Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Ffair Iechyd' er mwyn rhoi proffeil amlwg ac ymar- ferol i'r gwaith yn enwedig o safbwynt cynllunio prydau bwyd yn ogystal â choginio. Er mwyn galluogi'r cyhoedd i weithredu'r wybodaeth y maent wedi'i dysgu am fwyd iach, gwnaed cryn ymdrech i gael gwell system o labelu bwyd ac o baratoi bwydlenni. Mae'r cynllun gwobrwyo tai bwyta yn mynd o nerth i nerth hefyd. Caiff ei noddi ar y cyd gan Guriad Calon Cymru ac Adrannau Iechyd Amgylchedd y Cynghorau Dos- barth. Mae'r cynllun yn cael ei ystyried yn estyniad rhesymegol o waith yr Adrannau Iechyd Amgylchedd ar lanweithdra bwyd ac fe gyflwynir y gwobrau i'r tai bwyta sy'n · gosod safonau derbyniol 0 lendid · clustnodi o leiaf 30 y cant o'r byrddau ar gyfer di-ysmygwyr · cynnwys bwyd iach ar y fwydlen Yn y pen draw diddordeb a brwdfrydedd y cyhoedd mewn iechyd da fydd yn penderfynu llwyddiant y Rhaglen. Gwnaed pob ymdrech i bwysleisio manteis- ion byw yn iach, o safbwynt pleser uniongyrchol ac o ran hunan-les yn y tymor hir. Yn y cyd-destun yma mae bwyta iach yn un elfen annatod o hybu iechyd da. Newidiadau hyd yma Mae llwyddiant Rhaglen Iechyd y Galon yng Nghymru wedi dibynnu'n llwyr ar ymroddiad a chyf- raniad unigolion, yn lleygwyr a phobl broffesiynol, yn ogystal â sefydliadau cyhoeddus. Bu gweithredu mewn nifer o sefyllfaoedd mewn ymgais i hyrwyddo rhaglen gymunedol wirioneddol integredig. Bydd y gwaith arfarnu pwysicaf yn cael ei wneud yn 1990, ar ddiwedd y pum mlynedd cyntaf ond eisoes ymddengys fod ymateb y cyhoedd yn galonogol iawn. Yn Nhabl 1 gwelir y newid ymddygiad ymhlith sampl 0 1,007 0 oedolion yng Nghymru, ym Medi 1988. Yn adroddiad diweddar y National Audit Office ar glefyd coronol y galon cyfeiriwyd at y gwaith can- moladwy sy'n mynd ymlaen yng Nghymru am ei fod yn dilyn prif argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ac yn medru dangos rhai newidiadau cynnar o safbwynt pat- rymau byw ymhlith y boblogaeth. Er mai amcan sylfaenol Rhaglen Iechyd y Galon yw gwneud cyf- Mae'r Bwrdd Golygyddol a'r Cyhoeddwyr am ddiolch i The Howard Foundation Awdurdod Hybu Iechyd Cymru am eu cefnogaeth hael i'r rhifyn arbennig hwn. Yn ystod y 12 Cyfanswm Gwryw Benyw misdiwethaf (15-44) (15-44) Wedi ceisio colli pwysau 41 29 58 Wedi colli mwy na 5 pwys 26 23 36 Wedi newid y diet i un 39 34 45 iachach Yn ymarfer o leiaf 60 32 37 41 munud yn fwy pob wythnos Wedi ceisio rhoi'r gorau i 19 20 21 smygu. Wedi rhoi'r gorau i 7 8 7 smygu am fwy na thri mis Wedi cael mesur o'r 53 35 51 pwysedd gwaed Tabl 1 raniad sylweddol i leihau nifer y marwolaethau a salwch o glefyd y galon coronol yng Nghymru, mae'n fanteisiol edrych ar hynny yng nghyd-destun ehangach hyrwyddo iechyd da. Disgwylir i nifer o weithgar- eddau'r Rhaglen gael effaith ar atal clefydau eraill sydd â ffactorau perygl cyffredin, yn arbennig canser ac afiechydon yr ysgyfaint. Cyfeiriadau 1. Adran Cyfarwyddwyr, Rhaglen Iechyd y Galon, Codwch eich Calon Dogfen Ymgynghorol, Adroddiad Curiad Calon Cymru, Rhif 1, 1985. 2. Cyngor Addysg Iechyd (Curiad Calon Cymru), Trechu Clefydy Galon (Llundain, 1985). 3. Directorate of the Welsh Heart Programme, Heart of Wales Clinical Results of the Welsh Heart Health Survey (1985), Heartbeat Report No.20, 1987. 4. National Audit Service, National Heart Semice: Coronary Heart Disease, National Forum for Coronary Heart Dis- ease Prevention (1989). ac