Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau ar Ecoleg Cymru II Edward Llwyd (1660-1709) yw'r ail unigolyn. Bu'n ecolegwr heb ei ail, ac yn ei ddydd roedd yn Gymro enwog iawn, a chanddo ffrindiau diddorol iawn. Cyfeiriodd Hans Sloane a oedd ar y pryd yn Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, ato fel 'y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop'. A sicrhaodd John Ray, Martin Lister, Isaac Newton a Samuel Pepys fod ei lyfr ar ffosiliau Y Lithophyilaci Britannici yn cael ei gyhoeddi er bod y wasg yn Rhydychen ar streic ar y pryd. Dyma lyfr dail cerrig Prydain a chredai Edward Llwyd mai dail cerrig oeddan nhw. Dosbarthwyd y llyfr yng ngholegau pwysicaf Ewrop, ac fe'i broliwyd. Ond cofiwch yr oedd gan Edward Llwyd syniadau pur ryfedd am y ffosiliau yma yr oedd o'n awdurdod arnynt. Credai fod dyfroedd y dilyw wedi gyrru wyau anifeiliaid y môr a hadau'r planhigion i mewn i gramen y ddaear, ac i'r rheini dyfu yn y graig. Ond credai pawb y pryd hynny mai yn 4004cc y crëwyd y byd. Fe gafodd Edward Llwyd nifer o anrhydeddau ac fe'i dewiswyd yn geidwad Amgueddfa Ashmole, un o sefydliadau pwysicaf Rhydychen. Hefyd cafodd y fraint o'i wneud yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol. Mab i Edward Lloyd o Lanforda a Bridget Prys o Ogerddan dau hen deulu o dirfeddianwyr oedd Edward Llwyd Yr oedd ei dad yn llysieuwr da ac yn gyfaill i Edward Morgan Bodysgallen, llysieuwr pwysig ac ef oedd ceidwad gerddi llysiau meddyginaethol Westminster. Dyna'r dylanwadau a dyna beth oedd llysieueg yr amser hwnnw, adnabod planhigion oherwydd eu gallu i leddfu poen a gwella afiechydon. 'Doedd Edward Llwyd a'i dad ddim yn cyd-dynnu yn dda iawn, ac fel llawer i dad, mi fyddai hwn yn achwyn yn aml fod ei fab yn 'gwybod pob peth'. A chyn i Edward Llwyd erioed fynd i Goleg Iesu, Rhydychen yn 1682, 'roedd wedi cerdded a chasglu planhigion mewn llawer ardal yng Nghymru a hynny heb na char, camera, na bag plastig! arfau ecolegwyr heddiw. Y dystiolaeth gyntaf o'i ddiddordeb oedd y rhestrau planhigion a wnaeth a'r rheini wedi'u henwi'n ofalus, yn ogystal â'r man lle y'u casglwyd ar Yr Wyddfa a Chader Idris yng ngwanwyn 1682 cyn mynd i Rydychen. Yn ystod y crwydro yma, mae sôn am deithio trwy fwlch Llanberis, a llogi dyn i'w arwain, yn ôl yr arfer yr amser hwnnw. 'Doedd yna ddim ffordd drwy'r bwlch tan 1830 dim ond llwybr creigiog yn dilyn yr afon. Ar y pryd yr oedd yna ddwy gamedd ar Ben yr Orffwysfa Pen y Pass heddiw ac er syndod mawr i Edward Llwyd gwrthododd yr arweinydd fynd heibio nes cael adrodd pader mor gyflym ag y gallai naw gwaith, a charlamu o gylch y Cameddi; yr oedd hon yn ddefod bwysig iddo, er na allai ddweud paham wrth Edward Llwyd. Gwnaeth Edward Llwyd enw iddo'i hun yn wreiddiol drwy dynnu sylw at y fflora nodweddiadol iawn a dyfai ar greigiau uchel mynyddoedd Cymru, a darganfod a MARY VAUGHAN JONES Archaeologia Cambrensis PAROCHIALIA BEING A SUMMARY OF ANSWERS TO PAROCHIAL QUERIES IN ORDER TO A GEOGRAPHlCAL DICTIONARY, ETC., OF WALES" ISSUED BV EDWARÜ LHWYD PART III. NORTH WALES AND SOUTH WALES (Continutd). SUPPLEMENT JL'LY. 1911 LONDON Published for the Cambrian Archaeological association. Llun 1. disgrifio'n fanwl tua deugain o blanhigion na fu sôn amdanynt o'r blaen ym Mhrydain. Cyhoeddwyd Y manylion am y rhain yn llyfr safonol John Ray llysieuwr pwysicaf Prydain ar y pryd, a honodd Ray mai 'gwaith Llwyd yw addurn mwya'r lIyfr'. Rhaid dweud mai planhigion diddorol dros ben yw'r rhain sydd wedi goroesi Oes y Rhew y planhigion Arctig Alpaidd a lwyddodd fyw ar y creigiau uwch ben y rhewlifoedd er bod 'na ambell un yn anghydweld. Amryw fathau o dormaen, y derig, a brwynddail y mynydd oedd y planhigion ac maen nhw yno o hyd yn y cilfachau uchel oer, lle mae dwr oddi ar greigiau â ffosiliau cregyn ynddynt yn llifo o'u cwmpas. Mae r planhigion hyn yn tyfu hefyd yn yr Alpau, yn yr Himalayas. ac ar y Mynyddoedd Creigiog. Disgrifiodd Edward Llwyd blanhigyn a welodd yn rhai o lynnoedd Eryri, a'i alw yn Isoetes lacustris am ei fod yn edrych yr un fath yn y gaeaf a'r haf. Ar y pryd roedd Y llysieuwyr yn methu deall paham nad oedd yn blodeuo, er ein bod erbyn hyn yn gwybod mai rhedynen yw Isoetes cwilsyn y dwr.