Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Salmonella a Listeria mewn Bwydydd Daw Beti Llewelyn o Ben-y-Groes. Dyfed a chafodd ei haddysg yn Ysgol Sir Dyffryn Aman. Graddiodd yn y gwyddorau biolegol ym Mhrifysgol Manceinion ac enillodd radd uwch yng Ngholeg Birbeck, Prifysgol Llun- dain. Bu 'n athrawes mewn ysgolion yng nghyffiniau Llundain ac yn ddarlithydd yng Nghaerlýr cyn dychwelyd i Gymru lle mae ar hyn 0 bryd yn ddarlithydd mewn maetheg a microbioleg yn Ysgol Gwyddor ŕ a Rheoli Sefydliadau, Prifysgol Cymru, Coleg Caerdydd. A YW 1989 yn flwyddyn y Bacteria? Mae'r cyfryngau wedi gwneud Salmonella a Listeria yn eiriau'r cartrefyn lle'n eiriau'r gwyddonydd yn unig. Mae'r stWr a'r swai wedi creu dychryn bwyd yn wenwynig ond yn edrych yn eithaf iawn a'r arogl yr un peth ag arfer! O ble, dwedwch, y daw Bacteria? Yr ateb, wrth gwrs, yw eu bod ym mhob man. Mae bywyd ar y ddaear fel yr ydym yn ei adnabod yn dibynnu arnynt ac y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn hollol ddiniwed. Heb y bacteria yn ein sys- tem dreuliol ni fyddai'r system yn medru gwneud ei gwaith yn iawn ac yn sicr, ni fyddem yn teimlo mor iach heb y Fitamin B y maent yn ei synthesu ynom. Yn wir, 'does dim amheuaeth nad ydyw bacteria'n bwysig iawn mewn llawer modd. Rhai ohonynt yn unig sydd yn wenwynig ond rhaid cydnabod bod y rhai hynny yn achosi tipyn o drwbwl. Gall camgymeriadau yn y diwydiant bwyd neu wallau yng nglen- did bwyd, efallai yn y cartref, oherwydd newid ffordd o fyw gael effaith barhaus ar ddosbarthiad bacteria. Salmonellosis Mae 'na dros ddwy fil o wahanol salmonellae a mwy na mil ohonynt yn bathogenig. Ar ôl cymryd bwyd sydd â pheth Salmonella yn tyfu ynddo mae'r bwytawr yn debyg iawn o gael yr afiechyd 'salmonellosis'. Prif symptomau salmonellosis ydyw teimlo'n boeth, chwydu a dolur rhydd. Dibynna'r amser cyn dat- blygiad y symptomau ar nifer y bacteria a fwytawyd. Cyn bod y symptomau'n ymddangos bydd rhaid bod Salmonella wedi lluosogi yn y perfedd. Felly gall sawl diwrnod fynd heibio ar ôl bwyta'r bwyd a ddifwynwyd cyn teimlo'n sâl. Ar ôl bod yn sâl am beth amser bydd dadhydradiad yn dilyn ac fe achosir i'r person deimlo'n wan iawn. Wedi cyrraedd y perfedd cynydda'r salmonellae yn fuan iawn a chyn bo hir bydd rhai o'r bacteria'n marw; bryd hynny rhyddheir tocsinau sydd yn achosi'r llid yn y perfedd a bydd symptomau salmonellosis yn ymddangos. Wrth gwrs, mae gan ddyn wrthiant i Salmonella; bydd yr asid hydroclorig yn y cylla yn lladd rhai. Dim BETI M. LLEWELYN ond pan fydd y Salmonella a fwytawyd yn fwy na lefel drothwyol (y 'dos sialens') y mae salmonellosis yn dilyn. Yn ychwanegol, daw'r system imwnedd i rym a chyn bo hir, yn y rhan fwyaf o bobl, bydd gwellhad. Pan na fydd y system imwnedd yn effeithiol, fe all y person fod yn glaf iawn. Yr henoed, babanod a'r rhai gwan sydd fwyaf tebygol o ddioddef. Lluosogiad Salmonella Dosberthir Salmonellae yn eang iawn; gall bwyd, clêr, anifeiliaid a hyd yn oed dyn ei hun, eu trosglwyddo o fan i fan. Ar ôl cael eu trosglwyddo i rywle sydd yn gyfaddas iddynt, e.e. y perfedd, maent yn gallu lluosogi'n gyflym iawn. Fan hyn y mae'r perygl; dim ond rhannu'n ddau a wedyn tyfu i faint y famgell wreiddiol a wna bacteria cyn ymrannu eto. Mae hyn yn digwydd yn rhwydd achos bod bacteria mor fach rhyw ychydig um (0.001mm) yw maint cell unigol o Salmonella. Os bydd y cynefin yn gyfaddas iawn fe ddyblir rhai bacteria hyd yn oed bob ugain munud, un yn mynd yn ddwy filiwn mewn 7 awr ac yn 7,000 miliwn mewn 12 awr. Effaith y cynnydd aruthrol hwn ar y cynefin yw ei wneud yn llai addas ac o ganlyniad y mae'r dyblu yn arafu. Cynefin addas nodweddiadol i facteria yw bwyd llaith, e.e. cawl. Rhaid hefyd wrth dymheredd addas. Heb dymheredd o'r fath nid yw'r bwyd na'r lleithder o werth i'r bacteria ac fydd 'na ddim lluosogi. Os bydd y tymheredd yn rhy uchel bydd y bac- teria yn cael eu lladd; os bydd yn rhy oer bydd atal ar y raddfa ddyblu. Rhwng y ddau mae'r tymheredd optimaidd. Po fwyaf addas y tymheredd, cyflymaf i gyd yw'r dyblu (gweler Ffigur 1). Mae gan bob math o fac- teria dymheredd optimaidd ynghyd â'i amrediad tymheredd neilltuol ei hunan a dyna sy'n penderfynu yn aml pa fath o facteria fydd yn datblygu. Arf gryf felly yw tymheredd. Salmonella a dofednod (ffowls) Cyffredin iawn adeg y Nadolig yw darllen yn y papur