Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prifysgol Cymru University of Wales BANGOR Ceir cyfleusterau ym mhob adran i fyfyrwyr wneud ymchwil yn arwain at radd Meistr neu PhD Prifysgol Cymru. Yn ogystal, dysgir y cyrsiau uwch canlynol: MSc (Cwrs 12 mis fel arfer) Amddiffyn Amgylchedd y Môr; Archaeoleg Môr; Bioleg a Rheolaeth Pysgodfeydd; Bioleg Pysgod Cregyn; Pysgodfeydd a Ffermio; Coedwigaeth a'r Amgylchedd; Cynhyrchu Anifeiliaid y Byd; Eigioneg Ffisegol; Eigioneg Gymhwysol; Ecoleg; Geotechneg Môr; Gwyddor Planhigion Cellog a Molecylaidd; Mathemateg; Mathemateg Bur; Mathemateg Gymhwysol; Parasitoleg Anifeiliaid; Peirianneg Electronaidd; Rheolaeth Adnoddau Gwledig; Technoleg Diwydiannau Coed; Ymarfer Labordy Cemegol Modern. MPhil (2 flynedd) neu PhD (3 blynedd) drwy ymchwil yng Nghyfadran y Gwyddorau Amaethgoedwigaeth; Amaethyddiaeth; Cemeg; Coedwigaeth; Deunyddiau Magnetaidd; Gwyddorau Biolegol; (Biocemeg a Ffisioleg Planhigion, Bioleg Folecylaidd, Bioleg Gymhwysol, Bioleg Swyddogaethol ac Esblygol, Ffisioleg Anifeiliaid, Microbioleg); Gwyddor Coed; Gwyddor Deunyddiau Trydanol; Gwyddorau Môr (Bioleg Môr ac Eigioneg); Mathemateg Bur; Mathemateg Gymhwysol; Peirianneg Systemau Cyfathrebu a Hysbysu; Systemau Cyfrifiadur a Rheolaeth. Cyrsiau Diploma drwy Hyfforddiant (9 mis) Y mae'r cyrsiau hyn ar gael yn y rhan fwyaf o'r pynciau uchod. Os hoffech gael wybodaeth bellach, ysgrifennwch at y Cofrestrydd Academaidd, Prifysgol Cymru, BANGOR, Gwynedd LL57 2DG. Ffôn (0248) 351151 Rhif 40: GWNEUD CAWL OHONO Roedd diwrnod cyntaf Meirion fel gweinydd yn nhy bwyta Trepostyn yn hunllef llwyr. Cafodd anawsterau lu wrth geisio cofio archebion y cwsmeriaid. Y teulu cyntaf i flasu danteithion y ty bwyta oedd Anwen a Bob Tomos a'u plant, Ceinwen a Dafydd. Cawsant ddewis o'r fwydlen hon: Llwyddodd Meirion i gofio: a) Melon a chig oen oedd un o'r archebion; b) Roedd y pedwar wedi archebu dau gwrs yr un; c) Roedd pob eitem ar y fwydlen wedi'i ddewis gan o leiaf un aelod o'r teulu; ch) Cyw iâr oedd yr eitem mwyaf poblogaidd; d) Cafodd pawb brif gwrs; dd) Roedd Ceinwen wedi dweud fod yn gas ganddi gyw iâr; e) Roedd y ddau riant neu'r ddau blentyn wedi archebu tarten afalau. Beth oedd archebion aelodau'r teulu? (Atebion ar dudalen 33) Positron BANGOR Y GORAU Poenyn Penna' Cwrs cyntaf: Cawl Melon Prif gwrs: Cyw iâr Cig oen Pwdin: Tarten afalau