Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymborth Tlodion y Wyrcws yn Ne Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg Mae'rDrJ. H. Thomasyn enedigol o'r hen sir Benfro. Cafodd ei addysgyn Ysgol y Cyngor Hermon, Ysgol Sir Aberteifi a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Mae'n awdur nifer 0 gyhoeddiadau yn ymwneud ă haematoleg yr oedrannus a chyn ymddeol bu 'n feddyg ymgynghorol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bellach y mae'n byw ym Mhorthcawl ìle mae'n weithgar, ymhlith pethau eraill, gyda'r papur bro. Mae hefyd wrthi'n casglu deunydd ar hanes y wyrcws yng Nghymru (gwelir peth offrwyîh ei ymchwiliadau yn yr erthygol isod) ac y mae'n un 0 olygyddion cyfrol gyd- wladol arfaethedig ar Y Stroc yn yr Henoed. YN sgil rhyfel Napoleon fe ddaeth dirwasgiad enbyd ac o ganlyniad cynyddodd rhif y tlodion gymaint fel na allai tlotai bychain y plwyfi ddelio'n effeithiol â hwynt. Felly pasiwyd Deddf y Tlawd (1834) i uno plwyfi cyfagos er mwyn iddynt adeiladu wyrcws a oedd yn ddigon o faint i wneud hynny. Etholwyd Gwarcheid- waid gan drethdalwyr yr Awdurdod Unol i weinyddu'r sefydliad, o dan oruchwyliaeth Comisiynwyr canolog. Y rhain oedd yn trefnu pa ymborth y dylid ei roi i'r trigolion. Ar ôl 1846 gwnaed hynny gan Fwrdd y Tlodion. Adeiladwyd Wyrcws Pen-y-bont a'r Bont-faen yn niwedd y 1830au ac fe unwyd 52 o blwyfi a mân drefi. Roedd Bwrdd y Gwarcheidwaid yn ymgynnull unwaith yr wythnos ac yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar y nawfed o Chwefror 1839 penderfynwyd mabwysiadu rhaglen ymborth tlodion preswyl Wyrcws Caerfyrddin. Roedd hon yn un o'r tair diet a amlinellwyd gan y Com- isiynwyr yn 1836. Fe awgrymasant ar y pryd y dylai pobl a oedd dros 60 mlwydd oed dderbyn ychydig yn rhagor. Dengys Tabl 1 (tud. 35) gynnwys y ddiet hon. Tabl 2 Dadansoddiad o ymborth 1 839. J. H. THOMAS Llun 1 Wyrcws Pen-y-Bont c.1850 Fe ddadansoddwyd y prif ymborth a gwelir y canlyniadau yn Nhab12. Dengys cyfrifiad 1851 fod 80o bobl yn y Wyrcws 77 o dlodion a thri o staff. Gwelir eu hoed yn Nhabl 3 (tud. 35).