Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chelfi cyffredin ar gyfer ei fwyta. Roedd hefyd gyfrifydd i ofalu bod yr amrywiaeth a ddewisai unigolion o ddydd i ddydd yn ddigon maethlon ac egnïol i'w cyn- nal. Dim ond bob chwe diwrnod y byddai'n rhaid iddynt ail-fwyta'r un bwydydd. Dyma'r pedwar math o fwyd: · Bwydydd yn barod i'w bwyta drwy ychwanegu dwr, megis cawl tomato, wyau, salad pysgodyn, diodydd a phwdin; · Bwydydd wedi'u coginio ymlaen llaw neu fwydydd ffres wedi colli rywfaint o'u dwr arferol (hyd at 20-45 y cant); · Bwyd wedi'i goginio gyda mwy o ddwr o hyd ynddo, megis twrci, peli cig neu bwdin; POENYN PENNA' Rhif 40: GwNEUD CAWL OHONO (o dudalen 21) Ateb: Annwen a Bob: Cyw iâr a tharten afalau Ceinwen: Melon a chig oen Dafydd: Cawl a chyw iâr COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE Un o Golegau Cyfansoddol Prifysgol Cymru Prifathro: B. L. Clarkson, DSc, CEng, FRAeS, FSEE, FIOA Darperir y cyrsiau canlynol ar gyfer myfyrwyr gwyddoniaeth: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg. (b) Diplomâu'r Coleg mewn Bioleg Forol Gymhwysol, Ffiseg Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Gwyddor Rheolaeth, Peirianneg Gemegol, Tocsicoleg Geneteg, Geneteg a'i Defnyddioldeb, Peirianneg Fecanyddol. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth yn cynnwys Athroniaeth, Biocemeg, Bioleg yr Amgylchedd, Bioleg Forol, Botaneg, Cemeg, Cyfrifianneg, Daearyddiaeth, Economeg, Ffiseg, Geneteg, Gwyddoniaeth Ddadansoddol, Gwyddoniaeth Dopograffigol, Mathemateg, Mathemateg Bur, Mathemateg Gyfrifiadurol, Mathemateg Gymhwysol, Microbioleg, Seicoleg, Swoleg. Mae'r cyrsiau yn y Gyfadran Beirianneg yn cynnwys Astudiaethau Busnes Ewropeaidd, Electroneg gyda Chyfrifianneg, Gwyddor Rheolaeth, Gwyddor Rheolaeth Americanaidd, Mathemateg Beirianegol gyda Chyfrifianneg, Peirianneg Deunyddiau, Peirianneg Drydanol a Thrydan, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Fiocemegol, Peirianneg Gemegol, Peirianneg Sifil, Astudiaethau Busnes, Ymchwil Weithredol, Gwyddor Rheolaeth Ewropeaidd. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Cedwir dau lawr yn Neuadd Sibly i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr. Gellir cael prospectws a manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd, Coleg Prifysgol Abertawe, FarC Singleton, Abertawe SA2 8PP. Ffôn: (0792) 205678. · Bwyd ffres wedi ei rewi hyd at ei baratoi yn y llong-ofod, megis cig eidion, cimwch, perdys a chig oen. Erbyn hyn mae'r dechneg wedi'i pherffeithio fel bod teithiwr y gofod yn cael cystal amrywiaeth bron ag ar y ddaear. Pan fydd yr Unol Daleithiau'n ailddechrau ar eu rhaglenni gyda'r Wennol Ofod, bydd dewis cystal ag mewn awyren dosbarth cyntaf a digon ohono. Mae lIe i 276.6 pwys yn y 'gegin' a 140 pwys ohono'n fwyd, gyda'r gweddill yn offer i goginio a thrin y bwyd. Ni charwn feddwl faint mae pob pryd yn ei gostio dyna res- taurant drutaf America yn sicr!