Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

íaill) a gysylltir mor agos i'r genyn Pm-p fel eu bod yn ||fagos neu'n cyd-redeg ac yn ffurfio cymhlethod prion- Snyn. Rhy'r alel trechol o Pm-i amseroedd deori hirach r alel enciliol rai byrrach. Dangosodd astudiaethau gyda enau mewnfridiol 0 lygod fod y protein PrP a ffurfir gan §eod â chanddynt yr alel trechol Pm-i yn wahanol i'r hyn gynhyrchir gan lygod â chanddynt yr alel enciliol drwy lyfnewidiadau yn y dilyniant asidau amino mewn dau safle. Èae hyn, a bodolaeth honedig rhai genynnau rheoli eraill, dechrau rhoi rhyw sail molecwlar i'r darganfyddiad a înaed rhai blynyddoedd yn ôl y gallai cefndir genetig defaid dylanwadu ar eu tueddiad i gael eu heintio gan Yr Ysfa ac amser deori'r afiechyd mewn anifeiliaid heintiedig. Mae jefyd yn awgrymu ffyrdd y gallai nodweddion straen prion Idlewyrchu'r organeb letyol ddiweddaraf iddo fod ynddi. în bwysicaf, mae'n rhoi gobaith y gall bridio dethol mewn Iwartheg annog gwrthiant i'r heintiad YSG. Rhagolygon Hyd yma canfuwyd tua 15,000 o wartheg yn dioddef o SG yn y Deyrnas Unedig; effeithiwyd ar dua 5 y cant o ichesi Prydeinig. Gan gymryd y dechreuwyd yr epidemig herwydd bwydo blawd cig ac asgwm a heintiwyd yn drwm an Yr Ysfa, yna dylai deddfwriaeth y Llywodraeth yn 988, yn terfynu cynnwys y protein sy'n deillio o gilfilynod Lewn bwyd i gilfilynod, achosi lleihad yn yr afiechyd ar ôl 992. Cymer hyn yn ganiataol fod y fuwch yn organeb Ityol derfynol i'r YSG, h.y., bod dim trosglwyddiad fertigol uwch i lo) na llorweddol (gwartheg i wartheg). Oherwydd d heintedd (yn arbennig drwy amlyncu) yn ddôs- jdibynnol iawn ac yn cael ei ddylanwadu gan asiant y straen jprganeb letyol yr heintiad cynt) a chyfansoddiad genetig ir organeb letyol newydd, ni ellir ond dyfalu parthed y |bygolrwydd o ledaeniad Yr Ysfa neu YSG i anifeiliaid Sjraill ac i ddyn. Cymerir agwedd lac iawn yn gyffredinol fwydo deunydd cilfilynaidd sydd â chanddo botensial Rhif 44 1991 Dyma hi o'r diwedd! Ie, y flwyddyn 1991 blwyddyn fathemategol fwyaf diddorol y ganrif! A pham hynny? Oherwydd mai hon yw unig flwyddyn balindromig y ganrif. (Mae rhif palindromig yn rhif nad yw'n newid o'i ddarllen o'r dde i'r chwith.) Pryd bydd y fwyddyn balindromig nesaf ? Pryd oedd y flwyddyn balindromig ddiwethaf ? Ym mha ganrif y cafwyd y nifer mwyaf o flynyddoedd palindromig ? Hwn yw Poenyn Penna' Rhif 44 rhif palindromig arall ? (Atebion ar dudalen 68) Positron heintio unai i foch, nad ydynt hyd yma wedi dangos unrhyw dueddiad i dderbyn haint gan unrhyw asiant megis Yr Ysfa, nac ychwaith i ddofednod, gan nad arddangoswyd unrhyw fath oymenyddglwyf spwngffurf mewn rhywogaethau an- famalaidd. Er hynny, lleisiwyd peth pryder parthed y posibilrwydd y gallai cnofilod ar ffermydd dderbyn yr afiechyd o'r bwyd heintus a fwriadwyd ar gyfer moch neu ddofednod. Cyn belled ag y mae pobl a'u hanifeiliaid anwes yn y cwestiwn, cyhyd ag y sicrheir fod y gyfraith parthed gwerthiant gweddillion gwartheg ar gyfer bwydo dynion yn cael ei hymestyn i gynnwys cynnyrch bwyd anifeiliaid anwes yna cedwir y dôs, ac felly'r perygl, cyn lleied ag sy'n bosibl. Buasai diagnosis diffiniol cynnar o haint (cyn ymddangosiad symptomau amlwg) o fantais i'r rhai sydd am reoli mynediad bwyd heintiedig i'r gadwyn fwyd ddynol ac i'r rhai hynny sydd am gyflawni arolygon epidemiolegol. Byddai'n ddymunol iawn medru canfod gyda sensitifrwydd uchel ymddangosiad y protein(au) prion yng nghelloedd y gwaed. Medrai sgrinio, gyda thechnegau technoleg DNA cyfoes, genomau anifeiliaid lletyol am yr alelau perthnasol o enynnau reoli PrP gyflymu'r rhaglen fridio am ymwrthedd. Ond yn y pen draw bydd yn rhaid inni ddatgelu cyfrinachau'r asiant heintus anghonfensiynol hwn (a all eto brofi i fod naill yn brion na'n firion fel y'u diffinnir ar hyn o bryd). Efallai, wrth wneud hyn, y cawn ddealltwriaeth o anhwyldebau newrolegol eraill sy'n ymddangos mewn dyn yn hwyr mewn bywyd. Cyfeiriadau S. B. Prusiner, 'Scrapie Prions', Annual Review of Microbiology, 43 (1989), 345-74. Addaswyd gan IapG POENYN PENNA'