Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adnoddau Dysgu Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Ysgolion Uwchradd Swyddog Golygyddol, Adran Gymraeg, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru Adnoddau i'w cyhoeddi yn 1990-91 Yn ystod 1990-91, edrychwn ymlaen at weld cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth o adnoddau ar gyfer dysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Swyddfa Gymreig yn rhoi cefnogaeth ariannol i Adran Gymraeg ÍCyd-bwyllgor Addysg Cymru ymgymryd â sawl project newydd, gyda phwyslais eleni ar gynhyrchu deunydd ar ;gyfer gwyddoniaeth yn yr ysgolion uwchradd. Daw hyn yn sgil cyhoeddi dogfen wyddoniaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r newid diweddar ar Safon TGAU o ddysgu'r tri phwnc gwyddonol traddodiadol i gyflwyno cynlluniau Gwyddoniaeth Modylol. Rhoddir blaenoriaeth i anghenion disgyblion yn yr ystod oedran 11 i 14 oed (yr hyn a elwir bellach yn Gyfnod Allweddol 3) trwy gyhoeddi dwy gyfres safonol o adnoddau, sef Gwyddoniaeth Trwy Brofiad (addasiad Cymraeg o Science in Process) a Gwyddoniaeth Byw (addasiad Cymraeg o Active Science). Mae Gwyddoniaeth Trwy Brofiad, a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan dîm o athrawon yn Awdurdod Addysg Llundain Fewnol ac a gyhoeddwyd gan gwmni Heinemann, yn cynnwys gwahanol themâu ar ffurf dwsin o lyfrau i'rdisgyblion gan ganolbwyntio ar brosesau gwyddoniaeth yn hytrach nag ar gynnwys. Dau lyfr llawn lliw, a gyhoeddwyd gan gwmni Collins yn 1988, yw Gwyddoniaeth Byw ac mae cynlluniau ganddynt i gyhoeddi trydydd llyfr yn y gyfres eleni. Gyda'i gilydd bydd addasiad Cymraeg y ddwy gyfres hyn yn darparu amrywiaeth o adnoddau ar gyfer dysgu gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg ac, am y tro cyntaf erioed, bydd gan yr athrawon a'r disgyblion ddewis o ddeunydd y gallant droi ato wrth ddilyn eu cynlluniau gwaith. I ateb gofynion Gwyddoniaeth Dwyradd ar safon TGAU, cynhyrchwyd eisoes ffeiliau o daflenni gwaith i'r disgyblion sy'n astudio'r naw model craidd yng Nghynllun Gwyddoniaeth Modylol CBAC. Mae deg modwl dewisol arall o fewn y maes llafur hwn ac i gynorthwyo'r ysgolion sy n ymgymryd ag astudio rhai o'r modylau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg cyhoeddir eleni nifer o deitlau yn y gyfres Estyn Gwyddoniaeth (addasiadau Cymraeg o gyfres cwmni Stanley Thomes, Extending Science). Bydd y llyfrau canlynol yn ymddangos yn fuan: Chwaraeom. ^yddoniaeth Fforensig, Y Diwydiant Cemegol a Seryddiaeth. Ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Gwyddoniaeth Safon wch trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r Asiantaeth yîforddi yn noddi Adran Gymraeg CBAC i gyhoeddi nifer °aylau addysg hyblyg mewn Bioleg (deunydd ABAL), HUW ROBERTS Cemeg (ILPAC) a Ffiseg (APPIL). Cyfres fu'n hynod boblogaidd ers sawl blwyddyn, yn enwedig ar gyfer dilyn cwrs y Dystysgrif Addysg, yw Gwyddoniaeth ar Waith, sef cyfres cwmni Longman, Science at Work. Mae'r cyhoeddwyr Saesneg wrthi'n diweddaru bron pob teitl yn y gyfres hon a chyhoeddir nifer ohonynt yn y Gymraeg eleni. Y cyfrolau cyntaf i ymddangos fydd Cynnal y Corff, Llygredd a Gwyddoniaeth Chwaraeon. Nid deunydd ysgrifenedig yn unig sydd ar y gweill. Bwriedir hefyd gynhyrchu fersiynau Cymraeg o rai o raglenni teledu'r ddwy gyfres Chemistry in Action a Physics in Action a gynhyrchwyd gan gwmni Granada. Adnoddau sydd ar gael eisoes Soniwyd uchod am yr adnoddau sy'n cael eu paratoi yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Mae'n werth nodi, wrth fynd heibio, rai o'r adnoddau gwyddoniaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sydd ar gael i'rysgolion yn awr. Cwblhawyd cyhoeddi dwy gyfres dan nawdd Cynllun Adnoddau CBAC, sef Dysgu Trwy Wyddoniaeth (12 uned o gardiau gwaith y gyfres Learning Through Science a addaswyd gan Gwenno Hywyn ar gyfer yr ysgolion cynradd ond deunydd y gellir defnyddio rhannau helaeth ohono. yn yr ysgol uwchradd); Darllen am Wyddoniaeth (pum cyfrol y gyfres Reading About Science a addaswyd gan Siân Gruffudd ar gyfer gwaelod yr ysgol uwchradd); Ar Brawf 1 (ffeil o daflenni gwaith ar wahanol bynciau gwyddonol cynnyrch project a gynhaliwyd o dan arweiniad Roy Purnell yng Ngholeg Caerllion, Gwent, i baratoi deunydd ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig ac a gyhoeddwyd yn y Saesneg gan gwmni Stanley Thornes, Science Workout 1). Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi paratoi addasiad Cymraeg o'r deg llyfryn yn y gyfres Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn y Gymdeithas (SATIS) a hefyd y taflenni gwaith a berthyn i gwrs newydd TGAU Nuffield (Nuffìeld Co-ordinated Sciences). Gwelir mai addasiadau o'r Saesneg yw'r cyfan a restrwyd hyd yn hyn ac efallai y byddai rhywun yn anghymeradwyo gwaith o'r fath gan fynnu y dylid cynhyrchu deunydd gwreiddiol Cymraeg ag iddo naws Cymreig. Gellid ar y