Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

torau eraill y tu allan i ymbortheg. Mae'n bwysig felly edrych yn ofalus iawn bob amser ar dystiolaeth yr astudiaethau hynny sy'n honni eu bod yn defnyddio technegau epidemiolegol er mwyn penderfynu pa mor ddibynadwy yw'r dystiolaeth mewn gwirionedd. Cyfeiriadau Mae'r erthyglau a ganlyn yn berthnasol i' deunydd a drafodir yn yr erthygl hon: Bingham, S. The Dietary Assessment of Individuals: Methods, Accuracy, New Techniques and Recommen- dations', Nutrìtion Abstracts and Reviews (series A) (1987), 57: 10, 705. Y Dietegydd yn y Nawdegau Daw Thelma Parry o Fynydd-y-Garreg Cydweli, Dyfed. Cafodd ei ha- ddysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd (M.Sc mewn biocemeg) ac ym Mhrifysgol Califfornia. Ar hyn 0 bryd y mae'n uwch-ddarlithydd mewn ffisioleg yn Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg. Mae'n awdur nifer o gyhoeddiadau a llyfrau yn ymwneud â dieteteg a gwyddor bwyd a bu 'n aelod o nifer o bwyllgorau yn ymwneud ô'r meysydd hyn. Yn 1988 fe'i penodwyd gan y Swyddfa Gymreig i gynrychioli Addysg Uwch yng Nghymru ar y Bwrdd Nyrsio, Bydwreiciaeth ac Ymwelwyr Iechyd yng Nghymru. ERBYN canol yr wythdegau yr oedd y cwrs diploma olaf ar gyfer dietegyddion wedi darfod gan sicrhau mai graddedigion fyddai holl ddietegyddion y dyfodol. Oherwydd y newid statws hwn o fod yn gwrs diploma i fod yn gwrs gradd, mae dieteteg yn symud at fod yn broffesiwn sydd wedi'i seilio mwy ar waith ymchwil gan ddatblygu ei gorff o wybodaeth ei hun. Fel arfer, mae'r cwrs hyfforddiant yn parhau am bedair blynedd ac astudir ymbortheg (maetheg) a dieteteg. Er hynny mae'n bosibl i raddedigion o ddisgyblaethau eraill, os yw'r rheiny yn rhoi pwyslais digonol ar ffisioleg a biocemeg, wneud cwrs diploma i raddedigion. Yn ystod y cwrs mae'n orfodol i bawb dreulio cyfnod mewn adran ddieteteg mewn ysbyty sydd wedi'i chymeradwyo i'r pwrpas. Ar gyfer cwrs i is- raddedigion gofynnir am o leiaf ddau bwnc gwyddonol Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol) ac fel arfer dylai cemeg fod yn un o'r ddau bwnc. Ar hyn o bryd mae ym Mhrydain ddeg canolfan sy'n hyfforddi dietegyddion ac er bod y cyrsiau a gynigir yn gwahaniaethu o ran y pwyslais a roddir ar agweddau arbennig, rhaid i bob cwrs gydymffurfio â'r canllawiau a gyhoeddir gan Fwrdd Dieteteg Cyngor y Galwedigaethau sy'n Atodol i Feddygaeth (Dietitians' Board of the Council of Professions Supplementary to Medicine) os yw'r graddedigion am gael eu cofrestru gan y Wladwriaeth. Mae hyn yn hanfodol i ddietegyddion a gyflogir gan y Gwasanaeth Iechyd. Lleolir yr unig gwrs o'r fath yng Nghymru yn Athrofa Addysg Uwch De Burr, M. 'Epidemiology for Nutritionists', Human Nutrition Applied Nutrition (1983), 37A: 259, 339, (1984), 38A: 329. Corry-Mann, H. C. 'Diets for Boys during the School Age', Medical Research Counciì Special Report Series, Rhif 105, London, HMSO. DHSS Nutrìtion and Health in Old Age (1979), London HMSO. Elwood, P. C. 'Methods for the Evaluation of Nutritional Status', yn Turner, M. R. (gol.), Nutrition and Health: A perspective (1982), London, t.5. Joossens, J. V. a Geboers, J. 'Nutrition and Gastric Cancer'. Proceedings of the Nutrìtion Society, (1981), 40: 37. Keys, A. Seven Countries: A multivariate analysis of death and coronary heart disease (1980), Cambridge, Mass. THELMA J. PARRY Morgannwg, Caerdydd. B.Sc. (Anrhydedd) mewn ymbortheg (maetheg) a dieteteg yw'r radd a ddyfernir ac y mae'r teitl yn adlewyrchu'r pwyslais a roddir ym maes cyffredinol dieteteg ar ei ymwneud â hyrwyddo iechyd yn ogystal â dieteteg therapiwtig mwy traddodiadol. Y pynciau craidd sy'n sail i ddieteteg yw biocemeg, ffisioleg ac ymbortheg. Mae gwybodaeth o'r corff nor- mal o lefel organau cyfain hyd at y gell ei hunan yn angenrheidiol. Dim ond wrth ddeall y cyflwr normal y Llun 1 Myfyrwraig mewn dosbarth gwyddor bwyd.