, ansawdd a maethlonrwydd ein 'bara' beunyddiol. Arferol bellach yw storio bwyd am gyfnodau hir cyn ei fwyta. Rhydd hyn gyfle i'r bacteria cyffredin, ond peryglus, ymgartrefu a thyfu yn y bwydydd cadw. Daeth Listeria a Salmonella bellach yn enwau cyffredin ar wefusau siopwyr a gwleidyddion fel ei gilydd. Ffig. 1 Mae awdurdodau rheoli 35 gwlad wedi cymeradwyo def- nyddio prosesu arbelydrol ar gyfer mwy na 30 o wahanol fathau o fwydydd a'u cynhwysion. Cymeradwywyd y mwyafrifo'r rhain yn y 1980au yn sgil mabwysiadu safonau diogelwch ac iechyd rhyngwladol ar gyfer bwydydd a arbelydrir. Ffig. 2 Tueddiadau yn y defnydd o arbelydryddion ar gyfer prosesu bwyd ar raddfa fasnachol. Parodd yr hinsawdd newydd hon i'r dechneg o brosesu bwyd â phelydriad niwclear gael ei harolygu unwaith eto ym Mhrydain. Mewn 35 0 wledydd mae'r awdurdodau iechyd a diogelwch eisoes wedi cymeradwyo trin 30 o fwydydd gyda'r dechneg hon. Gellir wedyn werthu'r bwyd ar y farchnad agored yn eu gwlad: bwydydd mor amrywiol â sbeis, grawn, ffrwythau a llysiau. Cafodd y pwnc hwb sylweddol yn ddiweddar pan gymeradwyodd Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) nifer o ganllawiau i reoli'r farchnad yn Golygyddol y bwydydd a gafodd eu trin. Mewn datganiad a gyhoeddwyd ddechrau 1989, pwysleisiwyd: · bod derbyniad y cwsmer yn gwbl allweddol i lwyddiant y broses; · y gall y driniaeth leihau'n sylweddol y gwenwyno a ddaw drwy fwydydd halogedig, megis salmonellosis; · drwy ddefnyddio'r broses gellir lleihau'r colledion a geir ar hyn o bryd wrth storio cnydau, rhoi amrywiaeth, a gwneud y fasnach ryngwladol mewn bwydydd yn fwy diogel. Wedi archwilio tystiolaeth ymchwil dros 36 mlynedd, cytunodd 122 o wledydd, gan gynnwys Prydain, yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd, China, Ffrainc ar y datganiad pwysig hwn: Y mae trin bwyd gyda dôs o 10 kilo Gray yn gwbl ddiogel a heb achosi unrhyw niwed microbiolegol na gwenwynig i'r bwydydd. Mae amryw o wledydd eisoes wedi penderfynu gweithredu ar sail y datganiad hwn, ac erbyn 1990 bydd 55 o wledydd yn defnyddio'r broses. Hanfod y dechneg yw gallu'r pelydriad niwclear i ladd celloedd, neu eu rhwystro rhag gwahanu drwy beri newidiadau cemegol yn y DNA o fewn y cnewyllyn. Felly, os oes bacteria'n byw o fewn y bwydydd, gall dôs bach iawn eu hatal rhag tyfu yn y bwyd yn ystod cyfnod storio. Gan fod y pelydrau hefyd yn dreiddgar, gellir pacio'r bwyd cyn ei drin, ac yna ni all rhagor o'r bacteria ddod i gysylltiad uniongyrchol â'r bwyd. Y cwestiynau amlycaf a ofynnir gan y cwsmer yw le, ond a yw'r pelydrau yn achosi newidiadau niweidiol yn y bwyd? A oes cemegyn tra gwenwynig yn cael ei gynhyrchu yn ystod y driniaeth?' Mae newidiadau cemegol yn Llun 1 Ar ôl cadw'r mefus hyn am bymtheg o ddiwrnodau gwelir gwahaniaeth mawr rhwng cyflwr y rhai a arbelydrwyd (ar y dde) a'r rhai nas arbelydrwyd (ar y chwith).