Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWASANAETH GWYBODAETH BUSNES CYNGOR SIR GWYNEDD Gwasanaeth newydd ar gyfer pobl busnes a masnach yng Ngwynedd yw Canolfan Gwybodaeth Busnes Gwynedd. Lleolir y gwasanaeth ym MENTEC, Bangor ac fe'i gweinyddir gan Huw Pritchard, Llyfrgellydd Busnes sy'n aelod o Wasanaeth Llyfrgell Gwynedd. Mae Huw ar gael i gynnig ymateb uniongyrchol i anghenion y person busnes. Gyda'r cysylltiadau uniongyrchol i sbectrwm eang o wybodaeth fasnachol, darperir gwasanaeth prydlon, proffesiynol a chyfrinachol. Sut gall y gwasanaeth fod o gymorth? Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybodaeth am gwmnïau, manylion cyfredol am farchnadoedd, Ewrop a 1992, grantiau a chymorthdaliadau, rhestr o gyflenwyr arbennig neu ddatblygiadau busnes lleol, gall y gwasanaeth ddarparu'r wybodaeth yn syth neu eich rhoi mewn cysylltiad â'r arbenigwyr perthnasol. Pa adnoddau sydd ar gael? Cyfarwyddiaduron cwmnïau a masnach rhai lleol, Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol Adroddiadau blynyddol gan brif gwmnïau a chyrff cyhoeddus Prydain, ynghyd â thoriadau eraill a all fod o ddiddordeb i'r person busnes lleol Adroddiadau a thoriadau o'r wasg ar gannoedd o gwmnïau yng Ngwynedd Set gyfan o lyfrau ffôn a Yellow Pages ar gyfer Prydain Gwybodaeth gyfredol ar archwiliadau masnach diweddar a chrynodebau o nifer a adroddiadau diweddar Y wybodaeth ddiweddaraf ar her 1992 a marchnad sengl Ewrop. Trwy gysylltiadau agos â Chanolfan Wybodaeth Ewropeaidd yn Yr Wyddgrug, gwybodaeth gynhwysfawr am y rheolau, deddfau a'r cyfleoedd diweddaraf Cedwir ystadegau swyddogol ac answyddogol o ddiddordeb i'r person busnes. Gellir hefyd alw ar adnoddau ystadegol Llyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ac Adran Wybodaeth Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd yng Nghaernarfon Ar gyfer y teithiwr busnes, mae casgliad eang o amserlenni a mapiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae cysylltiadau ffôn i gyfrifiaduron ledled y wlad yn galluogi'r llyfrgellydd i gysylltu â phrif ffynonellau gwybodaeth y byd, sy'n cael eu CYNGOR SIR GWYNEDD COUNTY COUNCIL golygu'n ddyddiol ac yn dal miliynau o ddarnau o wybodaeth Beth arall mae'r gwasanaeth yn ei gynnig? Huw Pritchard, y llyfrgellydd busnes sydd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Gwybodaeth Busnes yng Ngwynedd. Mae cyfleusterau llungopio a ffacs MENTEC ar gael. Trwy'r Llyfrgell Brydeinig mae modd cynnig gwasanaeth i archebu a dosbarthu dogfennau yn gyflym a chyfrinachol. Beth yw'r gost? Mae'r gwasaneth safonol yn rhad ac am ddim ond mae'n rhaid codi am lungopïo neu drosglwyddiadau drwy ffacs, a hefyd am waith ymchwil sydd yn golygu amser hir ar fasdata cyfrifiadurol. Ble mae'r gwasanaeth? Mae croeso i ymchwilwyr personol ddod i Ganolfan MENTEC a leolir ar Ffordd Deiniol, Bangor, drws nesaf i Lyfrgell Gwyddorau Coleg y Brifysgol Croesewir hefyd, wrth gwrs, ymholiadau ffôn, post neu ffacs. Am wybodaeth bellach cysylltwch â: Huw Pritchard (Llyfrgellydd Busnes), MENTEC, Ffordd DeinioL Bangor, Gwynedd, LL57 2UP. Ffôn: (0248) 354103 Ffacs: (0248) 352497.