Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Truan o Dynged a Dyngwyd i Ddynoliaeth (effaith C02 ar y byd) Un o frodorion Rhosllanerchrugog yw Dylan Gwynn Jones. Wedi saith mlynedd yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle y graddiodd mewn bioleg. Ar hyn o bryd mae'n dilyn cwrs ymchwil dan arweiniad Dr J.F. Farrar ac yn astudio effaith cynnydd atmosfferig C02 ar ffisioleg coed. 'Absence of evidence isn't evidence ofabsence' Ateb sy'n gweddu i'r dim wrth ystyried yr ymdriniaeth bresennol o gynnydd atmosfferig CO,. Rhaid pwysleisio bod digon o dystiolaeth yn dangos y cynnydd hwn cynnydd sy'n achosi pryder mawr yn y cylchoedd gwyddonol. Yn 1988 nodwyd gan Conway2 a'i gydweithwyr fod lefelau atmosfferig CO, oddeutu 350 µmol mol-I (h.y.350 umol CO, mewn 1 mol o aer sych). Hefyd, awgrymwyd bod y crynodiad hwn yn cynyddu ar raddfa o 1.2 jimol mol-I y flwyddyn. Yn sicr, mae'r lefel hon o CO, dipyn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol 0 270 umol a fesurwyd gan Pearman a'i gydweithwyr3 drwy ddadansoddi aer o rew o'r Antarctig. Ym Mangor ym mis Hydref 1989, mesurwyd lefelau CO, mor uchel â 380 umol mol1. Mae'r cynnydd hwn mewn CO, wedi cyfrannu'n helaeth at yr hyn a elwir yn 'effaith ty gwydr'. Yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yw fod nwyon fel CO, yn gyfrwng i belydrau'r haul gyrraedd y ddaear, ond hefyd maent yn rhwystro'r pelydrau hyn rhag eu hadlewyrchu'n ôl i'r gofod ar ffurf gwres. Yn wir, maent yn gweithredu yn yr un modd â gwydr mewn tŷ gwydr gan rwystro gwres rhag dianc. Cred rhai gwyddonwyr y byddai lefelau C02 yn dyblu yn y 60 mlynedd nesaf gan achosi i dymheredd y blaned godi rhwng 1.5 a 5.5 gradd Celsius.4 Er bod hyn yn ymddangos yn isel byddai'n effaith fawr ar natur y blaned. Yn wir gostyngiad o 5°C a achosodd yr oes rew ddiwethaf a lwyddodd i barhau am 8,000 o flynyddoedd.5 Fe fyddai'r cynnydd hwn mewn tymheredd byd eang yn achosi cynnydd yn lefelau'r môr o amgylch y byd. Yn wir yn y 100 mlynedd ddiwethaf mae lefel y moroedd ar gyfartaledd wedi cynyddu 12cm5 a hynny o ganlyniad uniongyrchol i godiad yn y tymheredd. Disgwylir hefyd y bydd newidiadau mawr yn hinsawdd y byd rhai ardaloedd yn fwy stormus ac eraill yn sychach a phoethach. Y cwestiwn mawr yw beth allwn ni ei wneud ynglyn â'r broblem sydd ohoni? Mae'r CEGB wedi rhagweld cynnydd o 20 y cant mewn gofynion trydan erbyn y flwyddyn 2000, rhywbeth a fydd yn ychwanegu at y broblem o losgi tanwydd. Credir gan rai mai defnyddio DYLAN GWYNN JONES mwy ar ynni niwclear yw'r unig ateb ond a yw hyn yn realistig iawn. Mewn adolygiad gan y Rocky Mountain Institute awgrymwyd y byddai adeiladu gorsaf niwclear newydd bob tri diwrnod am 37 mlynedd yn annigonol wrthweithio allyriant CO, yn y byd.6 Awgrymwyd yn yr un adolygiad mai cadwraeth egni yw'r ateb gorau i leihau allyriant CO,. Yn wir gal! cadwraeth egni fod oddeutu saith gwaith mwy effeithiol na chynlluniau fel adeiladu gorsafoedd niwclear. Ateb arall i'r broblem fyddai lleihad yn yr arfer o ddigoedwigo fforestydd glaw y trofannau. Yn ogystal â hyn byddai plannu fforestydd newydd ledled y byd yn fanteisiol. Fodd bynnag gyda'r cynlluniau hyn byddai angen llawer c drafod a chydweithio brwd ymysg arweinyddion gwledydd y byd. Gweledigaeth annhebygol rywsut? Hefyd, er yr holl welliannau, ni ellir diystyru y bydd ı blaned yn parhau i gynhesu ar raddau sylweddol iawn, Nid oes ateb i'r broblem am fod y difrod wedi ei wneuc yn barod. Yng ngeiriau Genedy Goluber (gweler fj 'Advocating patience is an invitation to be a spectatoroj. our own destruction.' Cyfeiriadau Dyfyniad o Canu Llywarch Hen. 2 T.J. Conway, P. Trans, L.S. Waterman, K.W. Thoning. and R. H. Gamman, 'Atmospheric carbon dioxide measurements in the remote global troposphere, 1981- 84', Tellus, 40b (1988), 81-115. 3 G.I. Pearman, D. Etheridge, F. de Silva, and P.J. Fraser 'Evidence of changing concentrations of CO,, N,0 and CH4 from air bubbles in Antarctic ice', Nature, 320 (1986), 249-50. 4 Greenhouse Effect (Environmental Publication b) National Society for Clean Air). 5 Global Warming What's happening and what can be oneaboutit (United Nations Environment Programrtf Publication). 6 S. Boyle, Solutions to Global Warming some questions andAnswers (1988) (Publication by the Association fẅ the Conservation of Energy).