Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn 1693 gofynnwyd iddo ddiwygio llyfr Camden ar hanes Prydain, ac iddo sôn yn neilltuol am Gymru. Cafodd ei waith dipyn o sylw. Wedyn dyma sgweiars Cymru yn cael syniad, ac yn cynnig arian iddo wneud arolwg mwy trwyadl o Gymru yn unig. Ond yr oeddynt yn eithaf cyndyn o fynd i'w pocedi wedyn. Aeth Edward Llwyd ati i eynllunio yr Archaeologia Cambrensis a Natural History of Wales. Cynlluniodd holiadur pwrpasol i gael gwybodaeth hanesyddol ac ecolegol am bob plwyf, a gyrru hwn i bob plwyf yng Nghymru ac i blwyfi siroedd y gororau yn holi am ansawdd y tir, y tywydd, y creigiau a'r traethau, y cnydau, hen olion, hen hanesion, ac os yn bosibl casglu hen lawysgrifau. Crwydrodd Gymru yn ymweld â phob plwyf a chael y syniad wedyn o ymweld â'r gwledydd Celtaidd. Dyna'r bererindod fawr a gymerodd bedair mlynedd rhwng 1697 a 1701, y fo a thri gwrifancynteithio Cymru, yr Alban, Iwerddon, Llydaw a Chemyw, gan gasglu hanesion, gwneud nodiadau a mapiau, chwilota, a chasglu hen lawysgrifau. Yr oedd y crwydro yma yn digwydd yn ystod cyfnod o dywydd garw a elwir yn oes fach y rhew, pan fethodd y cynhaeaf yn yr Alban am saith mlynedd. Fedra fo ddim dibynnu ar y mapiau, yr oedd y ffyrdd yn wael, a lladron pen-ffordd yn rhemp. Erbyn y diwedd yr oedd wedi teithio tair mil o filltiroedd ar droed neu ar gefn ceffyl. A ffrwyth hyn i gyd dwy gist ar hugain yn llawn o nodiadau, lluniau, mapiau a llawysgrifau yn cyrraedd yr Ashmolean. A beth ddigwyddodd i'r trysorau hyn? Aeth papurau'r Alban ac Iwerddon i Goleg y Drindod, Dulyn. Aeth Llyfr Coch Hergest i Goleg Iesu, Rhydychen. A'r drasiedi collwyd llawer o hanesion Cymru mewn tân mawryng nghartref Thomas Johnes yn Hafod Uchtryd Ceredigion, a chollwyd eraill mewn tân yn y swyddfa rwymo yn Llundain lle yr oedd Syr Watcyn Williams Wyn wedi'u gyrru. Wrth lwc mae amryw ar gael o hyd a'r rheini'n eithaf llawn, ond am Sir Gaernarfon dim ond adroddiadau am Fetws y Coed, Caerhun a Llanwnda sydd ar gael a rhai Llanwnda yn dila iawn beth bynnag. Mae llythyrau Edward Llwyd hefyd yn ddiddorol dros ben ac yn rhoi golwg ddieithr i ni ar Gymru dri chan mlynedd yn ôl dyma un hynod iawn a yrrwyd i Martin Lister. 'Mae'n debyg eich bod wedi clywed am yr heidiau o Dangosodd ymchwil ddiweddar ym Mhrifysgol Sussex fod perthynas rhwng ein harferion bwyta a'n gallu i ganolbwyntio. Ymddengys fod bwyta brecwast yn ein galluogi i ymdopi ag unrhyw dasg sy'n dilyn yn llawer gwell na phe na fyddem wedi bwyta brecwast. Ond y pryd mwyaf anfanteisiol i'n gallu i ganolbwyntio ar ein gwaith yw cinio canol dydd. Fel y mae ein brodyr yn y gwledydd poethion wedi'i ddarganfod ers talwm, mae'n talu caei cyfnod o orffwys ar ôl cinio canol dydd. Mae ein gallu i ganolbwyntio yn y cyfnod hwn yn dibynnu ar gael rhywbeth i'w fwyta ai peidio. 'Roedd y rhai hynny na chwasant rywbeth i'w fwyta yn perfformio 14 y cant yn well yn gynnar yn y prynhawn na'r rhai a gafodd ginio. Ni fesurwyd sut oeddynt yn perfformio erbyn diwedd y prynhawn os nad oeddynt wedi bwyta cinio! Mae peth tystiolaeth fod paned o goffi wedi bwyta yn gymorth i adfer y sefyllfa ac i'n galluogi i ganolbwyntio ar ddechrau'r prynhawn. Awgryma'r ymchwilwyr y dylem ail-drefnu ein gwaith fel nad ydym yn gwneud dim byd pwysig yn syth ar ôl cinio canol dydd. iapG. locustiaid sydd wedi disgyn ar y traethau ym Mhrydain yn ddiweddar? Ar yr 20 o Hydref daeth haid i lawr ym Mathri Sir Benfro, a gwelwyd dau gwmwl mawr ohonynt uwchben Dolgellau. Yr oedd pawb yn meddwl mai sboncyn gwair mawr oeddynt ond nid Hydref yw tymor y rhain, ac mae'r pryfed yn rhy fawr ac yn rhy frown. O ble y daeth y pryfed dieithr yma? Wn i ddim ond mae gennyf yma yn yr Ashmolean, locustiaid a gefais gan John Aubrey o Tangier, ac maent yn debyg iawn i'r rhain o Ddolgellau.' Llun 2 Lloydia serotina (Brwynddail y mynydd). Mi oedd John Aubrey yn ddyn eithaf enwog, ac y mae ei enw ar y cylch o dyllau sy'n amgylchynu Côr y Cewri. 'Roedd Edward Llwyd yn athrylith o ddyn, yn bell o flaen ei oes. Pwy a allai fod yn awdurdod ar ecoleg planhigion, ac ar hanes adar, yn awdurdod ar ffosiliau, a hefyd ar ieitheg, archaeoleg a daeareg neb ond dyn neilltuol iawn. A'i gofeb y planhigion prinnaf a welodd ar greigiau'r Wyddfa, sy'n tyfu hefyd ar yr Alpau ac yn Siberia y fo Edward Llwyd a gofir yn yr enw Lloydia serotina (Brwynddail y mynydd) y planhigyn a oroesodd y Rhew mawr a dyma gychwyn stori Syr Harry Godwin. Pryd í fwyta?