Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cwmni MARINE, BIOLOGICAL AND CHEMICAL CONSULTANTS Symudodd cwmni MBCC sy'n ymgynhori ar yr amgylchedd i un o unedau MENTEC yn 1988. Sefydlwyd y cwmni gan Brian Egan o Bentraeth. Graddiodd Brian fel microbiolegydd ac mae ganddo sawl blwyddyn o brofiad mewn dadansoddi ac astudio elfennau sy'n achosi llygredd microbaidd. Bwriad MBCC yw cynnig gwasanaeth sy'n cynnwys cymryd samplau a'u dadansoddi ar gyfer rhaglenni amgylchedd fel archwiliadau aberoedd, astudiaethau o arllwysion carthffosiaeth ac astudiaethau tebyg ar gyfer y diwydiant peirianneg sifil yn ogystal â gwaith rheoli safonau rheolaidd ar gyfer y diwydiant cemegol yng ngogledd Cymru. Gall MBCC hefyd weithio fel ymgynghorwyr a dadansoddwyr er mwyn datrys problemau sydd yn gysylltiedig â chael gwared ar wastraff i'r môr a'r aberoedd, ansawdd rhediad dwr ac arolygiad o'r amgylchedd. Gall MBCC alw ar wasanaethau a phrofiad arbennig nifer o ymgynghorwyr gwyddonol trwyddedig sydd â diddordeb mewn meysydd fel ecoleg, swoleg, llysieueg, microbioleg a chemeg. Mae gan y cwmni hefyd drefniant sy'n ei alluogi i ddefnyddio amrywiaeth eang o offer dadansoddi soffistigedig fel offer spectrosgopeg a chromatograffi drwy Goleg y Brifysgol ym Mangor. Dywedodd y Cynghorydd Dr J. B. Hughes, cadeirydd MENTEC: 'A hithau'n gyfnod pan geir pryder cynyddol am lygredd a' effaith aryr amgylchedd mae'n bwysig iawn bod gennym gwmni annibynnol fel MBCC sy'n gallu cynnig gwasanaeth astudio'r amgylchedd yng Ngwynedd.' MENAI ORGANICS Cyf David Potter o MENAI ORGANICS yn dadansoddi cemegion organig. Sefydlwyd cwmni MENAI ORGANICS yn Awst 1987 pan symudodd Dr David Potter yn ôl i Fangor i ganolbwyntio ar y gwaith o syntheseiddio cemegion. Mae'r cwmni, sy'n cyflogi pedwar erbyn hyn, yn dal i arbenigo mewn syntheseiddio cemegion pur organig, a hefyd yn cynnig gwaith ymchwil a dadansoddi cyfrinachol drwy gytundeb. Mae'r farchnad am eu cynnyrch a'u gwasanaethau wedi ehangu'n sylweddol. Mae gan y cwmni hefyd gyflenwad eang o gemegion organig sydd bron yn amhosibl eu prynu ar y farchnad fel arall. Mae gan Dr Potter, a dderbyniodd ei ddoethuriaeth ym Mangor yn 1982, berthynas agos iawn ag Adran Gemeg y Coleg adran sydd â darpariaeth eang o offer dadansoddi modern. A.P. SHIELDING SYSTEMS Cyf A.P SHIELDING SYSTEMS yw'r cwmni diweddaraf i ymsefydlu ym MENTEC. Mae'r cwmni yn arbenigo yn y gwahanol agweddau ar ddiogelu pob math o offer a chyfarpar electronig rhag effeithiau electromagnetig. Gall Terry Rielly, y cyfarwyddwr, gynnig gwasanaeth ymgynghori sydd yn cynnwys dylunio ac adeiladu er mwyn rhwystro effeithiau electromagnetig. Terry Rielly o Applied Shielding Systems Cyf. gyda chyfarpar goleuol sydd wedi'i ddiogelu rhag effeithiau electromagenetig. Er mai dim ond un person sydd yn gysylltiedig â'r fenter ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd swyddi newydd yn cael eu creu yn fuan wrth i ymwybyddiaeth o ddeddfau newydd Ewrop ar ddiogelu rhag effeithiau electromagnetig gynyddu.