Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llun 4 Mrs Carol Jones, merch E. D. Hughes gyda'i Fedal Meloda a Ilyfr gan Primo Levi. 'Llythrennau' Genetig Newydd Mae'r cwbl sy'n angenrheidiol organeb ddatblygu ac atgynhyrchu wedi ei godio yn y genynnau a ffurfir o bedwar niwcliotid ('llythrennau' cemegol). Yn ddiweddar yn y Swistir, cynhyrchwyd defnyddiau genetig a oedd yn cynnwys, heblaw'r pedwar niwcliotid naturiol, ddau niwcliotid synthetig. Oherwydd hyn, mae'n bosibl y gellir creu genynnau newydd. Darganfuwyd y gellir gwneud mathau newydd o DNA ac RNA. Cred llawer o arbenigwyr yn y maes hwn fod y mwyafrif o'r catalyddion biolegol sy'n angenrheidiol ar gyfer bywyd yn rhannau o RNA yn y gorffennol Pell, yn hytrach na phroteinau fel y maent ar hyn o bryd. Wrth ychwanegu 'llythrennau' genetig newydd at RNA, efallai y datblygir mathau newydd o gatalyddion RNA sy'n debyg i'r rhai a ddiflannodd. Primo Levi y llenor ydyw Mrs Carol Jones, merch y diweddar Athro Hughes. Mae Mrs Jones yn llenor ei hun, enillodd wobr Nofel i Gymru yn 1984 gyda'r gyfrol Late in the Day. Pan glywodd fod y Sefydliad Eidalaidd yn Llundain yn cynnal Cyfarfod Coffa Primo Levi teimlodd ar ei chalon yr hoffai dalu teyrnged briodol i'w goffadwriaeth. Gwyddai am gefndir Iddewig Raphael Meldola a phenderfynodd yr hoffai gyflwyno medal E.D. Hughes i deulu Levi. Wrth fynd trwy rai o bapurau ei thad daeth ar draws dyddiadur a ysgrifennodd tra yn ddisgybl yn Ysgol Sir Porthmadog, a beth ddisgynnodd allan ohono ond copi o'r Tabl Cyfnodol; yr oedd y cysylltiad â llyfr enwocaf Primo Levi yn ddigon i'w argyhoeddi fod y bwriad yn un dilys. Cysylltodd â'r Sefydliad Eidalaidd yn Llundain a chael fod y cyfarwyddwr, yr Athro Alessandro Vacagio, sy'n gemegydd ei hun, a'r is-gyfarwyddwr Dr Giorgio Colombo, a oedd yn gefnder i Levi, y ddau yn gwerthfawrogi'r bwriad. Ysgrifennodd hefyd at Syr Frederick Dainton i geisio ymateb y Sefydliad Cemegol, a chan ei fod ef eisoes, heb yn wybod i Mrs Jones, yn edmygydd mawr o Primo Levi mynegodd ei gydymdeimlad a'i gefnogaeth lwyr. Felly, ar 25 Mehefin 1987, fe drosglwyddodd Mrs Jones y Fedal i law Dr Colombo a thrwyddo ef, yn ddiweddarach, i law Lucia, gweddw Primo Levi fel arwydd o barch a chydymdeimlad gan ferch un cemegydd i weddw un arall. Anrhydedd y Cymro er anrhydedd i'r Eidalwr. Cydwybod un Gymraes yn anrhydeddu cydwybod yr Iddew a oroesodd Auschwitz. Dyma'r gadwyn yn gyflawn. LI.G.C.