Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Berthynas rhwng Braster a Chlefyd y Galon Magwyd Elfed Evans ym Mrynsiecyn. Aeth i Ysgol Ramadeg Biwmares ac yna i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, lle y graddiodd mewn cemeg. Cafodd waith gyda Chwmni Lever Brothers w datblygu sebonau a phowdrau golchi yn euffatfioedd vm Mhorth Sunlight a Warrington. Ar ôl deugain mlynedd ym rmd y sebon.fe ymddeolodd ddwyflynedd yn ôl i ffermio a gwneud gwaith ymchwil gwahanol. Dechreuodd ymddiddori yng nghlefyd y galon ryw ddeuddeng mlynedd yn ôl, pan oedd ei ferch, Ann, yn fyfyriwr yn Ysgol Feddygol Caerdydd. Dangosodd iddo erthygl yn y Lancet a oedd ynfeirniadol o'r gred gyfredol ynglfn â'r berthynas rhwng braster a'r clefyd. Ar ôl astudio ac ymrafael â'r broblem dros y blynyddoedd. cred iddo gael gafael o'r diwedd ar rywfath o ben Uinyn. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ceisiodd ffurfîo damcaniaeth, a oedd o leiaf yn unol â'r ffeithiau, i egluro'r berthynas. Y cam nesaf iddo fydd ceisio cael prawf pendant. Gwelwyd cynnydd aruthrol yn nifer y marwolaethau o achos clefyd y galon yng Nghymru ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Y gred gyffredin yw mai gormod o fraster yn y bwyd, yn enwedig braster anifeiliaid, sydd yn bennaf gyfrifol. Oherwydd y dirywiad, fe apwyntiodd y Llywodraeth griw o wyr dethol, amryw ohonynt yn arbenigwyr yn y maes, i adolygu yr holl wybodaeth berthnasol. Cyhoeddwyd eu hadroddiad, COMA, yn 1984,' ac fe argymhellwyd bwyta llai o fraster, a hefyd ceisio newid o seimiau anifeiliaid i rai mwy annirlawn. Diddorol yw sylwi, serch hynny, i'r adroddiad fethu â chael tystiolaeth bendant yn erbyn braster. Ond ar y cyfan, mae ei argymhellion yn ddigon dini wed, er bod yna berygl i rai dybio mai gwell fyddai dim braster. Rhaid i'r corff iach, wrth gwrs, gael rhai asidau brasterog arbennig i ffurfio'r prostaglandinau. Tystiolaeth sy'n siglo'r gred gyffredin Er nad oes amheuaeth fod braster yn y bwyd rywsut yn bwysig, nid oes sail gadarn i amryw o'r honiadau poblogaidd, yn enwedig y rhai sydd yn condemnio braster anifeiliaid. Dyma rai o'r ffeithiau sy'n tanseilio'r damcaniaethau cyfredol y clywir cymaint o sôn amdanynt yn y wasg boblogaidd: 1.Yn arolwg COMA, canfuwyd nad oedd maint y braster a fwyteir y pen wedi newid nemor fawr dros y blynyddoedd. 2.Prif fwyd trigolion ynysoedd Cook yw'r gneuen 89co, sydd yn cynnwys asidau brasterog llawer mwy ELFED EVANS dirlawn na rhai anifeiliaid. Eto, ni wna niwed iddynt. Llefrith, cig a gwaed yw bwyd beunyddiol llwyth y Masai, ond ni thrafferthir hwy gan y clefyd, er bod lefelau colesterol yn y gwaed yn debyg i'n rhai ni.2 3. Er i'r Ffrancwyr fwyta llawer mwy o fenyn a chaws na ni, mae clefyd y galon yn gymharol isel yno. Prydain Ffrainc Kg/pen/y flwyddyn Ymenyn 4.5 6.9 Caws 7.5 21.5 4. Mae braster dyn yn debyg iawn i lard o ran natur yr asidau brasterog. Anodd credu i'r Creawdwr wneud y fath gamgymeriad pan greodd stôr egni dyn! 5. Mae lefel colesterol yn y gwaed ym Mhrydain yn hollol normal yn y mwyafrif o bobl sydd yn marw o'r clefyd. 7. Ni ddarganfuwyd perthynas, hyd yn oed un ystadegol, mewn unrhyw boblogaeth rhwng braster mewn bwyd a lefel colesterol yn y gwaed. Na chwaith rhyngddo a marwolaethau o'r clefyd.3 Yr unig berthynas a ddarganfuwyd yw rhwng pobl o wahanol wledydd.4 8. Gwelir perthynas hanesyddol ffafriol, h.y. negyddol, rhwng y clefyd ac ymenyn yn y wlad hon, a hefyd yn yr Unol-Daleithiau (Ffigur 1).