Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Epidemioleg: Arí I Ehangu Ffiniau Ymbortheg Mae Eleri Wyn Lewisyn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Coleg Caer- dydd, lle mae'n gyfrifol am ddysgu gwyddor cartreftrwy gyfrwngy Gym- raeg. Ganwyd hi yn Llanberis, Gwynedd a graddiodd yn BAdd. mewn gwyddor cartrefyng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl cyfnod yn dysgu mewn ysgol uwchradd bu 'n astudio, argyfer ei doethuriaeth, y berthynas rhwng ymbortheg a thyfìant plant yn ardaloedd tlawd Gorllewin Morgannwg ac yn cyd-weithio á'r Uned Epidemioleg (Cyngor Ymchwil Meddygol), Caerdydd. TYBED a ydych wedi gofyn y cwestiwn erioed ‘ O ble daeth y dystiolaeth am yr angen i ni fwyta margarin sy'n cynnwys asidau brasterog annirlawn yn hytrach na menyn traddodiadol?' Faint ohonom, tybed, sy'n mynd gam ymhellach gan ofyn 'Pa mor ddibynadwy yw'r dystiolaeth honno? A beth fydd canlyniadau'r newid o fwyta un math o fwyd i un arall?' Rhaid cofio mai ychydig iawn o glefydau sy'n deillio o ffactorau dietegol yn unig. Y mae'r berthynas rhwng ymbortheg a chlefydau yn un gymhleth iawn a'r brif feirniadaeth a ddygiryn erbyn datganiadau sy'n argymell newidiadau yn ein patrymau bwyta yw bod diffyg tystiolaeth ddigonol. Y dull a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth am y berthynas rhwng arferion bwyta a chlefydau yw epidemioleg. Mae i'r maes hwn dechnegau clasurol o safon uchel iawn ond nid yw pob ymchwiliad neu arolwg wedi cadw at y rheolau a dyna paham y mae cymaint o amheuaeth am ddilysrwydd y dystiolaeth ymysg rhai gwyddonwyr. Amcan yr erthygl hon yw di- ffinio'r term 'epidemioleg', disgrifio'r technegau clasurol yn fyr ac yna ddefnyddio enghreifftiau i egluro sut y caiff epidemioleg ei defnyddio mewn astudiaethau dietegol. Diffinio epidemioleg Nid yw epidemioleg yn cymryd lie unrhyw ddisgyblaeth glinigol arall ond y mae'n dadlennu ffeithiau gwerthfawr am y ffactorau sy'n dylanwadu ar ddosraniad clefydau ymhlith poblogaethau yn hytrach nag ymhlith unigolion. Yn syml, felly, astudiaeth o'r boblogaeth yw epidemioleg a'r astudiaeth honno yn benodedig ar faterion sy'n gysylltiedig ag afiechyd. Amcan gwreiddiol epidemioleg oedd astudio clefydau mewn poblogaethau. Daethpwyd i sylweddoli bod rhai heintiau yn dilyn llwybrau rhagfynegol mewn unigolion ac mewn cymunedau a defnyddiwyd epidemioleg i ddarganfod pa ffactorau amgylchfydol a allasai fod wedi achosi heintiau a chlefydau ac i awgrymu dulliau o'u harbed. Yn yr un modd mae i epidemioleg ran bwysig i'w chwarae mewn datgelu'r berthynas rhwng ymbortheg a gwahanol glefydau. Mae ymbortheg yn faes addas iawn i'w astudio yn y dull hwn gan fod modd diffinio ELERI LEWIS Cymeriant braster ( g/d ) Ffig. 1 Y berthynas rhwng braster yn y diet a mynychder (trawiant) cansr y fron un o'r graffiau epidemiolegol mwyaf adnabyddus. Seiliedig ar ddata am 30 o wledydd ond enwir 12 ohonynt yn unig ar y graff. newidynnau annibynnol (bwydydd a'u gweith- rediadau biocemegol) a'u mesur. Mae modd mesur a dilyn llwybrau gormodedd a phrinder maethynnau yn fanwl gywir trwy ddefnyddio technegau megis profion biocemegol, dulliau anthropolegol ac asesiadau dietegol. Prif ddiben epidemioleg yn y cyswllt hwn yw dadlennu gwybodaeth am y berthynas rhwng y newidynnau ymborthegol y mae modd eu mesur a'u dilyn mewn cymdeithas a dosraniad rhyw glefyd arbennig — hynny yw mae epidemioleg yn diffinio'r hyn sy'n gyffredin i grwp o bobl sy'n amlygu'r un broblem afiechydol. Technegau epidemioleg Cyn y gellir defnyddio epidemioleg i ddatgelu ffeithiau newydd am y berthynas rhwng ymbortheg a natur clefydau a heintiau y mae'n hanfodol bwysig def- nyddio technegau cywir o gasglu a dehongli gwybodaeth. Un o'r prosesau cyntaf ac ond odid y bwysicaf yw sut i ddewis sampl addas i'w astudio.