Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Low Calorie Products, gan G. G. Birch ac M. G. Lindley; Elsevier Applied Science, Llundain, 1988. Mae cyhoeddi'r llyfr hwn (sy'n seiliedeg ar symposiwm a gynhaliwyd yn Reading yn 1987) yn adlewyrchu'r cryn ddiddordeb cyfoes ar ran y gwneuthurwyr bwydydd mewn deunydd bwytadwy sy'n isel mewn calorïau. Amcangyfrifir bod rhyw drigain y cant o holl wragedd gwledydd Prydain wrthi'n ceisio colli pwysau'r funud hon rhai am resymau meddygol (mae cryn dystiolaeth bod gordewdra yn ffactor risg ar gyfer clefyd y galon a gorbwysedd gwaed), rhai am resymau cosmetig a rhai am fod yn ffasiynol. Prif achos gordewdra yw bod y cymeriant o fwyd yn fwy nad sydd ei angen i ateb gofynion y corff am egni. O ganlyniad mae'r corffyn troi peth o'r bwyd sydd dros ben yn fraster meinweol. Mesurir 'gwerth-egni' bwydydd mewn calorïau (neu MegaJoules) ac y mae'n gyfleus felly wrth drafod slimio a gordewdra i gyfeirio at y cymeriant calorïau. Mae'r llyfr dan sylw yn disgrifio'r gwahanol ymdrechion ar ran y gwneuthurwyr bwyd i farchnata sylweddau a fyddai o gymorth i'r aelodau hynny o'r cyhoedd sydd am golli pwysau. Gwelir bod tri phrif gategori o ddeunydd y gellir eu defnyddio mewn bwydydd i ostwng eu gwerth-egni: a) sylweddau llenwi megis polydecstros a'r gwahanol fathau o ffibr naturiol; b) brasterau synthetig na fedr y corff eu metaboleiddio (y CALO fats ('brasterau calorïau-isel)); ac c) melysyddion dwys megis aceswlffam, aspartam a sacarin. Ceir gan y gwahanol gyfranwyr ymdriniaeth gyfoes a chynhwysfawr â'r meysydd hyn. Diddorol darllen cyfraniad gan weithwyr o Leeds sydd yn codi amheuon ynghylch gallu sacarin i gynorthwyo mewn rhaglenni colli pwysau am fod peth tystiolaeth bellach fod sacarin yn creu archwaeth am fwyd! The Everyman Companion to Food and Nutrition, gan Sheila Bingham; Dent, Llundain, 1987. ISBN 0-460-03038-8. Pris: £ 25.00. Food Biochemistry and Nutritional Value, gan David S. Robinson; Longman, Harlow, 1987. ISBN 0-582-4906-7. Mae'n addas cyfeirio at y ddau lyfr hyn yn yr un nodyn. Rhyngddynt maen nhw'n llenwi bwlch amlwg yn y cyflenwad o ddeunydd darllen yn y meysydd maethegol. Mae'r ddau yn ddarllenadwy, yn safonol ac yn ddibynadwy ac mae'r awduron yn arbenigwyr cydnabyddedig yn eu gwahanol feysydd. Mae llyfr Bingham ar ffurf geiriadur; mae'r ymdriniaeth yn ffeithiol yn hytrach nag yn ddehongliadol ac mae'r llu o dablau perthnasol yn ychwanegu at ei werth. Manylder yr ymdriniaeth yw'r prif reswm paham y mae'n rhagori ar lyfr cyffelyb a gyhoeddwyd gan Yudkin ychydig flynyddoedd yn ô1 ei ragflaenydd amlwg yn y maes. Mae safon llyfr Robinson rywfaint yn uwch am mai bwriad yr awdur oedd paratoi llyfr at ddefnydd myfyrwyr yn astudio ar gyfer gradd mewn maetheg neu wyddor bwyd. Dyma lyfr ardderchog yn sicr y gorau yn y maes hyd yn hyn. Mae'n pwyso'n drwm ar 'wyddoniaeth galed' fel sylfaen i wyddor bwyd ac, o ganlyniad, y mae'n gymharol rydd o'r damcan- ìaethau gwag ac anfeirniadol sy'n nodweddu cynifer o'r llyfrau mwy elfennol yn y maes. Wrth reswm nid yw llyfr ar bwnc mor ben-agored yn debyg o blesio pawb. Synnais, er hyn, at absenoldeb ambell i bwnc a dybiaswn fyddai o Y Silff Lyfrau R.E.H. ddiddordeb pur gyffredinol megis arwyddocâd yr Adwaith Maillard i'r Diwydiant Bwyd ac ymateb y gwneuthurwyr bwyd i anghenion arbennig dioddefwyr oddi wrth glefydau metabolig — rhai cynhenid a rhai caffael. Ond mân bethau yw'r rhain. Ni allai'r sawl sydd am ddeall faint o'r gloch yw hi ym maetheg a gwyddor bwyd cyfoes wneud yn well na sicrhau copi o'r ddau lyfr hyn. R.E.H. Shared Wealth and Symbol, golygwyd gan Lenore Manderson; Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1986 (ond nis cyhoeddwyd tan 1987). ISBN 0 521 323541. Pris: £ 27.50 Casgliad o erthyglau gan anthropolegwyr gan mwyaf yn ymwneud yn bennaf â phatrymau bwyta ac arferion ymborthegol ymhlith pobloedd 'cyntefig'. Diddorol sylweddoli fod dulliau 'diwyddonol' (ond nid o angenrheidrwydd yn 'anwyddonol') o drafod ymbortheg yn llwyr dderbyniol mewn rhai cylchoedd academig. Ceir yma ddeunydd darllen diddorol. Dengys Manderson fod trigolion Malaysia yn dal i gredu fod modd dosbarthu bwydydd yn ôl eu priodweddau 'hiwmorol' a bod bwydydd 'poeth' a bwydydd 'oer' ac ati ar gael syniadaeth a fu farw yn Ewrop ddwy ganrif yn ôl. Efallai mai Pyke sy'n dod agosaf at wyddoniaeth go iawn yn ei drafodaeth ar y gwrthdaro ymddangosiadol rhwng y genynnau a'r amgylchfyd wrth sefydlu patrymau bwyta. Bodlona Hull ar restru nifer o 'ddirgelion' yn ei gyfraniad ar fwydydd tabw yn Java paham y mae tabw ar fwyta pysgod gan blant, paham y mae gostyngiad yn y cymeriant bwyd (ac yn enwedig protein anifeiliol) yn ystod beichiogrwydd, paham y mae'r cymeriant ffrwythau mor isel mewn gwlad sy'n gyforiog o ffrwythau trofannol. a phaham y rhwystrir babanod rhag sugno'r fron yn ystod cyfnod y llaeth torro arferiad a fu mewn grym yng Nghymru hyd yn gymharol ddiweddar. Llyfr diddorol. Nid drwg o beth yng nghyfnod y llu o argymhellion at 'fyw yn iach' yw cael deall fod pobloedd eraill ar gael sy'n coleddu credoau a mythau ymborthegol sydd mor sylfaenol wahanol i'n rhai 'swyddogol' ni. R.E.H. Human Life, gan Don Mackean; John Murray, 1988. Pris: £ 6.95 Mae llyfr diweddaraf Mackean yn gydymaith teilwng i'w gynhyrchion blaenorol (gweler er enghraifft Y Gwyddonydd, 24 (1987), t.121). Llyfr ar gyfer y rhai sy'n astudio bioleg ddynol yn yr ysgolion uwchradd yw hwn ond anodd credu na fydd ei apêl yn llawer ehangach na hyn. Mae lIe i ddiweddaru a chywiro rywfaint ar rai o'r diffiniadau a gynigir e.e. dylid gwahaniaethu rhwng atherosglerosis ac arteriosglerosis, dylid cyflwyno syniadau mwy modern am swyddogaeth fitamin C, a dylid egluro'n fanylach y berthynas rhwng caroten a fitamin A ond mân-feflau yw'r rhain mewn gwaith sy'n haeddu pob canmoliaeth. Cryfheir apêl y llyfr gan ei gyfoesedd ceir yma ymdriniaeth ag AIDS a diagram pwrpasol yn portreadu gwenwyniad gan Salmonella. R.E.H.