Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O dipyn i beth collodd y dyn yn y stryd barch tuag at addysg uwch, a fu gynt yn gymaint o gefn i'r Brifysgol. Aeth galwedigaeth yn ddim ond job o waith. Gwelodd y llywodraeth Ie ar unwaith lle y gallent arbed arian. Ni chafodd y prifysgolion yr un flaenoriaeth mewn gwariant cyhoeddus ag a gawsant yn y chwedegau a'r saithdegau cynnar. Nid oedd digon o gydymdeimlad gan y dyn cyffredin i gefnogi'r protestiadau meudwyaidd o'r colegau. Os oedd pobl gwaith dur Shotton a phwll glo'r Hafod yn colli'u gwaith pa gyfiawnhad oedd i staff y colegau dderbyn cyflogau bras am weithio dim ond hanner y flwyddyn, gyda sicrwydd swydd am oes? Tybed a yw'r wers wedi'i dysgu bellach? O hyn ymlaen fe fydd Cyngor Ariannu'r Prifysgolion yn mynnu llawer mwy o dystiolaeth bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n effeithiol. Fe fydd arian dysgu ac Ymenyddglwyf Spwngffurf Gwartheg (YSG) (Clefyd Gwartheg Gwallgof) Bu J. Gareth Morris yn athro microbioleg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ers 1971. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Penybont ar Ogwr derbyniodd ei addysg uwch mewn biocemeg yn Leeds a Rhydychen. Yn dilyn cymrodoriaethau ymchwil yn Rhydychen a Berkeley, California, bu'n ddarlithydd yn Leicester ac yn athro cydymaithol ymweld ym Mhrifysgol Purdue, Indiana. Prif faes ei ymchwil yw fftsioleg bacteria anaerobig ac fe' hetholwyd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1988. Er bod YSG (Bovine Spongiform Encephalopathies (BSE)) yn afiechyd newydd mewn gwartheg Prydeinig, nid yw ond un o blith nifer o afiechydon newrolegol sy'n ddi-eithriad yn angheuol mewn anifeiliaid a phobl (Tabl 1). Trosglwyddir yr afiechydon hyn gan grwp o asiantau heintus anghonfensiynol. Parhant yn afiechydon rhyfedd oherwydd ym mhob achos, ceir y nodweddion canlynol: 1. Oedir ymddangosiad yr afiechyd, gan arddangos cyfnod deori hir yn yr organeb letyol arferol. 2. Mae'r asiant pathogenaidd yn hollol wahanol i unrhyw un arall a ddisgrifiwyd. 3. Mae'r asiant heintio yn gwrthsefyll triniaethau steryllu confensiynol (gan gynnwys ymbelydredd ymchwil yn cael ei glustnodi ar wahân a bydd anger mesur effeithiolrwydd y gwariant yn fanwl. Fe fydj mwy o ymchwil hefyd yn cael ei chanoli yn v canolfannau cryfaf, a nifer o adrannau yn cael el harwain i gydweithio. Amser yn unig a ddengys a fydd cystal canlyniadau o dan y drefn newydd. Mae'r cyfrifoldeb ar y prifysgolion o hyn ymlaen i brofi i gymdeithas sy 'n talu'r cyflogau eu bod yn gyfrifol yn werth eu halen. Yna bydd hawl ganddynt ddisgwy; cefnogaeth i gael rhagor o'r cyfalaf cenedlaethol gynnal eu gwaith. GLYN O. PHILLIPS *John Irving, Ben R. Martin a Phoebe A. Isard Investing in the Future (Edward Elgar, 1990), pp. 277 pris £ 35. J. GARETH MORRIS YMENYDDGLWYFI SPWNGFFURF [Spongiform Encephalopathies] MEWN ANIFEILIAID: YR YSFA (defaid a geifr) [Scrapie] YMENYDDGLWYF TROSGLWYDDADWY MINC [Transmissible Mink Encephalopathy] AFIECHYD DIRYWIAD CRONIG (elc a cheirw mul) [Chronic Wasting Disease] MEWN POBL: AFIECHYD CREUZFELD-JACOB SYNDROM GERSTMANN-STRAUSSLER CWRW [Kuru] TabM.