Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAE parhau i lynu wrth athrawiaethau mecanistaidd Newton a Descartes ym mhob agwedd ar weithgaredd dynol yn arwain at ddistryw. Dyna neges sylfaenol y ffisegydd FritjofCapra yn ei lyfr The Tuming Point. Mae egwyddor penderfyniaeth ynghyd â thuedd ad-ddygol (reductionist) sy'n darnelfennu ymchwiliadau a'u cyfyngu'n ormodol, wedi dylanwadu ar economeg a gwyddoniaeth gwleidyddiaeth yn ogystal ag ar seicoleg, meddygaeth a phob gwyddor o wyddoniaeth. Fe wêl Capra angen mawr am fabwysiadu agwedd mwy holis- tig, yn seiliedig ar egwyddor systemau ac yn fwy cyd- naws â darganfyddiadau ffiseg gyfoes. Mae'n trafod yn fanwl ddiffygion meddygaeth gyfoes ond nid yw'n sôn llawer am faeth. Po fwyaf y pendronaf ynghylch y peth mwyaf fy argyhoeddiad fod yr union ddiffyg i'w gael yn ymchwiliadau'r maes hwnnw hefyd lle mae'r duedd ad-ddygol yn eglur iawn. Fe gynhelir arbrofion ar nifer fach o bobl neu fe gesglir ystadegau llawer rhy brin i fod o unrhyw wir arwyddocâd i ffisegydd beth byn- nag. Nid yn unig hynny ond yn aml fe astudir amrywiad un cyflwr yn dilyn amrywiad un dylanwad heb ystyried yr holl ddylanwadau eraill a allai fod yn berthnasol i'r sefyllfa. Canlyniad hyn yw rhoi i'r cyhoedd gynghorion sy'n unllygeidiog a dweud y lleiaf, ac yn codi braw ar bobl yn ddiangenrhaid yn amlach na pheidio. Fel y dywed Capra am achosion afiechyd, 'Ni ellir deall y mwyafrif mawr o afiechydon yn nhermau syn- iadau rhydwythiol o endidau afiechyd pendant ac achosion sengl', felly mi dybiaf efo dylanwad maeth ar iechyd. Mae anghenion pobl yn amrywio'n fawr ac yn dibynnu ar bob math o amodau yn eu hamgylchedd, ar eu harferion byw ac ar eu personoliaeth. Ystyriwn ambell enghraifft o ymchwiliadau cyfyng yn arwain at ddehongliadau annigonol ac at roddi cynghorion camarweiniol. Halwynau Fe'n cynghorir yn gyson y dyddiau hyn i osgoi halen. Ond a oes sicrwydd fod halen yn niweidiol i bawb? Awgrymwyd fod cysylltiad rhwng bwyta halen a phwysedd gwaed uchel gan ddau feddyg yn Ffrainc mor gynnar â dechrau'r ganrif. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr Unol Daleithiau, fe wnaed sawl arolwg1 oedd yn tueddu i gadarnhau'r canlyniad hwn. Cafwyd fod pwysedd uchel yn fwy cyffredin ymysg poblogaethau oedd yn cymryd llawer o halen a'i fod yn datblygu'n gynharach ynddynt hefyd; a bod pwysedd uchel yn anghyffredin iawn mewn gwledydd lle na ddefnyddir halen. Ers blynyddoedd mae meddygon yr Unol Daleithiau wedi bod yn argymell peidio â bwyta halen ond ni fu Amheuon ElRWEN GWYNN* ym Mhrydain frwdfrydedd i dderbyn eu cyngor. Eithr yn 1981 cyhoeddwyd adroddiad2 gan feddygon o Lerpwl yn cytuno â'r safbwynt Americanaidd. Ond mae ar ddyn angen halen. Oni wyddom am ddynion yn llewygu mewn gwres mawr o angen halen? Ac oni chlywsom am anifeiliaid yn teithio pellteroedd mawr i geisio halen? Mae ar y corff angen yn ddyddiol gyflenwad o sodiwm a photasiwm. Y rhain sy'n cadw hylifau'r corff yn lled niwtral, yn pennu faint o ddwr a gedwir ym meinweoedd y corff, a thrwy gynnal pwysedd priodol yn denu elfennau maethlon o'r coluddion i'r gwaed ac o'r gwaed i'r celloedd. Ond mae angen cydbwysedd rhwng sodiwm a photasiwm. Mae gormod o'r naill yn peri colli'r llall yn yr iwrin. Mae potasiwm i'w gael mewn ymhob bwyd bron, yn arbennig mewn ffrwythau, llysiau a grawn cyflawn. Anifeiliaid sy'n byw ar lysiau yn unig ac felly'n cael digonedd o botasiwm yw'r rheini sy'n teithio ymhell i chwilio am halen. Nid yw anifail na dyn sy'n bwyta cig yn debyg o fod yn brin o halen. Ond beth am ddyn sy'n ymwrthod â chig? Onid oes arno angen halen? Dro'n ôl collfarnwyd yn y Lancet adroddiad NACNE3 sy'n honni fod yn rhaid bwyta llawer llai o halen i fod yn iach. Honnai arbenigwyr o uned pwysedd uchel Cyngor Ymchwil Feddygol Prydain yn Glasgow ynghyd ag ymchwilwyr o'r Unol Daleithiau, Sweden a Seland Newydd nad oes unrhyw dystiolaeth wyddonol i gyfiawnhau y fath gyngor pendant. Rhybuddir y gall bwyta rhy ychydig o halen fod yn niweidiol. Cafwyd fod hynny'n atal tyfiant llygod Ffrengig ac yn codi pwysedd eu gwaed, sef yr union beth a briodolir fel rheol i or-fwyta halen. Dengys arbrofion eraill fod cysylltiad rhwng prinder halen a nifer o anhwylderau. Seilir y cyngor i fwyta llai o halen, meddir, ar astudiaethau, dros gyfnodau byrion, o niferoedd bach o gleifion efo pwysedd uchel. Honnir mai anghyfrifol yw casglu oddi wrth hyn y math o ddiet sy'n gymwys ar hyd eu hoes i bobl heb bwysedd gwaed. Mae hyn yn gyson â chynghorion y dietegydd Adelle Davis4 a ddywed fod cymryd halen yn bwysig mewn tywydd poeth rhag lludded a hefyd mewn cyfnodau o dyndra. Mae'r chwarennau adrenal yn cynhyrchu hor- mon, aldosteron, sy'n cadw sodiwm yn y corff pan fo angen. Yn ystod tyndra fe gynhyrchir rhagor o aldos- teron gan gynyddu'r sodiwm a chodi pwysedd y gwaed. Mae hyn yn gorfodi maethynnau i'r meinweoedd i ateb gofynion tyndra. Efo halen yn brin amherir ar y drefn hon a gall pwysedd y gwaed ddisgyn yn rhy isel gan achosi lludded parhaol fel sy'n digwydd efo afiechyd Addison, glawcoma, arthritis, alergedd a nifer o afiechydon eraill. Arwyddion o brinder halen yw gwen-