Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llaeth enwyn a llaeth heb ei basteureiddio. Mae gwaith Dr Elwyn Hughes a Dr Eleri Jones yn cadarnhau hyn.17 Camgymeriad yn sicr yw difrïo wyau; maent yn cynnwys colesterol ond hefyd protein a lecithin. Mae bwyta wy yn codi lefel y HDL yn y gwaed. Erbyn hyn mae rhai pobl yn dechrau sylweddoli mai camgymeriad yw collfarnu wyau. A beth am yr olew a brofwyd yn niweidiol yn yr arolwg hwnnw yn yr Unol Daleithiau ac mewn ymchwiliadau eraill? Mae'n debygol mai olew wedi bod dan driniaeth gwres i'w buro a'i ddiarogleuo oedd hwn ac felly wedi colli ei fitamin E, sy'n rhwystro iddo ocsideiddio ac achosi niwed yn y corff, a hefyd ei asidau brasterog hanfodol. Dichon y byddid wedi cael canlyniadau gwahanol pe byddid wedi cael gafael ar grwp o bobl yn defnyddio dim ond olew wedi ei wasgu'n oer ac felly'n dal i gynnwys yr hanfodion hyn. Dim ond mewn siopau bwydydd iach y mae'r fath olew i'w gael. Fe honnwyd yn 197318 fod prinder asidau bras- terog hanfodol yn cynyddu atherosglerosis a bod margarin fel rheol yn brin o'r rhain er yn cynnwys rhai brasterau amlanhrwythedig. Ond ni sonnir un dim am ystyriaethau o'r fath yn y mwyafrif o bapurau ar ddylanwad braster ar iechyd; a'r unig gyngor a roddir i'r cyhoedd yw bwyta cyfanswm llai o fraster gyda chyf- ran uwch ohono'n olew. Ac mae llawer rhagor na hyn i'w ddweud am fraster. Angen ymchwil fwy cynhwysfawr Gellid dyfynnu sawl enghraifft arall 0 gymhlethdodau mawr pwnc maeth ac o ganlyniadau Dadansoddi Bwyd gan Ddefnyddio Technegau Imwnolegol O GANLYNIAD i gynnydd y pryder am gynnwys bwydydd, mae pwysigrwydd dadansoddi bwyd wedi tyfu. Gellid cam-drin bwyd yn bwrpasol neu'n ddamweiniol. O'r cychwyn cyntaf gall y defnydd crai gael ei newid, ei drin, ei lygru'n ddamweiniol neu yn ystod ei brosesu. Yn wir, gall hyd yn oed y defnydd crai gynnwys defnydd- iau fel hormonau nad oes mo'u hangen ar y cwsmer. Ceir gwahanol ddefnyddiau y gall y gwyddonydd ddarganfod drwy brofion: 1. Adchwanegion: ychwanega'r cynhyrchwr liw, blas, neu rywbeth i wella'r ansawdd; 2. Llygriad: gall y cynnyrch gael ei lygru'n ddam- weiniol gan gemegion neu facteria; 3. Prosesu: gall y cynhyrchwr ychwanegu rhyw ddefnydd at y cynnyrch er mwyn lleihau'r gost. O ganlyniad i'r ymgais i ddatblygu technegau ymchwiliadau yn gwrthddweud ei gilydd. Onid oes dygn angen am ymchwiliadau lletach, mwy cynhwys- fawr, yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r holl ffactorau ac oblygiadau fel na seilir cynghorion i'r cyhoedd ar astudiaethau ad-ddygol cyfyng ac ansicr eu canlyniadau? Cyfeiriadau 1 Dahl. Salt and Hypertension, Amer. J. Clin. Nutrition (1972). 2 Finn et al. Lancet, (1981). Vol.l., 1097. 3 National Advisory Committee on Nutrition Education, (1983). 4 Adelle Davies, Let's Get Well, Unwin. 5 Golygyddol, B. M. J, Vol.297, 30/7/88. 6 Studevant et al. New Eng. J. Med., 3/3/73, 471. 7 Anderson. Lancet, 11/8/73, 298. 8 John Yudkin, This Slimming Business, Penguin. 9 H. Blackburn, Epidemiological Evidencefor the Causes and Prevention of Atherosclerosis, 1987. 10 B. M J Vol.296, 23/1/88, 235. 11 Knuiman et al. Lancet, 15/8/81, 367. 12 Downs. Amer. Med, 41, 460, (1935). 13 Amer. J Clin. Nutrition, (April 1980). 14 New Scientist, 17/10/85, 19. 15 Lancet, 4/2/84, 263. 16 Wigglesworth et al. B. M. J, Vol.1, (1979). 1711. 17 R. Elwyn Hughes, B. M. J, Vol.l, (1979), 1145. 18 Sinclair, Lancet, 1/9/73, 500. Mae portread o Eirwen Gwynn ar dudalen 22. dadansoddi sensitif a manwl, dechreuodd gwyddonwyr ystyried defnyddio technegau imwnolegol i ddadansoddi bwyd. Rhydd prof- ion imwnolegol gyfuniad unigryw o fanylder, sensitifrwydd, hwylustod a chryfder, sy'n eu gwneud yn ddeniadol i ddefnyddwyr o bob math. Craidd y profion imwnolegol hyn yw def- nyddio gwrthgyrff sy'n adweithio'n benodol i'r defnydd a ddadansoddir. Gellir darganfod y cymhligyn a ddaw o ganlyniad i adweithiad y gwrthgorff a'r antigen, mewn amryw ffyrdd. Y ffordd symlaf yw defnyddio system ensymig i gynhyrchu lliw. Dilynir gwahanu cymhligyn y gwrthgorff antigen o'r defnydd anadweithiol drwy ychwanegu is-haen yr ensym at y cymhligyn. Mesurir y lliw a gynhyrchir ac a gysylltir yn uniongyrchol â maint y cymhligyn, ac felly â'r antigen sy'n bresennol. Chris Smith