Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Therapi Dietegol Ganed Siân Gruffydd ym Mangor, Gwynedd a chafodd ei haddysg gyn- radd yn Ysgol Gymraeg Sant Paul yno. Bu wedyn yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda cyn symud i Aberystwyth yn 1971 (Ysgol Ramadeg Ardwyn ac Ysgol Gyfun Penglais). Graddiodd yn B.Sc. mewn dieteteg yn Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg yn 1981. Treuliodd gyf nodfel 'au pair'gyda theuluyn Fienna cyn dychwelyd Gymru am gyfnod o waith ymchwilyn Athrofa 'rBrifysgol, Caerdydd lle bu 'n astudio agwedd- au ar fetabolaeth Fitamin C. Bellach, mae'n gweithio feì dietegydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Bu'n weithgar gyda'r Gymdeithas Wyddonol, yn ìleol ac yn genedlaethol. ER mai yn gymharol ddiweddar y datblygodd dieteteg fel gwyddor, ac yn fwy diweddar byth y dechreuwyd rhoi cydnabyddiaeth deilwng i swyddogaeth y dietegydd fel aelod o'r tîm meddygol, gellir olrhain yr arfer o addasu patrwm bwyta pobl er mwyn dylan- wadu'n llesol ar eu hiechyd cyn belled yn ôl â dyddiau gwareiddiad Groeg. Mae'n debyg fod Hippocrates, a ystyrir yn un o gonglfeini meddygaeth, yn arfer rhoi cyngor i'w gleifion ynglýn â pha fwydydd y dylent eu bwyta neu eu hosgoi er lles eu hiechyd. Ni roddai'r Rhufeiniaid, fodd bynnag, fawr o goel ar ddieteteg gyn- tefigyGroegiaid: mynn rhai mai eu hymchwil barhaus am y bywyd bras oedd un o achosion eu cwymp! Hon- nir mai yn y Beibl y ceir y cofnod cynharaf o arbrawf dietegol ym mhennod gyntaf Llyfr Daniel (adnodau 8-16) Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod; rhodder inni lysiau i'w bwyta a dwr i'w yfed. ac wedyn cymharu'n gwedd ni â gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin. Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin a rhoi llysiau iddynt Hyd heddiw y mae diwylliannau rhai o wledydd y Dwyrain yn glynu wrth athrawiaeth gyntefig yr 'hiw- morau' ac yn ystyried bod rhai afiechydon yn 'boeth' ac eraill yn 'oer'; y driniaeth berthnasol felly yw bwydydd sy'n 'oer' (ar gyfer cyflwr 'poeth') neu'n 'boeth'; er mwyn adfer cydbwysedd y corff. Traddodiad ac arsylwi damweiniol bron oedd sail llawer o'r triniaethau dietegol cynharaf, heb fawr o ddealltwriaeth o'r rhesymau pam eu bod yn effeithiol. na phrofion gwyddonol i'r perwyl. Bellach, wrth gwrs. mae cryn faes ymchwil wrth wraidd y datblygiadau a'r newidiadau diweddar mewn dieteteg. Yr oedd dietegyddion yn gweithio yn ysbytai Ynysoedd Prydain cyn sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn 1948; dathlodd y corff proffesiynol (Cymdeithas Ddietegol Brydeinig, y BDA) ei Jiwbili Aur yn 1987. Cefndir nyrsio, coginio a dysgu gwyddor tŷ oedd gan y dietegyddion cyntaf. ac ychydig iawn o gysylltiad a fyddai rhwng y therapydd a'r claf. Canolbwyntiai'r gwaith ar oruchwylio paratoi'r bwyd SIÂN I. GRUFFYDD (a choginio rywgymaint hefyd ambell waith) a'i fwydo i'r claf. Yn raddol, yn enwedig gyda sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, newidiodd pethau, ac y mae'r sefyllfa'n dra gwahanol yn ein hysbytai heddiw. Yn 1960 pasiwyd Deddf y Galwedigaethau Atodol i Feddygaeth (Professions Supplementary to Medicine Act) ac ers hynny mae'n ofynnol i bob dietegydd sy'n gweithio mewn ysbyty fod wedi'i gofres- tru, sy'n rhoi hawl ar y teitl SRD State Registered Dieti- cian. Mae hyn yn gwarchod statws y dietegydd ac yn gofalu nad oes pobl nad ydynt wedi derbyn hyff- orddiant arbennig yn ymarfer mewn ysbytai. (Y tu allan, fodd bynnag, drwy eu galw yn 'therapyddion dietegol' neu'n 'ymborthegyddion' mae rhai pobl yn medru twyllo'r cyhoedd a chynnig gwasanaeth preifat o ryw fath fel rheol yn ymwneud â cholli pwysau neu â thrin alergedd.) Testun cryn rwystredigaeth ymhlith dietegyddion yw'r anwybodaeth gyffredinol ynglýn ag ystyr y gair 'diet', sy'n dueddol 0 liwio agwedd pobl tuag at y pro- ffesiwn. Mae llawer o'r cyhoedd yn parhau'n argy- hoeddiedig mai darn o bapuryn dwyn rhestro fwydydd gwaharddedig a bwydlenni er mwyn colli pwysau yw 'diet'. Tarddiad y gair yw'r gair Groeg dieta, sy'n golygu 'ffordd o fyw' yn benodol (bryd hynny) yr hunan- ddisgyblaeth yr oedd yn ofynnol i athletwyr Groeg ei mabwysiadu (nid yn unig o safbwynt bwyd a diod, ond hefyd ymarfer corff. cwsg a gorffwys ac ati) wrth baratoi ar gyfer y Chwaraeon Olympaidd. Yn wir, y mae'r bwyd a ddewiswn ac a fwytawn yn adlewyrchiad pur ddadlennol o'n 'ffordd o fyw', yn arbennig efallai ein safon byw a'n hagwedd at ein hiechyd, neu o bosibl, ein gwybodaeth amdano. Wrth gyfeirio at ‘ddiet’ mewn cyd-destun meddygol neu'n gymdeithasol, yr hyn a olygir yn wir yw nifer o wahanol batrymau bwyta lle mae'n ofynnol cyfyngu ar fwydydd neu addasu patrwm arferol y claf yn ôl yr afiechyd sydd i'w drin. Mae'n rhan hanfodol o sawl rhaglen o driniaeth feddygol, ac mewn amryw achosion mae'r diet yn unig yn ddigonol i reoli neu i wella'r afiechyd. Fe ymdrinnir yma â rhai agweddau cyffredin a rhai agweddau arbenigol ar waith dietegydd. Cofier, fodd bynnag, fod gofyn i bob claf gael sylw unigol fel gan bob therapydd arall. Ni ddylai neb geisio bod yn ddietegydd arno ef neu arni hi ei hun!