Skip navigation

Y gwyddonydd

 - 

Cyf. 28, Rhif 2 Gaeaf 1991

Agweddau ar ecoleg Cymru

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Agweddau ar Ecoleg Cymru II
Edward Llwyd (1660-1709) yw'r ail unigolyn. Bu'n
ecolegwr heb ei ail, ac yn ei ddydd roedd yn Gymro enwog
iawn, a chanddo ffrindiau diddorol iawn. Cyfeiriodd Hans
Sloane a oedd ar y pryd yn Llywydd y Gymdeithas
Frenhinol, ato fel 'y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop'.
A sicrhaodd John Ray, Martin Lister, Isaac Newton a
Samuel Pepys fod ei lyfr ar ffosiliau Y Lithophyilaci
Britannici yn cael ei gyhoeddi er bod y wasg yn
Rhydychen ar streic ar y pryd. Dyma lyfr dail cerrig Prydain
a chredai Edward Llwyd mai dail cerrig oeddan nhw.
Dosbarthwyd y llyfr yng ngholegau pwysicaf Ewrop, ac fe'i
broliwyd. Ond cofiwch yr oedd gan Edward Llwyd
syniadau pur ryfedd am y ffosiliau yma yr oedd o'n
awdurdod arnynt. Credai fod dyfroedd y dilyw wedi gyrru
wyau anifeiliaid y môr a hadau'r planhigion i mewn i
gramen y ddaear, ac i'r rheini dyfu yn y graig. Ond credai
pawb y pryd hynny mai yn 4004cc y crëwyd y byd.
Fe gafodd Edward Llwyd nifer o anrhydeddau ac fe'i
dewiswyd yn geidwad Amgueddfa Ashmole, un o
sefydliadau pwysicaf Rhydychen. Hefyd cafodd y fraint
o'i wneud yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol.
Mab i Edward Lloyd o Lanforda a Bridget Prys o
Ogerddan dau hen deulu o dirfeddianwyr oedd Edward
Llwyd Yr oedd ei dad yn llysieuwr da ac yn gyfaill i Edward
Morgan Bodysgallen, llysieuwr pwysig ac ef oedd ceidwad
gerddi llysiau meddyginaethol Westminster. Dyna'r
dylanwadau a dyna beth oedd llysieueg yr amser hwnnw,
adnabod planhigion oherwydd eu gallu i leddfu poen a
gwella afiechydon.
'Doedd Edward Llwyd a'i dad ddim yn cyd-dynnu yn dda
iawn, ac fel llawer i dad, mi fyddai hwn yn achwyn yn aml
fod ei fab yn 'gwybod pob peth'. A chyn i Edward Llwyd
erioed fynd i Goleg Iesu, Rhydychen yn 1682, 'roedd wedi
cerdded a chasglu planhigion mewn llawer ardal yng
Nghymru a hynny heb na char, camera, na bag plastig!
arfau ecolegwyr heddiw.
Y dystiolaeth gyntaf o'i ddiddordeb oedd y rhestrau
planhigion a wnaeth a'r rheini wedi'u henwi'n ofalus, yn
ogystal â'r man lle y'u casglwyd ar Yr Wyddfa a Chader
Idris yng ngwanwyn 1682 cyn mynd i Rydychen. Yn ystod
y crwydro yma, mae sôn am deithio trwy fwlch Llanberis,
a llogi dyn i'w arwain, yn ôl yr arfer yr amser hwnnw.
'Doedd yna ddim ffordd drwy'r bwlch tan 1830 dim ond
llwybr creigiog yn dilyn yr afon. Ar y pryd yr oedd yna
ddwy gamedd ar Ben yr Orffwysfa Pen y Pass heddiw
ac er syndod mawr i Edward Llwyd gwrthododd yr
arweinydd fynd heibio nes cael adrodd pader mor gyflym
ag y gallai naw gwaith, a charlamu o gylch y Cameddi; yr
oedd hon yn ddefod bwysig iddo, er na allai ddweud paham
wrth Edward Llwyd.
Gwnaeth Edward Llwyd enw iddo'i hun yn wreiddiol
drwy dynnu sylw at y fflora nodweddiadol iawn a dyfai ar
greigiau uchel mynyddoedd Cymru, a darganfod a
MARY VAUGHAN JONES
Archaeologia Cambrensis
PAROCHIALIA
BEING A SUMMARY OF ANSWERS
TO
PAROCHIAL QUERIES
IN ORDER TO A
GEOGRAPHlCAL DICTIONARY, ETC., OF WALES"
ISSUED BV
EDWARÜ LHWYD
PART III.
NORTH WALES AND SOUTH WALES
(Continutd).
SUPPLEMENT
JL'LY. 1911
LONDON
Published for the Cambrian Archaeological association.
Llun 1.
disgrifio'n fanwl tua deugain o blanhigion na fu sôn
amdanynt o'r blaen ym Mhrydain. Cyhoeddwyd Y
manylion am y rhain yn llyfr safonol John Ray llysieuwr
pwysicaf Prydain ar y pryd, a honodd Ray mai 'gwaith
Llwyd yw addurn mwya'r lIyfr'. Rhaid dweud mai
planhigion diddorol dros ben yw'r rhain sydd wedi goroesi
Oes y Rhew y planhigion Arctig Alpaidd a lwyddodd
fyw ar y creigiau uwch ben y rhewlifoedd er bod 'na ambell
un yn anghydweld. Amryw fathau o dormaen, y derig, a
brwynddail y mynydd oedd y planhigion ac maen nhw yno
o hyd yn y cilfachau uchel oer, lle mae dwr oddi ar greigiau
â ffosiliau cregyn ynddynt yn llifo o'u cwmpas. Mae r
planhigion hyn yn tyfu hefyd yn yr Alpau, yn yr Himalayas.
ac ar y Mynyddoedd Creigiog.
Disgrifiodd Edward Llwyd blanhigyn a welodd yn rhai o
lynnoedd Eryri, a'i alw yn Isoetes lacustris am ei fod yn
edrych yr un fath yn y gaeaf a'r haf. Ar y pryd roedd Y
llysieuwyr yn methu deall paham nad oedd yn blodeuo, er
ein bod erbyn hyn yn gwybod mai rhedynen yw Isoetes
cwilsyn y dwr.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.