Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Listeria oroesi a lluosogi yn y llefydd hyn. Ond yn ystod yr 'amser sefyll' bydd y gwres yn treiddio i'r 'mannau oer' hyn a'r tymheredd yn codi yno i dros 70°C gan ladd unrhyw Listeria a ddigwyddai fod yno. Dangosodd gwaith ymchwil gan Lund a'i gydweithwyr (1989) fod y tymheredd yng nghanol y stwffin wrth goginio cyw iâr rhwng 52°C a 78 °C ar ôl coginio am 38 munud, rhwng 63 °C a 90°C ar ôl sefyll am 10 munud, a rhwng 72°C a 85 °C ar ôl 'amser sefyll' 0 20 munud yr amser iawn. Cynhaliaeth yn y Gwagle O SAFBWYNT bwyd mae gan deithwyr y gofod ofynion cwbl wahanol i'r hyn sydd ei angen ar drigolion y ddaear. Rhaid iddo fod yn ysgafn, heb gymryd fawr o Ie i'w storio, ac wedi'i bacio yn y fath fodd fel y gall y bwytawr ei gael yn uniongyrchol o'r pecyn. Ar y cychwyn, roedd absenoldeb pwysau yn y gwagle yn ei wneud yn gwbl amhosibl defnyddio plât a chwpan cyffredin. Teithiau byr iawn a wnaethpwyd ar y dechrau, felly byddai brecwast sylweddol cyn dechrau yn ddigonol, ond wrth i hyd y teithiau estyn, rhaid hefyd oedd cael bwydydd ar ffurf addas. O'r dechrau gwelwyd bod pro- blemau. Os oedd y bwyd wedi'i gywasgu'n giwbiau, syrthiai yn ddarnau ar ôl amser byr yn y gofod, a dyna lle byddai'r briwsion yn hedfan yn braf o amgylch y cabin. Os oedd wedi'i sych-rewi, byddai'r person yn gorfod ychwanegu dwr cyn ei fwyta, a gwelodd Gordon Cooper bod hyn yn anodd. O ran ei drin, bwyd mewn tiwb fel past dannedd oedd orau. Heb eithriad roedd y teithwyr yn cwyno ei fod yn ddichwaeth ac yn ddiflas. Erbyn i longau Gemini ddechrau hedfan, roedd pethau wedi gwella rywfaint. Paratowyd y bwyd, boed gig, ffrwythau, bara neu bwdin yn ddigon o faint i wneud un llond ceg yr eitem, a rhoddwyd haen o gelatin arno i'w gadw'n gyfan. Llwyddwyd hefyd i wneud paciau plastig a oedd yn well ar gyfer ail- ddyfrhau'r bwyd. O ganlyniad daeth gwell amrywiaeth i fwydlen y teithwyr sy'n cael rhyw 2,800 calori y dydd, yn cynnwys cydbwysedd derbyniol 0 16 i 17 y cant o brotein, 30 i 32 y cant o fraster a 50 i 54 y cant o gar- bohydrad. Roedd pob unigolyn yn dewis ei fwydlen unigol yn ôl ei fympwy personol. Gallai pryd nod- weddiadol gynnwys cymysgedd o berdys i ddechrau, yna cyw iâr a llysiau, bara, pwdin cwstard a sudd afal i'w yfed. O safbwynt peirianyddol a biolegol roedd y prydau'n ddelfrydol. Nid yn unig y cynigient ddigon o gynhaliaeth o ran ynni a maethlonrwydd, ond ni fydd- ai cyfran sylweddol yn y carthion. Nid oeddynt chwaith yn dirywio o ganlyniad i ergyd gychwynnol y roced, absenoldeb pwysau ac amgylchedd ocsigen pur y cabin. Y canlyniad pwysicaf efallai i arbrofion Gemini Erbyn cyhoeddi'r erthygl hon ysgwn i a fydd MAFF wedi rhoi cynghorion newydd ac a fydd y cyfryngau wedi rhoi digon o gyhoeddusrwydd iddynt? Bydd eisiau llawer rhagor o drafod a llawer mwy o bwyslais ar bwysigrwydd Glendid Bwyd. Mae dosbarthiadau Gwy- ddor Tŷ eisoes yn gwneud y gwaith hwn yn yr ysgolion ac yn y colegau ond i gael effaith uniongyrchol rhaid dibynnu ar y teledu, y radio a'r gwahanol bapurau i'w gyhoeddi. Meddyliwch yn fanwl am y cynghorion. GLYN O. PHILLIPS Llun 1 Yrastronawt Rebecca Seddon ynclymu'i hun â'ithraedcyn dechrau cinio. a Mercury oedd y wybodaeth fod y bwyd, ar ôl iddo fynd i'r corff, yn cael ei dreulio fel ar y ddaear. Nid oedd newid amlwg yng ngweithrediad metabolig y corff yn y gwagle. Daeth cryn welliant erbyn i raglen Apollo ddechrau a'r teithiau'n ymestyn eto. Ychwanegwyd cyfleusterau i dwymo (i 150 gradd F) ac i oeri'r bwyd cyn ei fwyta (i 50 gradd F.) Synnwyd criwApollo 8 pan aethant i'r lleuad Nadolig 1968 wrth ganfod bod eu pac bwyd yn cynnwys twrci, a'r holl drimins, a hyd yn oed lwy i'w fwyta. Cyn gynted ag y sylweddolwyd bod bwyd llwy yn ymarferol amcanwyd at brydau llawer mwy uchelgeisiol.