Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gall MENTEC chwarae rhan bwysig yn y broses o lrosglwyddo arbenigedd gwyddonol o'r brifysgol ifentrau lewydd ac felly meithrin datblygiad a thwf diwydiannau \y'n seiliedig ar wyddoniaeth yn yr ardal.' Dyna oedd geiriau Syr Wyn Roberts, AS, Is- í'sgrifennydd Gwladol Cymru pan agorodd Ganolfan ylentrau Technolegol Menai, MENTEC ym Mangor yn onawr 1987. Adeilad Mentec, canolfan arbennig i gynorthwyo busnesau gwyddonol/technolegol i dyfu yng Nghwynedd. VIenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor 3wrdeistref Arfon a Choleg Prifysgol Gogledd "ymru, Bangor yw MENTEC, a dderbyniodd sefnogaeth ariannol oddi wrth y Swyddfa Gymreig irwy'r Rhaglen Drefol. Mae'r Ganolfan wedi'i -hynllunio er mwyn darparu awyrgylch modern, iemamig gyda gwasanaethau canolog. Dyma'r unig ^anolfan o'i bath yng Ngwynedd. Yn wir mae'n un o ^dim ond pum canolfan debyg yng Nghymru a rhyw ddeugain ym Mhrydain. Y tu mewn i'r adeilad a ^odwyd i'r union bwrpas o gynorthwyo busnesau ^chnolegol y mae pum labordy a phum swyddfa ^ysylltiedig ar gael i'w rhentu gan unigolion a ẁwmnîau sy'n cynnal prosiectau ymchwil a mentrau uwch-dechnolegol ym mhob math o feysydd o ^ectronegificrobioleg. Rhinwedd pennaf canolfan o'r fath ar wahân i'r ffaith syml ei bod yn cynnig to i ymchwilwyr yw ei bod ar Tîm Mentec: Dafydd Vernon Jones (Cyfarwyddwr), Mary Parry (derbynnydd), a Huw Pritchard (llyfrgellydd busnes). libart Coleg y Brifysgol a'r busnesau wedyn o fewn tafliad carreg i nid yn unig gyfarpar ac offer arbenigol ond meddyliau arbenigol hefyd. Rhoddir pob cymorth i'r sawl sy'n rhentu un o labordai MENTEC i sefydlu cysylltiadau cydweithredol ag adrannau gwyddoniaeth a pheirianneg y Coleg, i ddod i drefniant ymgynghoroi ag aelodau'r staff academaidd ac i ddefnyddio cyfarpar gwyddonol, offer arbrofi a dadansoddi a gweithdai'r Coleg. O fewn tafliad carreg y mae labordai cyfrifiadurol a Llyfrgell Wyddoniaeth y Coleg. Mae'r cysylltiad data uniongyrchol rhwng MENTEC a'r labordy cyfrifiaduron yn golygu bod modd i denantiaid MENTEC ddefhyddio'r ystod eang o feddalwedd sydd ar gael. Gyda'r holl gysylltiadau hyn dyma gyfle delfrydol i'r busnesau yn MENTEC ddefnyddio'r wyddoniaeth neu'r dechnoleg ddiweddaraf wrth ddatblygu èu syniadau a'u cynnyrch. Mae gan Goleg y Brifysgol, Bangor enw da yn fyd eang mewn sawl maes ymchwil. Er enghraifft y mae Adran Astudiaethau'r Môr, y Ganolfan Ymchwil Tir Diffaith, yr Adran Biocemeg a'r Ysgol Wyddor Peirianneg Electronaidd yn rhai blaengar. Mae gan Fangor arbenigrwydd mewn meysydd eraill hefyd, sef, amaethyddiaeth, biotechnoleg, coedwigaeth, arolygaeth ddaearegol, electroneg foleciwlar a biomoleciwlar, ymchwil weithredol mathemateg, cemeg organaidd ac anorganaidd, telathrebu a chynhyrchu meddalwedd.