Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dod i oed ? Rheoli rhedyn Ynghlwm wrth y broblem o warchod y Frân Goesgoch, mae honno o reoli rhedyn. Tystiolaeth o absenoldeb defnydd tir traddodiadol, sydd mor bwysig i'r frân yw lledaeniadyplanhigynhwn. Hyd y 1950au, porwyd y rhan helaeth, os nad y cyfan oll o'r tiroedd arfordirol gan anifeiliaid amrywiol, a hynny bron drwy'r flwyddyn. Cadwai hyn yr eithin a'r grug yn fyr ac ifanc, y rhedyn o dan reolaeth a'r pyllau dwr a'u hymylon lleidiog gwerthfawr yn agored, ac yn gynefinoedd addas, yn ôl dyddiaduron naturiaethwyr y cyfnod, i blanhigion prin, gorllewinol eu dosbarthiad megis Cicendia filiformis, Baldellia ranunculoides a'r rhedyn Pilularia globulifera. Ers dyfodiad y llwybr arfordirol a'r lleihad yn nifer y bobl a gyflogwyd ar ffermydd, diflannu wnaeth creaduriaid fferm o'r tiroedd arfordirol. Mae'r tyfiant diatal a ddigwyddodd yn sgil hynny wedi arwain, yn ei dro, i danau cyson a gychwynnir yn fwriadol (i 'gadw'r tir yn deidi') neu'n ddamweiniol i ledu ar hyd y clogwyni, ac mae hyn yn siwr Llun 1 Cymuned seroffytig a ffafrir gan frain coesgoch fel tir bwydo. Ymhlith planhigion mwyaf nodweddiadol y cynefin mae Sedum, Centaurea, Armerìa maritima ac, yn fwyaf cyson, y gweiriau Aira praecox ac Aira canyophyllea. Rhan II ELINOR GWYNN o fod wedi cyfrannu at gynnydd yn y rhedyn ar draws gweundir a glaswellt arforol. Mae'n broblem anorchfygol bron yn Sir Benfro erbvr hyn. Ond mae'r Ymddiriedolaeth, serch hynny, wedi ceisio ymdopi â'r broblem mewn mannau dewisol, ar raddfa fechan mae'n wir ond gydag amcanion pendant mewr golwg. Dewiswyd Parc Ceirw Marloes fel y prif safle arbrofi â dulliau rheoli am nifer o resymau: ceid ymaytr; phrif math o gymunedau pen clogwyni glaswellt arforo! gweundir arforol a glaswellt bras/prysg eithin a rhedyn, a rheini'n gymysg mewn mannau; gallem fynd â pheirian: torri i'r pentir; 'roedd brain coesgoch yn yr ardal, ar y tir mawr ac ar Sgomer, a ddefnyddiai'r pentir, yn draddodiadol, fel man bwydo, ac 'roedd ffermwr gerllaw a gytunai i cynorthwyo yn ein gwaith. Penderfynwyd i gychwyn mai'r nod fyddai lleihau ardai y rhedyn ar y pentir a cheisio creu mwy o laswelltir arforoi, Torri oedd yr unig ddull derbyniol y gallem ei ddefnyddic roedd pwysigrwydd cen ar glogwyni a chreigiau'r penti; ac agosatrwydd y llwybr arfordirol yn gwahardd chwistrellu