Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Alwminiwm mewn Bwydydd ER bod alwminiwm yn un o'r elfennau mwyaf helaeth ei ddosraniad yng nghromen y ddaear, hyd y gwyddys nid oes iddo unrhyw swyddogaeth hanfodol yng ngweithgareddau pethau byw. Mae'r trafodaethau diweddar ar arwyddocâd biolegol alwminiwm wedi canolbwyntio felly ar agweddau gwenwynig neu docsig. Disgrifiwyd math o niwmoconiosis — alwminosis Ffig. 1 R. ELWYN HUGHES ymhlith gweithwyr fu'n trafod powdr alwminiwm mewn ffatrïoedd yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn niwedd y 1940au cafwyd adroddiadau am gyflwr cyffelyb ymhlith gweithwyr mewn ffatrïoedd bawcseit (AI2O3) yng Nghanada.1 Ond yn ddiddorol iawn, ni chafwyd unrhyw dystiolaeth fod gweithwyr oedd yn ymwneud â pharatoi offer duralumin ar gyfer awyrennau yn dioddef o gwbl. Yn wir, ar un adeg awgrymodd gwyddonwyr o'r Taleithiau Unedig fod modd defnyddio llwch alwminiwm i wella glowyr oedd yn dioddef gan silicosis.2 Mae'r berthynas fiolegol rhwng silicon ac alwminiwm yn un bwysig ac fe'i cryb- wyllir drachefn ar ddiwedd y nodyn hwn. Yn ddiweddar, ailgynheuwyd y diddordeb ym mioleg alwminiwm gan yr awgrym ei fod a wnelo â rhai gwyriadau newrolegol. Ei gysylltiad tybiedig â Chlefyd Alzheimer sy bennaf cyfrifol am hyn. Nodweddir Clefyd Alzheimer yn glinigol gan heneiddio cyn- amserol a chan ddirywiad yn y galluoedd deallusol. Yn histolegol, fe'i nodweddir gan newidiadau dirywiol yn y meinweoedd nerfol ac yn fwyaf arbennig gan ymddangosiad nifer o ddrysfannau newroffibrilaidd (neurofibrillary tangles). Sylwyd bod alwminiwm yn crynhoi yng nghyffiniau'r drysfannau hyn ac awgrym- wyd bod cysylltiad rhwng crynodiad yr alwminiwm ac amhariadau ar y gyfundrefn nerfol. Cafwyd peth cef- nogaeth i'r dybiaeth hon gan adroddiadau fod modd peri newidiadau ym mhersonoliaeth anifeiliaid trwy gynnwys dognau uchel o alwminiwm yn eu lluniaeth. Dadleuid bod derbyn gormodedd o alwminiwm i'r corff yn anfanteisiol ac mai da o beth yn gyffredinol fyddai osgoi'r bwydydd hynny sy'n gyfoethog mewn alwminiwm. Nid yw mesur alwminiwm mewn deunydd organig yn orchwyl hawdd o bell ffordd ac y mae cryn amheuaeth ynghylch dilysrwydd rhai o'r canlyniadau dadansoddol a gyhoeddir o dro i dro. Ond y mae'r rhestr yn Nhabl 1 yn rhoi peth syniad o'r prif ffynonellau alwminiwm yn ein lluniaeth.3 Mae'n debyg mai te sydd wedi denu'r sylw mwyafyn hyn o beth. Fel y gwelir y mae dail te yn gymharol gyfoethog mewn alwminiwm ond nid ymddengys fod llawer o'r alwminiwm hwn yn bresennol yn y trwyth a wneir wrth baratoi te i'w yfed. Nid yw dwr yfed ychwaith yn ffynhonnell bwysig heblaw efallai yn y rhannau hynny o'r wlad lIe y defnyddir halwynau alwminiwm fel gwrthgeulyddion. Amcangyfrifir fod y cymeriant beunyddiol 0 alwminiwm rywle yng nghyffiniau 20-40 mg/person ond gall yr amrediad ymestyn o 2 hyd at 160 mg. Y ffynhonnell bwysicaf yw'r sylweddau hynny sy'n