Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Felly, lle gwelsom yn y gorffennol, fwyafrif helaeth y dietegyddion yn gysylltiedig â thrin clefydau, mae'n debyg y gwelwn yn y nawdegau fwyfwy ohonynt yn dysgu'r cyhoedd sut i atal clefydau. Diau y parheir i seilio addysg a hyfforddiant dieteteg ar y gwyddorau Dirgelion y Rhifau 'E' ER 1 Ionawr 1986 bu'n rhaid i'r holl fwyd a gynhyrchir gan wledydd y Farchnad Gyffredin gario rhestr fanwl gywir o'i gynnwys er hwylus- tod y cwsmer. I'r diben hwn, dyfeisiwyd system o rifo'r defnyddiau mwyaf cyffredin a gelwir y rhain yn rhifau 'E'. Dosberthir y rhifau cyffredin hyn yn fras i bed- war grŵp sef lliwurau (E 100- 180), cadwolion (E220-290), defnyddiau gwrth-ocsideiddio (E300-321) ac emwlsiynwyr (E322-494). Yn ogys- tal â'r rhain ceir melysion (E420-421), toddyd- dion (E422), hidrocarbonau (E905-907) a starts wedi'i gymhwyso'n gemegol (E 1400- 1442). Defnyddir y lliwurau fynychaf er mwyn coluro bwyd yn unig ac felly gellid dadlau nad oes mo'u gwir angen; ymgais ydynt i ddenu'r llygad atynt. Ar y llaw arall, mae i'r cadwolion le pwysig gan eu bod yn rhwystro tyfiant microbau salmonella a CC ARY CYFROL 2 Golygwyd gan Graham Day a Gareth Rees The New Working Class and Political Change in Wales David Adamson; State Institutions and Rural Policy in Wales Jon Murdoch; The Development of Welsh Territorial Institutions: Modernization Theory Revisited Barry Jones; Economic Regeneration in Industrial south Wales: an Empirical Analysis Jonathan Morris and Roger Mansfield What are Schools in Wales for? Wales and the Education Reform Act Gareth Elwyn Jones Some Trends in Welsh Secondary Education, 1967-1987 Peter Ellis Jones Changing Patterns of Women's Work in Wales: Some Myths Explored — Teresa L. Rees; Wales in 1987: An Economic Survey Dennis Thomas. £ 7.50 (copi sengl) neu £ 6.50 i danysgrifwyr GWASG PRIFYSGOL CYMRU 6 Stryd Gwennyth, Cathays, Caerdydd, CF2 4YD. biolegol ond mae'n weddol amlwg hefyd ei fod yn angenrheidiol bellach i'r addysg honno gwmpasu adrannau o'r gwyddorau cyfathrebol os yw'r dietegydd i fod mewn sefyllfa i gyfarfod ag anghenion y gym- deithas gyfoes. listeria, sy'n medru achosi marwolaeth, yn enwedig felly i'r henoed a phlant ifainc. Mae'r cemegion hyn hefyd yn medru ymestyn cyfnod cadw rhai bwydydd darfodedig, ac mae hyn yn ei dro yn galluogi'r siopau i fasnachu'n fwy effeithiol. Mae defnyddiau gwrth-ocsideiddio hefyd yn gohirio darfodedigrwydd rhai bwydydd, yn enwedig braster gan fod hwnnw'n suro'n rhwydd iawn. Defnyddir yr emwlsiynwyr i wella ansawdd a golwg bwyd ac y maent yn cynnwys nifer o gemegion naturiol oherwydd fe ddarganfyddir y mwyafrif ohonynt naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol mewn planhigion. Hynny yw, nid yw pob peth a ychwanegir yn ddrwg, ond rhaid dethol yn ofalus. A dyna yw diben y rhifau 'E'. Martin Snowden